Arddangos tybaco mewn mannau gwerthu

Y prif reswm dros wahardd arddangos cynhyrchion tybaco mewn mannau gwerthu yw er mwyn gwarchod plant a phobl ifanc rhag hyrwyddiadau tybaco.

Y rhesymau dros wahardd arddangosiadau mewn mannau gwerthu

Public Support

Dangosodd arolwg gan YouGov a gynhaliwyd i ASH Cymru yn 2016 fod 72% o oedolion yng Nghymru’n cefnogi cuddio cynhyrchion tybaco o’r golwg mewn siopau1

Pobl Ifanc

Canfu gwaith ymchwil arhydol ar raddfa fawr rhwng 1999 a 20063, ar ran Cancer Research UK, mai’r man gwerthu, erbyn 2006, oedd y ffordd y daeth pobl ifanc yn fwyaf ymwybodol o frandiau tybaco, gyda 46% o bobl ifanc yn ymwybodol o farchnata tybaco yn y man gwerthu

Atgwymp

Canfu adolygiad systematig fod arddangosiadau man gwerthu yn cynyddu tueddiad i smygu a’r nifer sy’n dechrau smygu ymysg pobl ifanc4, a gallant hefyd hwyluso atgwymp ymysg cyn-smygwyr a’r rheiny sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi5.

Deniadol

Mae’n gwneud tybaco’n llai hygyrch i bobl ifanc ac yn llai gweladwy i blant, sy’n helpu i fynd i’r afael â’r ddelwedd o smygu fel gweithgaredd diniwed, cyffredin. Mae delweddau tybaco’n cael dylanwad arbennig ar blant a phobl ifanc6 & 7

Y stori hyd yma

Erbyn hyn mae sigaréts wedi’u cuddio o’r golwg yn yr holl siopau, fel archfarchnadoedd, yng Nghymru ar ôl i reoliadau newydd ddod i rym ar 3ydd Rhagfyr 2012 (a 6ed Ebrill 2015 i siopau bach fel siopau cornel) yn gwahardd arddangos cynhyrchion tybaco mewn mannau gwerthu.

Y dyfodol

Dangosodd ymchwil a wnaethpwyd ar ôl i arddangosiadau mewn mannau gwerthu gael eu gwahardd yn Iwerddon fod cydymffurfiaeth yn dda ymysg siopau. Hefyd daeth pobl ifanc yn llai hyderus y byddent yn gallu prynu sigaréts o siopau ac nid oeddent yn gallu cofio brandiau cystal, gyda gostyngiad o 80% i 22% ar ôl gweithredu’r gwaharddiad.

tesco3

1YouGov 2016, Cyfanswm y sampl oedd 1048 o oedolion. Gwnaethwyd y gwaith maes rhwng 2ail a 23ain Mawrth 2016. Cynhaliwyd yr arolwg ar lein. Mae’r ffigurau wedi cael eu pwysoli ac maent yn gynrychiadol o holl oedolion Cymru (18+ oed).

2Robinson S a Bugler C. Smoking and drinking among adults, 2008. General Lifestyle Survey 2008. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2010.

3Hastings, G. et al. (2008). Point of Sale Display of Tobacco Products. Centre for Tobacco Control Research: Prifysgol Stirling a’r Brifysgol Agored.

4Paynter, J. ac Edwards, R. (2009) ‘The impact of tobacco promotion at the point of sale: A systematic review.’ Ni Tob Res: 11: 25-35.

5Wakefield, M. (2007) ‘The effect of retail cigarette pack displays on impulse purchase.’ Addiction: Tachwedd 2007.

6Pierce JP, Gilpin E, Burns DM, et al. Does tobacco advertising target young people to start smoking? Evidence from California. JAMA.1991; 266:3154–3158

7Lovato, C et al. Cochrane Review: Impact of tobacco advertising and promotion on increasing adolescent smoking behaviours. Llyfrgell Cochrane, Rhifyn 2, 2004