Mae ASH Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw ynghylch yr ymgynghoriad ar wahardd smygu mewn ceir pan fo plant o dan 18 oed yn bresennol.
Mae yna gefnogaeth helaeth gan y cyhoedd i wahardd smygu mewn ceir sy’n cludo plant, gyda 4 o bob 5 oedolyn yng Nghymru (79%) bellach eisiau gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno, yn ôl arolwg a wnaethpwyd gan YouGov ar ran ASH Cymru yn 2014.
Er bod ASH Cymru hefyd yn croesawu’r adroddiad bod nifer y plant sy’n dod i gysylltiad â smygu mewn cerbydau preifat wedi gostwng, mae rhagor i’w wneud o hyd. Mae tystiolaeth o Ganada wedi dangos gostyngiad cyflymach yn y graddau mae plant yn dod i gysylltiad â mwg ail-law mewn cerbydau mewn gwledydd â gwaharddiad nac mewn gwledydd sydd wedi cynnal ymgyrchoedd addysgu’n unig.