smygu ac iechyd meddwl

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru’n galw am weithredu ar unwaith i roi cymorth gwell i bobl ag afiechyd meddwl i roi’r gorau i smygu wrth i ffigurau ddangos bod y cyfraddau 14% yn uwch nag ymysg y boblogaeth gyffredinol.

Mae Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru, sy’n cael ei redeg gan y grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco, ASH Cymru, yn dweud bod angen ymateb llawn a chadarn gan gynnwys: gwasanaeth rhoi’r gorau iddi pwrpasol cenedlaethol, hyfforddiant i weithwyr iechyd a gwaharddiad ar smygu mewn unedau preswyl iechyd meddwl.

Cyfraddau smygu ac iechyd meddwl

Gwelir cyfraddau smygu sylweddol uwch ymysg pobl ag anhwylder iechyd meddwl o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae ymchwil wedi dangos bod unigolion sydd â salwch meddwl oddeutu dwywaith mor debygol o smygu ag unigolion eraill3. Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2015, lle mae ymatebwyr â salwch meddwl yn cael eu diffinio fel pobl sy’n dweud eu bod yn cael eu trin ar hyn o bryd am iselder, gorbryder neu ‘salwch meddwl arall’, 33% yw’r cyfradd smygu ymysg oedolion â salwch meddwl. Mae hyn yn cymharu â chyfradd smygu o 19% a gofnodwyd ymysg yr holl boblogaeth oedolion yng Nghymru. Yn gyson â’r patrwm a welir yn y boblogaeth gyffredinol, mae gan wrywod sydd â salwch meddwl gyfradd smygu uwch nag sydd gan fenywod (36% yn erbyn 31%), ond mae’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau’n amlycach ymysg y rheiny sydd â salwch meddwl.

Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu, ynghyd â chyfradd smygu uwch ymysg pobl sydd â salwch meddwl, fod unigolion o’r fath hefyd yn smygu nifer fwy o sigaréts4.

Mae’n anodd iawn cadarnhau perthynas achosol rhwng smygu ac iechyd meddwl oherwydd mae llawer o bobl yn dechrau smygu cyn iddynt gael diagnosis o salwch meddwl. Hyd yma ni fu modd canfod a yw smygu’n cynyddu risg datblygu anhwylder meddwl neu a yw bod ag anhwylder meddwl yn cynyddu risg smygu. Mae’n bosibl bod pobl sydd ag anhwylderau meddwl yn gweld smygu fel ffordd o ymdopi â rhai o sgil-effeithiau eu salwch meddwl.

Y ffeithiau a’r ffigurau

Mae 1 o bob 4 oedolyn ym Mhrydain yn cael o leiaf un broblem iechyd meddwl mewn blwyddyn1, a gorbryder ac iselder cymysg yw’r anhwylder meddwl mwyaf cyffredin. Mae’r amcangyfrifon yn amrywio, ond mae ymchwil yn awgrymu bod gan 20% o blant broblem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol, ac oddeutu 10% ar unrhyw adeg benodol2.

Poblogaeth gyffredinol % Poblogaeth gyda salwch meddwl %
Dynion 20 36
Merched 17 31
Pob 19 33

Datganiad safbwynt

Mae ASH Cymru’n galw ar bob sefydliad gofal iechyd meddwl yng Nghymru i fabwysiadu polisi di-fwg gan ein bod yn credu y byddai hyn yn hybu agwedd iachach a mwy cadarnhaol ymysg y staff a’r cleifion.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae unedau iechyd meddwl sy’n darparu llety preswyl i gleifion wedi’u hesemptio o Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) 2007. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i unedau iechyd meddwl sy’n darparu llety preswyl i gleifion yn Lloegr orfodi polisïau di-fwg, ac yn ôl arolwg gan YouGov a gomisiynwyd gan ASH Cymru yn 2015 mae 61% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi cyfraith debyg yng Nghymru.

Y ddeddfwriaeth bresennol

Cynllun arfaethedig ar gyfer haf 2019 – Rhoi terfyn amser 18 mis ar y caniatâd i ddynodi ystafell ar gyfer smygu mewn unedau iechyd meddwl. Byddai’r terfyn amser yn caniatáu i reolwyr weithio tuag at waredu cyfleusterau smygu dan do a dynodi mannau yn yr awyr agored yn lle hynny. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu smygu y tu allan i ysbytai iechyd meddwl er bod gwaharddiadau gwirfoddol gan rai.

Darllen pellach

1The Office for National Statistics Psychiatric Morbidity report (download). 2001

2Lifetime Impacts: Childhood and Adolescent Mental Health, Understanding the Lifetime Impacts, Mental Health Foundation. 2005

3Lasser K, Boyd JW, Woolhandler S, Himmelstein DU, McCormick D, Bor DH. Smoking and mental illness: a population-based prevalence study. JAMA. 2000;284(20):2606-2610

4Lawrence D, Mitrou F Zubrick SR. Smoking and mental illness: results from population surveys in Australia and the United States. BMC Public Health 2009; 9:285