Tybaco anghyfreithlon

Mae tybaco anghyfreithlon yn accowntio am 15% o’r marchnad tybaco yng Nghymru, sydd yn yr uchaf yn y DU. Mae’r cynhyrchion rhad yma yn gwneud e’n haws i bobl ifanc dechrau ysmygu, oherwydd mae’n cael ei gwerthu at prisiau arian poced gan droseddwyr sydd ddim yn cael ots am ddeddfau ar oedran o brynu.

Rydyn ni’n arwain yr ymgyrch i ddelio gyda’r problem o dybaco anghyfreithlon yng Nghymru. Trwy gweithio efo sefydliadau eraill gan gynnwys Safonau Masnach a chwmnïau ci synhwyro arbenigol rydyn ni’n tynnu lawr y nifer uchel o gynnyrch tybaco anghyfreithlon sy’n cael eu defnyddio yn ein gwlad.

Beth yw tybaco anghyfreithlon?

Er bod enwau gwahanol ar dybaco anghyfreithlon, sydd weithiau’n newid gan ddibynnu ar le yn y Deyrnas Unedig maent yn cael eu gwerthu, byddai’r rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a gorfodi yn defnyddio’r dosbarthiadau canlynol1:

Ffug

Mae’r rhain yn gynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu a’u cyflenwi’n anghyfreithlon, sy’n cario copïau o nodau masnach cofrestredig, ac maent yn gopïau o frandiau adnabyddus. Weithiau maent mewn pecynnau ac arnynt labeli o wledydd tramor, gan gynnwys rhybuddion iechyd, i roi’r argraff mai cynhyrchion dilys ydynt sydd wedi cael eu mewnforio i’r Deyrnas Unedig.

Na Thalwyd Toll Arnynt

Mae’r rhain yn gynhyrchion dilys, sydd wedi cael eu cynhyrchu’n gyfreithlon ar gyfer marchnad leol. Gallant fod yn frandiau sy’n adnabyddus yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwledydd eraill. Fodd bynnag, maent wedi cael eu smyglo i’r Deyrnas Unedig i’w cyflenwi’n anghyfreithlon, heb i unrhyw dollau’r Deyrnas Unedig gael eu talu.

Sigaréts a Thybaco Anghyfreithlon

Nid oes gan y cynhyrchion hyn farchnad gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig. Mae arnynt enwau brandiau nad ydynt yn adnabyddus yn y Deyrnas Unedig gan nad ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw gynhyrchion cyfreithlon. Ni fydd unrhyw dollau’r Deyrnas Unedig wedi cael eu talu arnynt. Yr enghraifft fwyaf cyffredin sydd ar gael ar hyn o bryd yw Jin Ling.

Pam mae tybaco anghyfreithlon yn broblem?

Mae mesurau rheoli tybaco’n hanfodol i ostwng cyfraddau smygu ac i leihau cyfraddau afiechydon sydd i’w priodoli i smygu. Mae argaeledd tybaco anghyfreithlon yn tanseilio amrywiaeth o fesurau allweddol, gan gynnwys trethi, cyfyngiadau oed ar werthiannau a gwaharddiadau ar arddangosiadau man gwerthu. Mae tybaco anghyfreithlon yn sylweddol ratach na sigaréts o ffynonellau cyfreithlon, ac mae’r prisiau is hyn yn tanseilio’r ymyriadau hyn trwy gynnig ffynhonnell arall hygyrch am bris is.

Mae defnyddio tybaco’n barhaus yn niweidio iechyd ac mae’r prisiau is, oherwydd osgoi talu tollau, yn golygu bod tybaco ar gael i bobl na fyddent, o bosibl, yn gallu ei fforddio fel arall, gan effeithio’n arbennig ar gymunedau mwy difreintiedig. Gall effaith rhybuddion iechyd gael ei lleihau oherwydd diffyg delweddau cignoeth, neu rybuddion mewn print mân neu mewn iaith dramor. Mae tybaco anghyfreithlon hefyd yn haws i blant a phobl ifanc ei brynu.

Mae smyglo tybaco’n gysylltiedig â mathau eraill o weithgarwch troseddol ac wedi dod i gael ei ystyried yn weithgarwch ag elw mawr a risg gymharol isel, er enghraifft o gymharu â’r cosbau am smyglo cyffuriau Dosbarth A. Mae tybaco anghyfreithlon hefyd yn achosi colli refeniw trethi ac mae ei bresenoldeb mewn cymunedau hefyd yn gallu tanseilio busnesau manwerthu lleol cyfreithlon.

Maint y broblem yng Nghymru

Yn 2014 arweiniodd ASH Cymru y prosiect ymchwil cyntaf i Gymru gyfan i asesu maint y farchnad dybaco anghyfreithlon yng Nghymru. Roedd y prosiect hwn yn cynnwys arolwg ledled Cymru wedi’i fodelu ar y rhai a gynhaliwyd ar ran rhaglen “Tackling Illicit Tobacco for Better Health” yng ngogledd a de-orllewin Lloegr3.

