Smoking in the home, Wales

Y cartref yw’r prif fan lle mae plant ac anifeiliaid anwes yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â mwg ail-law. Rydyn ni’n ateb rhai cwestiynau cyffredin i’ch helpu i wneud eich cartref yn ddi-fwg.

Pam ddylwn i roi’r gorau i smygu yn fy nghartref?

Mae 80% o fwg sigaréts yn anweladwy

Mae’n gwneud mwy o niwed nag yr ydych chi’n tybio. Mae’r gwenwynau anweladwy’n aros yn y tŷ am hyd at 5 awr. Mae’n cynnwys gronynnau sy’n llai na llwch tŷ, felly mae’n symud yn hawdd o’r naill ystafell i’r llall.

Er mwyn y plant

Mae plant yn llawer mwy agored i niwed gan fwg ail-law nag oedolion. Mae ganddyn nhw lwybrau anadlu bach ac maen nhw’n anadlu’n gyflymach; mae eu hysgyfaint a’u systemau imiwnedd yn dal i ddatblygu. Maen nhw’n wynebu risg peswch, anwydau, problemau â’u clustiau, heintiau yn y frest, problemau anadlu a gweithrediad ysgyfaint gwaeth.

Er mwyn eich anifeiliaid anwes

Fel plant, mae gan ein hanifeiliaid anwes ysgyfaint bach. Pan mae rhywun yn smygu’n agos iddynt, maen nhw’n llyfu eu blew ac yn llyncu’r gronynnau mwg sy’n glynu wrtho. Gall mwg ail-law achosi problemau anadlu, symptomau tebyg i asthma a chanser mewn cathod, cŵn, cwningod, adar a hyd yn oed pysgod aur!

Er mwyn eich celfi

Mwg trydedd-law yw’r gweddill tybaco sy’n cael ei adael ar ôl smygu. Mae’n cronni ar wynebau a deunyddiau, gan staenio waliau, carpedi, llenni a deunyddiau golau. Gall plant lyncu mwg trydedd-law trwy roi eu dwylo yn eu cegau ar ôl cyffwrdd ag wynebau halogedig, fel celfi a theganau.

Er mwyn eich cymdogion

Gall mwg ail-law lithro i mewn i gartrefi pobl eraill. Mae’n bosibl y bydd dod i gysylltiad ag ychydig bach ohono’n achosi llid yn y llygaid a’r ysgyfaint, cyfog a chur pen / pen tost, yn ogystal ag achosi aroglau annymunol mewn cartrefi cyfagos.

Perygl tân

Yn y Deyrnas Unedig, mae rhywun yn marw mewn tân a achoswyd gan sigarét bob 3 diwrnod. Yn 2014/15, achoswyd 163 o danau gan ddeunyddiau smygu yng Nghymru.  Defnyddio e-sigarét dan do? Byddwch yn arbennig o ofalus gyda’r gwefrwyr gan fod y rhain hefyd wedi achosi tanau mewn tai ar draws Cymru. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn eu gadael yn gwefru am gyfnodau hir neu pan nad oes neb gartref, a gochelwch rhag nwyddau ffug neu eilradd.

dakota-corbin-272274-unsplash

Beth am agor y ffenestr?

Yn aml mae pobl yn meddwl y gallan nhw gael gwared ar berygl dod i gysylltiad â mwg ail-law trwy agor ffenestri neu ddrysau, peidio â smygu o flaen y plant, smygu mewn un ystafell, smygu o dan wyntyll echdynnu neu ddefnyddio teclynnau puro aer, ffresnydd aer neu ganhwyllau.

Y gwir yw, does dim un o’r rhain yn gweithio! Nid oes unrhyw lefel ddiogel o gysylltiad â mwg ail-law. Mae 80% o fwg sigaréts yn anweladwy a’r unig ffordd i leihau cysylltiad â mwg ail-law yn gyfan gwbl yw trwy smygu y tu allan i’r cartref a chau’r drws.

kelly-sikkema-605025-unsplash

Beth yw’r buddion?

Arbed arian

Gall rhoi’r gorau i smygu arbed llawer o arian. Yn smygu 20 sigarét y dydd? Gallech arbed hyd at £2920! Oes rhywun yn ffansio gwyliau?

