Ceir di-fwg

Daeth smygu mewn cerbyd preifat pan fo rhywun o dan 18 oed yn bresennol yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref 2015

Pam gwahardd smygu mewn ceir?

Iechyd plant

Mae plant yn arbennig o agored i niwed gan fwg ail-law; mae ganddynt ysgyfaint llai, maent yn anadlu’n gyflymach ac mae eu systemau imiwnedd yn llai datblygedig, sy’n eu gwneud yn fwy agored i heintiau resbiradol a heintiau clust a achosir gan smygu goddefol1.

Clefydau

Mae smygu goddefol yn arwain at fwy na 165,000 o byliau newydd o glefydau o bob math ymysg plant, 300,000 o ymgynghoriadau gofal sylfaenol, 9,500 o dderbyniadau i ysbytai, ac oddeutu 40 achos o syndrom marwolaeth sydyn babanod bob blwyddyn2.

Smygu goddefol

Mae ymchwil wedi dangos bod un sigarét sy’n cael ei smygu mewn car sy’n symud gyda’r ffenestr yn lled agored yn golygu bod plentyn yng nghanol y sedd gefn yn dod i gysylltiad â rhyw ddau draean o’r mwg ail-law ag mewn tafarn gyffredin lawn mwg.

Cefnogaeth gan y cyhoedd

O ran cefnogaeth gan y cyhoedd, roedd 4 o bob 5 oedolyn yng Nghymru (79%) o blaid gwahardd smygu mewn ceir sy’n cludo plant o dan 18 oed yn 20144 & 6.

Y stori yng Nghymru

Cafwyd adroddiad ar gysylltiad plant â mwg ail-law mewn ceir yn astudiaeth CHETS Cymru 2 2014. Canfu’r ymchwilwyr fod 3.6% o’r holl blant 10 ac 11 oed yn y sampl, sef 7.0% o blant smygwyr, yn dweud y buont mewn car lle’r oedd rhywun wedi smygu y diwrnod cynt, o gymharu â’r ffigurau cyfatebol sef 6.9% a 13.5% a gofnodwyd yn 2007.

Buom yn cefnogi Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint a Chychwyn Iach Cymru yn eu hymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ynghylch smygu mewn cerbydau preifat (a elwir yn fwy cyffredin smygu mewn ceir) pan mae plant yn bresennol. Rydym yn falch bod ein gwaith cyd-ymgyrchu ynghyd â chefnogaeth gan y cyhoedd wedi arwain at greu’r gyfraith newydd hon a’i rhoi ar waith.

Pwyntiau allweddol am y gyfraith

Nid troi smygwyr yn droseddwyr yw bwriad y gyfraith newydd hon, ond yn hytrach diogelu plant rhag y peryglon osgoadwy mae mwg tybaco yn eu hachosi i’w hiechyd a’u lles.  Mae’r gyfraith wedi creu dwy drosedd newydd: un i’r person sy’n smygu ac un i’r gyrrwr am beidio ag atal smygu mewn car gyda phlentyn o dan 18 oed yn bresennol. Caiff trosedd ei chyflawni dim ond pan mae’r cerbyd yn gaeedig ac mae mwy nag un person yn bresennol.

Mae’n drosedd i berson o unrhyw oed smygu mewn cerbyd preifat sy’n cludo rhywun dan 18 oed

Mae’n drosedd i yrrwr, gan gynnwys gyrrwr â thrwydded dros dro, beidio ag atal rhywun rhag smygu mewn cerbyd preifat sy’n cludo rhywun dan 18 oed

Mae’r gyfraith yn berthnasol hyd yn oed os yw’r ffenestri neu’r to haul ar agor, os yw’r system aerdymheru ar waith, neu os yw’r smygwr yn eistedd yn nrws agored y cerbyd. Nid yw’n berthnasol pan mae’r to i lawr yn gyfan gwbl ar gar codi to

