Awgrymiadau Atal

Rho wobrau i ti dy hun

Un o’r pethau y byddi di’n sylwi arno’n fuan ar ôl rhoi’r gorau i smygu yw y bydd gen ti fwy o arian. Adia’r arian i fyny ac efallai y cei di ei fod yn ddigon i wneud y peth hwnnw rwyt ti eisiau ei wneud ers hydoedd. Pryna rywbeth neis i ti dy hun, gwyliau efallai?

Cyn-smygwr wyt ti, nid smygwr sy’n cael al amddifadu

Hyd yn oed os wyt ti’n defnyddio rhywbeth fel e-sigarét, gwm neu batsys i roi’r gorau i smygu, efallai y cei di dy fod ti eisiau sigaréts o hyd. Ychydig o ddyddiau ar ôl i ti roi’r gorau i smygu, byddi di’n cael bod dy synnwyr arogleuo a blasu’n gwella a bydd dy gorff yn teimlo’n iachach. Paid â mentro colli hynny i gyd am un sigarét. Mae un pwff yn atgoffa dy gorff o’r hyn dyw e ddim yn ei gael.

Cofia nad wyt ti ddim ar dy ben dy hun

Mae cefnogaeth gan deulu a ffrindiau’n amhrisiadwy. Gwell fyth, perswadia nhw i roi’r gorau iddi gyda ti! Mae dy feddyg neu fferyllfa leol ar gael bob amser i roi cyngor, hefyd. Os wyt ti byth yn teimlo temtasiwn, cofia ein bod ni yma i gael sgwrs.

Meddylia mewn ffordd gadarnhaol!

Os wyt ti’n cael dy demtio, meddylia am unrhyw beth ond tanio sigarét. Po leiaf y byddi di’n meddwl am smygu, hawsaf fydd hi i roi’r gorau iddi. Cofia, rwyt ti’n well na’r sigaréts ’na!

Ceisia osgoi ysgogwyr

Mae alcohol a choffi’n ddau beth sydd yn aml yn gwneud i rywun feddwl am smygu. Gwna ymdrech i beidio ag yfed mwy nag ychydig o baneidiau o de a choffi bob dydd os yw’r aroglau’n d’atgoffa gormod o smygu. Paid ag yfed alcohol os wyt ti’n meddwl y bydd e’n gwanhau grym dy ewyllys.

Rhestra dy resymau dros roi’r gorau iddi

Gwna restr o’r rhesymau pam rwyt ti eisiau rhoi’r gorau i smygu. Rho hi mewn man lle byddi di’n ei gweld bob dydd, fel yn dy bwrs neu dy boced. Bydd cadw’r rhesymau hyn wrth law yn dy helpu i ddod trwy’r adegau anodd hynny pan gei di dy demtio.

Penderfyniad = llwyddiant

Hyd yn oed gyda chymorth patsys a gwm nicotin, bydd angen penderfyniad haearnaidd arnat i roi’r gorau i smygu am byth. Mae smygu’n gaethiwed nerthol a bydd angen grym dy ewyllys i’w guro. Aros yn gadarn!

Amnewid

Weithiau gall fod yn anodd dweud na i smygu os wyt ti allan gyda ffrindiau. Gelli di gario potel o ddŵr i gadw dy ddwylo’n brysur. Gall cnoi gwm neu sugno loli dy helpu di i wrthsefyll yr awydd i smygu. Neu gelli di gael Therapi Amnewid Nicotin (gwm neu batsys) a all leddfu’r awydd.

Cymryd rheolaeth

Defnyddia rym dy ewyllys a gofyn i ti dy hun ‘Faint ydw i angen y sigarét hon mewn gwirionedd?’ Atgoffa dy hun o’r holl resymau pam wnest ti benderfynu rhoi’r gorau i smygu yn y lle cyntaf. Wyt ti wir eisiau gwastraffu dy holl waith caled ar ôl dod mor bell â hyn?

Cadwa’n brysur…

…a chadwa’n brysur. Beth am roi cynnig ar hobi newydd, tacluso ychydig neu wneud ymarfer corff? Cofia, dim ond ychydig o funudau bydd yr awydd yn para – paid ag ildio iddo! Rhanna dy stori gyda ni, efallai y gallai hynny dynnu dy feddwl oddi arno.

Ymarfer corff

Rho gynnig ar gerdded, rhedeg, beicio neu nofio – does dim rhaid ei wneud am amser hir. Mae gweithgarwch corfforol yn ffordd wych o ddelio â straen cronedig.

Lleddfu straen

Rho gynnig ar ffyrdd newydd o ymlacio a delio â straen fel canolbwyntio ar y ffordd rwyt ti’n anadlu, cymryd hoe’n rheolaidd neu ychydig o ymarfer corff. Ioga, rhywun?

Dychmyga dy hun ymhen 5 mlynedd

Ble wyt ti eisiau bod yn dy fywyd? Wyt ti’n gweld dy hun yn smygwr bryd hynny?

Bwyta’n gall

Yn aml mae’r awydd am sigarét yn cael ei gamgymryd am awydd am fwyd. Os wyt ti’n cael mwy o awydd bwyd nag arfer, gelli di fwyta byrbrydau iach fel grawnwin neu ffyn moron. Cadwa botyn bach ohonyn nhw wrth law ar gyfer adegau anodd.

Cyn-smygwr wyt ti, nid smygwr sy’n cael ei amddifadu

Hyd yn oed os wyt ti’n defnyddio rhywbeth fel e-sigarét, gwm neu batsys i roi’r gorau i smygu, efallai y cei di dy fod ti eisiau sigaréts o hyd. Ychydig o ddyddiau ar ôl i ti roi’r gorau i smygu, byddi di’n cael bod dy synnwyr arogleuo a blasu’n gwella a bydd dy gorff yn teimlo’n iachach. Paid â mentro colli hynny i gyd am un sigarét. Mae un pwff yn atgoffa dy gorff o’r hyn dyw e ddim yn ei gael.

Wps!

Cofia y bydd ’na eiliadau pan fyddi di’n teimlo fel dweud wfft i’r cyfan ac ymestyn am sigarét. Gall fod yn argyfwng personol fel ffrae gartref neu bwysau yn y gwaith. Cer y tu allan neu i’r tŷ bach i gael ychydig o funudau o lonydd.

Tri chynnig i gymro… (neu gymraes)

Mae pobl yn atgwympo o dro i dro, felly paid â digalonni. Mae’r rhan fwyaf o gyn-smygwyr wedi ceisio rhoi’r gorau iddi sawl gwaith cyn llwyddo. Meddylia amdano fel problem dros dro yn hytrach na methiant. Defnyddia’r profiad a dysga ohono fel y byddi di’n fwy parod y tro nesaf.