Helpwch i fynd i’r afael â thybaco yng Nnghymru

Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru

Am y Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru

Mae’r Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru yn grŵp gweithredu, wedi gydlynu gan ni, i alluogi sefydliadau proffesiynol ac yn y trydydd sector sydd yn cymryd rhan i ryw raddau yn delio gyda tybaco yng Nghymru i lywio a ddylynwadu ar ddatblygiaeth a gweithrediad polisi, ar lefel Cymru ac ar lefel y Deyrnas Unedig.

Fe gweithio’r Cynghrair i fonitro’r sefyllfa o amgylch y defnydd o dybaco yng Nghymru, yn arbenig mewn perthynas â’r Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco cyhoeddod gan Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun hwn yw i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan y defnydd o dybaco ar draws Cymru yn gyffredinol, efo’r prif ffocws o amgylch strategaeth cynhwysfawr oedd yn cynnwys uchelgeisiau i ostwng cyfradd smygu ymysg oedolion i 16% erbyn 2020.

Egwyddorion y Gynghrair

  • Bydd aelodaeth y Gynghrair yn adlewyrchu amrywiaeth fawr y sefydliadau a disgyblaethau trydydd sector a chyrff proffesiynol sy’n ymwneud ag effaith tybaco ar Gymru a’i phobl
  • Bydd y Gynghrair yn ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau tybaco yn ei holl weithgareddau
  • Bydd y Gynghrair yn gorff cynhwysol, cyfranogol sy’n annog ei aelodau i gymryd rhan weithgar
  • Bydd y Gynghrair yn dryloyw ac yn hygyrch, a bydd yn ymgynghori â’i haelodau ar gamau gweithredu arfaethedig

Pwy all ymaelodi?

  • Mae aelodaeth yn agored i bob sefydliad yn y trydydd sector a chorff proffesiynol yng Nghymru y mae ei gylch gwaith yn cynnwys canolbwyntio ar reoli tybaco neu sy’n gweithio gyda’r rheiny sy’n agored i ddefnyddio tybaco
  • Mae’n ofynnol i’r holl sefydliadau sy’n aelodau ddatgan nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau â’r diwydiant tybaco na’i gynrychiolwyr, na daliadau ynddo
  • Nid yw unigolion yn gymwys i ymaelodi â’r Gynghrair
  • Rhaid i sefydliadau sicrhau bod eu dirprwyon i’r Gynghrair yn ddigon awdurdodol a gwybodus i bleidleisio ar fentrau polisi cydgysylltiedig y Gynghrair

Am mwy o wybodaeth, e-bost: enquiries@ashwales.org.uk