Mae’r gyfraith yn berthnasol i bob gyrrwr yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys y rheiny sy’n 17 oed a’r rheiny sydd â thrwydded yrru dros dro.  Nid yw’r gyfraith yn berthnasol os yw’r gyrrwr yn 17 oed ac yn smygu ar ei ben ei hun mewn cerbyd preifat

Gallai’r gyrrwr a’r smygwr gael dirwy o £50 pe baen nhw’n cael eu dal yn torri’r ddeddfwriaeth

Nid yw’r rheolau’n berthnasol i e-sigaréts

Gorfodi

Yn debyg i’r gyfraith ar wisgo gwregysau diogelwch, mae’r gyfraith hon yn fater o hunan-blismona yn bennaf gan ei bod yn gyfraith gymdeithasol sydd â’r nod o newid ymddygiad yn naturiol. Bydd y gwaith o orfodi’r gyfraith yn rhan o gylch gwaith yr Heddlu gan fwyaf, ar y cyd â’u swyddogaethau ehangach ym maes diogelwch ar y ffyrdd, fel gwisgo gwregysau diogelwch a defnyddio ffonau symudol.

Effaith y rheoliadau

Mae’r Adran Iechyd yn amcangyfrif y bydd y gyfraith yn cynhyrchu budd net o £33 miliwn dros y deng mlynedd ar ôl iddi gael ei chyflwyno. Mae’r arbedion mawr hyn wedi’u seilio ar afiechyd plant a’r graddau y defnyddir gwasanaethau’r GIG oherwydd bod plant wedi dod i gysylltiad â mwg ail-law5.

Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall ymgyrchoedd addysgol ynghyd â deddfwriaeth fod yn effeithiol iawn wrth newid ymddygiad. Er enghraifft, roedd ymdrechion i hybu defnyddio gwregysau mewn ceir yn fwyaf llwyddiannus pan gyflwynwyd deddfwriaeth. Ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym, cododd cyfraddau gwisgo gwregys yn y Deyrnas Unedig o 25% i 91%6. Cadarnhaodd yr Adran Iechyd y bydd llwyddiant y ddeddfwriaeth ddi-fwg yn cael ei fesur gan y newid cadarnhaol mewn ymddygiad yn hytrach na nifer y dirwyon a ddyroddir7.

Awdurdodaethau eraill

Mae camau wedi cael eu cymryd eisoes i ddiogelu iechyd plant mewn nifer o wledydd eraill o gwmpas y byd. Mae smygu mewn ceir sy’n cludo plant wedi’i wahardd eisoes mewn 4 talaith yn yr Unol Daleithiau, 10 o’r 13 o daleithiau yng Nghanada, ac mewn chwe gwlad gan gynnwys Awstralia.

Mae tystiolaeth o Ganada wedi dangos bod gwledydd sydd â gwaharddiad wedi gweld lleihad mwy yng nghysylltiad plant â mwg ail-law mewn cerbydau na gwledydd sy’n cynnal ymgyrchoedd addysg yn unig.

1Annual report of the Chief Medical Officer 2002. Department of Health, 2003.

2All references in paragraph: Passive smoking and children: A report by the Tobacco Advisory Group. Royal College of Physicians, 2010.

3Sendzik, Fong, Travers, Hyland, An experimental investigation of tobacco smoke pollution in cars, Nicotine Tob Res, 2009; 11(6):627-34.

3 & 6YouGov 2014, Total sample size was 1093 adults. Fieldwork was undertaken between 5th to 14th March 2014. The survey was carried out online. The figures have been weighted and are representative of all Wales adults (aged 18+).

4A vehicle will be regarded as enclosed even if windows and doors are open, to mirror legislation already in place for smokefree enclosed public spaces.

5Page 3, Smokefree (Private Vehicles) Regulations 2014: Impact assessment, Department of Health, July 2014.

6P.21, Seat-belts and child restraints. World Health Organisation/ FIA Foundation, 2009.

7Paragraph 32, Smokefree (Private Vehicles) Regulations 2014: Impact assessment, Department of Health, July 2014.