Cyngor a chymorth i roi’r gorau i ysmygu

Stopio ar eich pen eich hun neu gyda help rhad ac am ddim y GIG? Nid yw pob dewis yn hawdd. Yn enwedig y ffordd orau i stopio smygu.

nhs_hmq_logo_white

Cysylltwch â Helpa Fi i Stopio

Mae nifer o wasanaethau rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru a fydd yn rhoi ichi’r siawns orau o roi’r gorau iddi am byth. Gall Helpa Fi i Stopio eich helpu i ddod o hyd i’r gwasanaeth gorau i chi.

Tecstiwch ‘HMQ’ i 80818

Ffoniwch 0800 085 2219

Wefan Helpa Fi i Stopio

Cwestiwn llosg? Gallwch gael cymorth ar lein yn gyflym ac yn hawdd.

Mae Dewiswch fod yn Ddi-fwg yn gymuned ar-lein am ddim lle gallwch gael cyngor cyfeillgar gan bobl eraill sy’n rhoi’r gorau iddi yn ogystal ag awgrymiadau ac ysgogiad dyddiol yn syth i’ch ffrwd Facebook. Mae cynghorwyr Dewiswch fod yn Ddi-fwg hefyd yno i gynnig cyngor cyflym ar lein ar unrhyw beth sy’n ymwneud â smygu neu roi’r gorau iddi.

Straeon am roi’r gorau i ysmygu