0 %
Roedd 45% o smygwyr wedi cael cynnig tybaco anghyfreithlon i’w brynu
0 %
Y lleoliadau mwyaf cyffredin i’w brynu oedd mewn cartref preifat (52%)
0 %
Mae 59% o’r bobl sy’n prynu tybaco anghyfreithlon yn ei brynu o leiaf unwaith y mis
0 %
of purchases took place in a pub or club
£ 0
Y pris a dalwyd ar gyfartaledd am becyn o 20 sigarét anghyfreithlon oedd oddeutu £4
0 %
Mae mwy na 70% o brynwyr tybaco anghyfreithlon yn cytuno’n gryf bod tybaco anghyfreithlon yn ei gwneud yn bosibl iddynt smygu pan na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall
0 %
Roedd 45% o’r rhai a holwyd yn teimlo ei bod yn broblem bwysig sy’n effeithio ar y gymuned leol
0 %
Dim ond 26% o’r rhai a holwyd a ddywedodd eu bod yn debygol o roi gwybod am ei werthu

Further Reading

Beth sy’n cael ei wneud?

Cymru

Ym mis Mawrth 2016 roedd ASH Cymru yn cynnal Peilot Sioe Teithiol Tybaco Anghyfreithlon yng nghanol dinas Caerdydd. Tra roeddwn nhw’n darparu gwybodaeth ar y masnach tybaco anghyfreithlon i aelodau o’r cyhoedd, cafon nhw’r cyfle i adrodd cudd-wybodaeth ynglyn â phobl, safleoedd neu lleoliadau dan amheuaeth o fod yn rhan o gwerthu neu gyflenwi tybaco anghyfreithlon. Fe wnaeth y digwyddiad arwain at 35 o adroddiadau cudd-wybodaeth yn cael ei basio i’r Dadansoddwr Cudd-wybodaeth Rhanbarthol Safonau Masnach. Cafodd mynychwyr i’r sioe teithiol arolygu am eu hagweddau a phrofiadau tuag at dybaco anghyfreithlon. Roedd 145 arolwg yn cael eu cwblhau. Roedd 93% yn ymwybodol o dybaco anghyfreithlon, 87% yn cytuno mae angen cadw tybaco anghyfreithlon tu fas i’w cymunedau lleol, a 28% wedi dod i gysylltiad efo tybaco anghyfreithlon yn y 12 mis diwethaf.

Yn 2016 fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen tybaco anghyfreithlon gyda’r nod o ystyried camau ar gyfer fynd i’r afael â tybaco anghyfreithlon yng Nghymru ac i nodi cynigion polisi ar gyfer y gwenidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Iechyd Cyhoeddus.

Yn dilyn argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen cytunodd Llywodraeth Cymru i sefydlu rhaglen tybaco anghyfreithlon i Gymru. Caiff y rhaglen ei datblygu a’i chyflawni dros dri chyfnod ar wahân. Cyfnod un fydd cyfnod datblygu’r rhaglen, yr ail gyfnod fydd y cyfnod gweithredu a’r trydydd cyfnod fydd etifeddiaeth y rhaglen. Mae ASH Cymru wedi cael ei dewis i arwain cyfnod un ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Lloegr

The scale of the problem across the UK

What is being done?

Yn Lloegr mae mentrau ar waith ar hyn o bryd sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch tybaco anghyfreithlon, fel ymgyrch Keep it Out. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar ardaloedd yng ngogledd-ddwyrain, gogledd-orllewin a de-orllewin Lloegr, a’r materion lleol penodol sy’n gysylltiedig â hwy. Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru ymgyrch gynhwysfawr sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch tybaco anghyfreithlon.

Mae adran gorfodi a chydymffurfiaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn ymchwilio i sut y gall llwythi mawr o dybaco gael eu smyglo ar draws ffiniau; yna mae adrannau safonau masnach yn ymchwilio i sut mae’r tybaco wedi’i smyglo’n cael ei ddosbarthu’n lleol4. Yn ogystal ag adrannau safonau masnach, mae yna asiantaethau eraill sy’n ymdrin â dosbarthu tybaco anghyfreithlon yn lleol. Mae Scambusters yn uned safonau masnach arbenigol sy’n canolbwyntio ar ‘droseddau sgamio’ penodol, ac mae hyn yn cynnwys smyglo tybaco anghyfreithlon ar raddfa fach5.

The illegal tobacco market makes up 15% of all tobacco sales in Wales – the highest in the UK. These cheap products make it easier for children to start smoking, as it is sold at pocket money prices by criminals who don’t care about age-restriction laws.

WHO Framework Convention on Tobacco Control (FCTC)

The World Health Organisation’s Framework Convention on Tobacco Control (WHO FCTC) is a treaty which aims are to ‘protect present and future generations from the devastating health, social, environmental and economic consequences of tobacco consumption and exposure to tobacco smoke by enacting a set of universal standards stating the dangers of tobacco and limiting its use in all forms worldwide5.’

Article 5.3 of the FCTC6 states that: “in setting and implementing their public health policies with respect to tobacco control, Parties shall act to protect these policies from commercial and other vested interests of the tobacco industry in accordance with national law”. Guidelines on implementing Article 5.3 were subsequently developed and approved by the Parties to the FCTC, including the UK7.

Because of the poor public standing of the industry and the application of Article 5.3 in practice, the industry frequently funds and supports individuals and organisations at a local level to carry out work in its interests, including investigating illegal tobacco. Such funding and support is not always declared when such individuals and organisations interact with government bodies.

Further Reading