Lawnsiodd y traethau di-fwg cyntaf yng Nghymru yn ystod Gwanwyn 2016. Ar hyn o bryd mae na 2 traeth sydd yn treialu gwaharddiadau smygu gwirfoddol – Little Haven yn Sir Benfro a Bae Caswell yn Abertawe.

Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni’n parhau i gydweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu ymhellach polisïau di-fwg a fydd yn gwarchod pobl ifanc rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law.

Ein traethau hardd

Mae gan Gymru rai o’r traethau gorau yn y Deyrnas Unedig, ac mae llawer wedi cael statws Baner Las. Bydd gwahardd smygu’n cael effaith enfawr ar leihau sbwriel: sbwriel sigaréts yw’r math sy’n cael ei daflu fwyaf yn y byd. Dyna pam mae ein hymgyrch wedi cael ei chefnogi hefyd gan y corff Surfers Against Sewage.

Byddai gwaharddiad yn gweithio yn yr un ffordd â’r gwaharddiad mewn meysydd chwarae – cynllun gwirfoddol gydag arwyddion a gwaith cyfathrebu yn yr ardal leol. Rydyn ni’n deall bod yna wahanol ffyrdd mae traethau’n cael eu rheoli: mae rhai’n cael eu cynnal a’u cadw gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae eraill o dan reolaeth awdurdodau lleol.

img_5745

Pam traethau di-fwg?

Sbwriel a llygredd

Caiff 4.5 triliwn o fonion sigaréts eu gollwng ar draws y byd pob blwyddyn. Maent wedi’u gwneud o fath o blastig o’r enw cellwlos asetad sy’n cymryd hyd at 12 mlynedd i fioddiraddio.

Perygl i anifeiliaid

Perygl i anifeiliaid

Mae bonion sigaréts yn wenwynig ac yn llawn dyddodion mathau o dar a chemegion, sy’n trwytholchi allan i’r môr a gwenwyno bywyd gwyllt morol. Mae adar ac anifeiliaid bach yn llyncu bonion, gan arwain at wenwyno, diffyg maeth a hyd yn oed marwolaeth.

Pobl ifanc

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i chwarae a chyfarfod â’u ffrindiau mewn amgylchedd glân ac iach. Mae smygu ar y traeth yn creu’r argraff ei fod yn weithgarwch diniwed ond mewn gwirionedd mae’n lladd mwy na 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru.  

Mwg ail-law

Mae’r un mor wenwynig yn yr awyr agored ag ydyw o dan do ac yn dibynnu ar gyflymder y a chyfeiriad y gwynt, nifer y smygwyr a pha mor agos ydynt. Mae 80% o fwg sigaréts yn anweladwy ac mae ynddo fwy na 4000 o gemegion, y mae 69 ohonynt yn achosi canser.

Cymryd rhan

Lawrlwytho ein pecyn cymorth

Os ydych eisiau cyflwyno traethau di-fwg yn eich ardal chi, gallwch lawrlwytho ein Pecyn Cymorth Traethau Di-fwg isod. Mae’r pecyn yn llawn gwybodaeth a gellir ei addasu ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru fel rhan o’r ymgyrch hon.

Cynnal sesiwn glanhau traeth

Trefnu sesiwn glanhau traeth yw’r ffordd orau i ganfod maint y broblem ar eich traeth lleol. Gallwn gynnig cymorth i helpu i wneud ein traethau a’n glannau’n hardd ac yn barod i bawb eu mwynhau yn ystod misoedd prysur yr haf.

Barn y cyhoedd

Gwyddom o bolau piniwn bod cefnogaeth fawr ymhlith y cyhoedd i fannau di-fwg yng Nghymru. Nid syniad newydd yw traethau di-fwg.

Mewn llawer o rannau o’r byd maent wedi cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus gyda chefnogaeth y cyhoedd: Canada (Vancouver), yr Unol Daleithiau (Califfornia, Maine, Massachusetts ac Efrog Newydd), Mecsico, Japan, Hawaii, Puerto Rico ac Awstralia. Mae gennym ni gysylltiadau da gyda chynrychiolwyr iechyd y cyhoedd mewn gwledydd eraill sydd wedi bod wrthi’n ymgyrchu dros draethau di-fwg a’u datblygu.

Y dyfodol

Rydyn ni’n credu y gall Cymru arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig o ran mannau di-fwg. Gyda chymorth a chydweithrediad cynghorau lleol, byddwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd pobl ifanc a safon ein traethau.

img_1100

Pwy all fy helpu i roi’r gorau i smygu?

Cymorth wedi’i deilwra

Mae Helpa fi i stopio yn wasanaeth di-dâl newydd gan y GIG yng Nghymru. Bydd yn eich helpu i ddewis y ffordd orau o roi’r gorau iddi, boed cymorth dros y ffôn, cyfarfodydd un i un neu grŵp neu’r fferyllfa leol. Gall hefyd argymell pa bethau amnewid nicotin, fel patsys neu gwm, sydd orau i chi.

Ewch i:  http://www.helpmequit.wales/cy/ 

Ffôn: 0800 085 2219 – Tecstiwch: HMQ i 80818

Cymorth ar lein

Ni, dyna pwy! Ymunwch â ni ar Facebook i gael cyngor cyfeillgar gan bobl eraill sy’n rhoi’r gorau iddi yn ogystal ag awgrymiadau ac ysgogiad dyddiol. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyngor cyflym ar lein ar unrhyw beth sy’n ymwneud â smygu neu roi’r gorau iddi.