Gweld y meddyg teulu’n llai aml

Bydd angen i blant fynd i weld y meddyg ynghylch problemau â’r llygaid, y clustiau a’r frest yn llai aml, ac maen nhw’n llai tebygol o ddatblygu asthma.

Gweld y milfeddyg yn llai aml

Bydd anifeiliaid anwes yn iachach ac yn llai tebygol o ddatblygu problemau anadlu neu ganser – gan arbed arian ar filiau’r milfeddyg.

Cartref hapus

Mae llai o berygl tân yn y tŷ ac ni fydd eich cartref yn arogleuo o sigaréts mwyach!

Sut allaf i wneud fy nghartref yn ddi-fwg?

Byddwch yn barod

Pennwch ddyddiad ar gyfer eich cartref di-fwg a dywedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau. Gwnewch restr o bethau eraill y gallwch eu gwneud i dynnu’ch sylw pan rydych chi’n teimlo fel cael mwgyn.

Os oes gennych chi le yn yr awyr agored, cadwch flwch llwch y tu allan ac efallai hyd yn oed cadair. Rhag ofn glaw, gadewch ymbarél neu esgidiau neu siaced wrth-ddŵr wrth y drws.

emma-matthews-558684-unsplash

Ewch allan i smygu

Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr bod eich plant yn ddiogel yn y tŷ. Yna caewch unrhyw ffenestri yn agos i le rydych chi’n smygu a chaewch y drws y tu ôl ichi.

Heb le yn yr awyr agored? Achubwch ar gyfleoedd gwahanol i smygu pan rydych chi allan – wrth fynd â’r sbwriel allan neu gerdded i’r siopau. Wedyn defnyddiwch chwistrell, gwm, patsys neu losin nicotin i’ch helpu i ymdopi trwy’r dydd, pan rydych chi yn y tŷ.

azat-satlykov-391806-unsplash

Gofynnwch i’ch gwesteion smygu y tu allan hefyd

Yn gyntaf, tecstiwch ymwelwyr ymlaen llaw, yn enwedig os ydyn nhw wedi arfer â thanio mwgyn yn eich tŷ chi. Rhowch wybod iddyn nhw bod eich cartref yn ddi-fwg ac y bydd yn rhaid iddyn nhw smygu y tu allan.
Os nad oes gennych chi unrhyw le yn yr awyr agored lle gallwch chi ac ymwelwyr smygu, dywedwch wrthyn nhw i smygu cyn cyrraedd neu i ddod â phatsys, gwm neu losin nicotin i’w helpu i ymdopi.

william-iven-8515-unsplash

Dal â chwestiynau?

Lawrlwytho ein pecyn gwybodaeth

Y cartref yw’r prif fan lle mae plant ac anifeiliaid anwes yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â mwg ail-law. Mae’r llyfryn hwn yn llawn awgrymiadau a chwestiynau cyffredin i’ch helpu i benderfynu a ddylai’ch cartref fod yn ddi-fwg ai peidio.

I gael awgrymiadau a chyngor cyflym, anfonwch neges atom ar Facebook!

Anfonwch neges atom i gael cyngor cyfeillgar am ddim gan ein cynghorwyr. Ewch i’n tudalen ar Facebook i gael cyngor gan bobl eraill sy’n rhoi’r gorau iddi yn ogystal ag awgrymiadau ac ysgogiad dyddiol.

Pwy all fy helpu i roi’r gorau i smygu?

Cymorth wedi’i deilwra

Mae Helpa fi i stopio yn wasanaeth di-dâl newydd gan y GIG yng Nghymru. Bydd yn eich helpu i ddewis y ffordd orau o roi’r gorau iddi, boed cymorth dros y ffôn, cyfarfodydd un i un neu grŵp neu’r fferyllfa leol. Gall hefyd argymell pa bethau amnewid nicotin, fel patsys neu gwm, sydd orau i chi.

Ewch i:  http://www.helpmequit.wales/cy/ 

Ffôn: 0800 085 2219 – Tecstiwch: HMQ i 80818