smoking, universities, wales

Rydyn ni’n annog prifysgolion ledled Cymru i wneud eu campysau’n ddi-fwg er mwyn gwella iechyd y staff a’r myfyrwyr a lleihau sbwriel sy’n gysylltiedig â smygu.

Gwella iechyd y staff a’r myfyrwyr

Mae campysau prifysgolion ledled y wlad yn ganolfannau i bobl ifanc ddysgu a chymdeithasu ac yn darparu swyddi i filoedd o aelodau o staff.  Trwy ein menter prifysgolion di-fwg rydym yn annog prifysgolion ledled Cymru i wneud eu campysau’n ddi-fwg.  Bydd hyn yn gwella iechyd y staff a’r myfyrwyr ac yn lleihau sbwriel sy’n gysylltiedig â smygu.

Yn gyffredinol mae cyfraddau smygu’n gostwng yng Nghymru ond mae gwaith i’w wneud o hyd ymysg pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed:

Cyfraddau smygu uchel

Mae cyfraddau smygu ymysg pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn dal i fod yn uchel. Po ifancaf mae rhywun yn dechrau smygu, mwyaf mae’r niwed yn debyg o fod.

Arfer plentyndod

Dau trydedd o smygwyr yn dechrau cyn troi 181, a bron 40% yn dechrau smygu yn aml cyn 162.  Mae llond ystafell ddosbarth o blant yn dechrau smygu pob dydd.

Atal

Mae mannau di-fwg yn dod yn gatalydd i ddadnormaleiddio smygu ymhlith pobl ifanc. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cyfraddau smygu’n dal i ostwng.

img_1268

Beth ydyn ni’n galw amdano?

Gwneud pob man yn yr awyr agored ar gampysau’n gwbl ddi-fwg

Rhoi terfyn ar bob math o werthu a hyrwyddo tybaco ar gampysau

Rhoi terfyn ar bob math o drefniadau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol gyda chwmnïau tybaco

Darparu cymorth i’r staff a’r myfyrwyr roi’r gorau i smygu

Pam mynd yn ddi-fwg?

Ffyrdd iach o fyw

Bydd eich prifysgol yn bodloni meini prawf fframwaith Prifysgolion Iach (AU/AB) Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau, sydd ar fin ymddangos. Bydd yn iachach i bawb, a chaiff y staff a’r myfyrwyr eu cynorthwyo i fyw mewn ffordd iach.

melissa-askew-642466-unsplash

Ysgogi ymgeisiau i roi’r gorau iddi

Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n smygu ar hyn o bryd yn cael eu hysgogi i roi’r gorau iddi a bydd llawer o rai eraill yn peidio â dechrau smygu o ganlyniad uniongyrchol i’r polisi di-fwg.

matheus-ferrero-350443-unsplash

Sbwriel sigaréts

Bonion sigaréts yw’r math o sbwriel sy’n cael ei daflu fwyaf yn y byd, ac fe’u ceir ar 86% o strydoedd Cymru. Caiff cost glanhau gwastraff ledled campws y Brifysgol ei lleihau.

patrick-brinksma-386940-unsplash-1

Beth am e-sigaréts?

Lle pob sefydliad yw penderfynu a fydd yn gwahardd neu’n caniatáu defnyddio e-sigaréts ar ei safle. Gall y 5 cwestiwn hyn eich helpu i benderfynu a fyddwch yn gwahardd neu’n caniatáu defnyddio e-sigaréts ar eich safle.

Sut i roi campysau di-fwg ar waith

Mae’r canllaw hwn wedi cael ei addasu o ganllaw tebyg gan ASH Australia a ddefnyddiwyd fel model ar gyfer canllawiau Canada a gwledydd eraill.

Canllaw i gampws di-fwg

Mae’n cynnwys:

  • Pam y dylem ni wneud campysau’n ddi-dybaco – a sut i’w wneud
  • Ffeithiau am dybaco
  • Elfennau polisi di-dybaco
  • Buddion
  • Canllaw cam wrth gam i ddatblygu a gweithredu polisi
  • Enghreifftiau o bolisïau effeithiol
  • Cwestiynau cyffredin a chwalu mythau

1Robinson S and Bugler C (2010). Smoking and drinking among adults, 2008. General Lifestyle Survey 2008. ONS.

2Office for National Statistics (2013). General Lifestyle Survey Overview: A report on the 2011 General Lifestyle Survey.