cwrdd â’r tîm

gweithio dros Gymru ddi-fwg

  • Suzanne Cass
    Suzanne Cass Prif Weithredwr

    Daeth Suzanne atom ni o Hosbis George Thomas lle bu’n Bennaeth Cynhyrchu Incwm a Datblygiad ac yn gyfrifol am godi £1 miliwn o incwm yn ogystal â chyfathrebu mewnol ac allanol. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Marchnata a Chodi Arian yn St John Cymru. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel Newyddiadurwr Darlledu i’r BBC, mae Suzanne wedi cael profiad o weithio mewn sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru ac wedi llwyddo i lunio a gweithredu strategaethau codi arian i gefnogi gweithgareddau’r sefydliadau hynny.

    Mae Suzanne yw’r Prif Weithredwr ac mae’n ymdrin â rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd yn ogystal â datblygiad strategol a chysylltu â rhanddeiliaid

  • Julie Edwards
    Julie Edwards Uwch Weinyddwr

    Dwi wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa yn y sector gwirfoddol, i ddechrau ym maes y celfyddydau ac wedyn i elusen cymorth i deuluoedd. Fel yr Uwch-weinyddwr dwi’n gyfrifol am reoli’r gwaith o weinyddu’r swyddfa, sy’n cynnwys cynorthwyo’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr. Dwi’n mwynhau gweithio yn ASH oherwydd ei fod yn sefydliad sy’n uchelgeisiol a hefyd yn greadigol, ac yn gwneud yn eithafol o dda i gorff o’i faint wrth herio tirwedd gymhleth rheoli tybaco. Y tu allan i’r gwaith dwi’n ofalwr maeth ac yn fam i blentyn yn ei arddegau. Dwi hapusaf wrth dreulio amser gyda fy nheulu a’m ci, o ddewis ar draeth yn y Gorllewin.

  • Beth Mahoney
    Beth Mahoney Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

    Dwi’n gweithio ym maes marchnata a digwyddiadau ers mwy na 15 mlynedd. Cyn ymuno ag ASH Cymru roeddwn i’n Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu gyda’r elusen iechyd meddwl yng Nghymru, Gofal, oedd yn cynnwys cyflawni ymgyrch Amser i Newid Cymru i leihau stigma problemau iechyd meddwl. Mae fy nghefndir yn amrywiol ac yn cynnwys tai, technoleg a’r sector deintyddol. Dwi’n teimlo’n frwd dros weithio i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru ac i leihau anghydraddoldebau iechyd.

    Y tu allan i’r gwaith dwi’n mwynhau bywyd teuluol, cadw’n ffit, mynd allan i’r awyr agored yng nghefn gwlad syfrdanol Cymru a theithio a chael profiad o ddiwylliannau gwahanol.

  • Diana Milne
    Diana Milne Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus

    Dechreuais fy ngyrfa fel newyddiadurwr gyda phapur newydd wythnosol yng ngogledd Llundain, cyn symud i newyddiaduriaeth cylchgronau. Yn ystod fy ngyrfa dwi wedi ysgrifennu i amrywiaeth fawr o gylchgronau busnes a ffordd o fyw ac wedi’u golygu ac yn fwyaf diweddar bûm yn gweithio ar gylchgrawn i’r Deyrnas Unedig gyfan i bobl sydd wedi ymddeol.

    Cyn hynny roeddwn yn golygu cylchgronau busnes i fusnes a threuliais dair blynedd yn gweithio i gwmni cyhoeddi yn Dubai, UAE, lle roeddwn i’n gweithio ar gyhoeddiadau ym meysydd rheoli busnes, cyllid personol a sector TG y Dwyrain Canol.

    Mae gen i ddiddordeb byw yn y sector gofal iechyd erioed a threuliais i amser fel adolygydd lleyg gwasanaethau mamolaeth i Arolygiaeth Iechyd Cymru. Fel swyddog cysylltiadau cyhoeddus i ASH Cymru byddaf yn defnyddio fy mhrofiad newyddiadurol i godi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd yr elusen ac yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws Cymru i leihau nifer y bobl sy’n smygu.

    Y tu allan i’r gwaith dwi wrth fy modd yn treulio amser gyda’m teulu a’m ffrindiau. Dwi’n aelod o grŵp llyfrau ac yn ddiweddar dwi wedi cwblhau cwrs rhedeg soffa i 5k.

  • Solène Leprêtre
    Solène Leprêtre Gwirfoddolwr Gwasanaeth Gwirfoddol Ewrop

    Ar ôl tair blynedd yn astudio aml-gyfryngau, dylunio graffig a rhaglennu gwe yn Ffrainc, roeddwn i eisiau darganfod diwylliant newydd, gwneud rhywbeth defnyddiol a gwella fy Saesneg. Cefais f’ysbrydoli gan broblem smygu a’r tîm dynamig yn ASH Cymru i ymuno â’r sefydliad trwy raglen Gwasanaeth Gwirfoddol Ewrop.

    Dwi’n hapus i gynorthwyo’r tîm gyda’m sgiliau fel dylunydd graffig ac i helpu gyda’u llu o ymgyrchoedd. Dwi hefyd yn helpu i reoli a datblygu’r wefan.

    Yn fy mywyd dyddiol, dwi’n hoffi tynnu lluniau, darllen, gwylio adroddiadau a chreu gwefan fach. Dwi hefyd yn mwynhau teithio, darganfod pethau newydd a ffyrdd newydd o edrych ar bethau a rhannu diwylliant Ffrainc a Phrydain.’