school-gatescym

Ers lansio’r ymgyrch gatiau ysgol di-fwg, mae ASH Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a swyddogion Ysgolion Iach ledled Cymru.

Rydym yn darparu pecyn cymorth cam wrth gam ac arwyddion i gynorthwyo ysgolion â’r polisi. Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymgyrch gatiau ysgol di-fwg, cysylltwch â kimberley@ashwales.org.uk

Y Dyfodol

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymestyn ei gwaharddiad ar smygu i fannau yn yr awyr agored. Disgwylir y bydd mannau di-fwg ar waith ar diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion ac iardiau chwarae yn 2021, ond ni fydd hyn yn ymestyn i gatiau ysgolion.

Gatiau ysgol di-fwg Wrecsam

Arweiniodd Wrecsam y ffordd yng Nghymru trwy fod yr awdurdod lleol cyntaf i gyflwyno gatiau ysgol di-fwg.

Lansiwyd y cynllun yn 2015 mewn 60 o ysgolion cynradd.

Alan Williams yw Swyddog Ysgolion Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Helpodd i lansio’r cynllun ac mae’n parhau i addysgu plant ledled y sir am risgiau smygu.

Roedd yna fannau penodol yn ymyl gatiau ysgolion oedd wedi dod yn fannau lle byddai rhieni’n ymgynnull i smygu sigarét a sgwrsio. Cyn i’r arwyddion gael eu codi, roedd yn rhaid i blant gerdded trwy’r grwpiau hyn o rieni oedd yn smygu yn ymyl y gatiau.

Nawr, oherwydd yr arwyddion, mae’r rhieni’n tueddu i gerdded i ffwrdd o’r gât. Mae wedi dod yn hunan-reoleiddiol.

Alan Williams, Swyddog Ysgolion Iach

Ysgol Gynradd Malpas Court – Casnewydd

Cyn cyflwyno Polisi Gatiau Ysgol Di-fwg yn Ysgol Gynradd Malpas Court, byddai rhieni’n ymgynnull o 3pm ymlaen i smygu cyn casglu eu plant.

Roedd yr ysgol yn pryderu fwyfwy am yr effaith y byddai’r cymylau o fwg ail-law yn ei chael ar iechyd y staff a’r disgyblion.

Roedd pryder hefyd y byddai gweld rhieni’n tanio sigaréts o fewn golwg i’r iard chwarae a hyd yn oed rhai o’r ystafelloedd dosbarth yn normaleiddio smygu yn llygaid y plant.

 

“Ysgol anogaeth ydym ni yn ogystal ag ysgol sy’n parchu hawliau, felly mae’r polisi hwn yn cyd-fynd yn berffaith â’n hethos.

“Ers cyflwyno’r polisi does dim cynifer o smygwyr wrth y gât felly mae’n dangos eu bod yn barchus a’u bod eisiau cadw’r fan yn un iach i’n disgyblion.”

Clare Harvey, Athrawes Blwyddyn 4 a Chydgysylltydd Llesiant

Pencyn Cymorth

Dyluniad Arwyddion

LLYTHYR I RIENI