Diddordeb mewn materion tybaco?

Ymunwch â’n Rhwydwaith Tybaco

neu Iechyd Cymru

Am y Rhwydwaith

Mae Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru’n rhwydwaith i bob unigolyn yng Nghymru sydd â diddordeb mewn tybaco ac â diddordeb ym mhenderfynyddion ehangach iechyd ac anghydraddoldebau iechyd. Mae yna fwyfwy o ymchwil i’r cysylltiadau rhwng defnyddio tybaco ac amrywiaeth o faterion eraill sy’n ymwneud ag iechyd a lles, a mwyfwy o ddealltwriaeth o’r cysylltiadau hyn. Mae’r Rhwydwaith yn canolbwyntio nid yn unig ar reoli tybaco a smygu ond hefyd ar y materion ehangach ynghylch smygu a defnyddio tybaco.

Mae’r cyfarfodydd yn ymdrin â materion fel:

  • Rhoi’r gorau i smygu, mannau di-fwg, tybaco anghyfreithlon, sigaréts electronig, tybaco arbenigol ac ymyriadau atal
  • Y cysylltiad rhwng defnyddio tybaco ac yfed mwy o alcohol
  • Sut mae defnyddio tybaco’n cyfrannu at dlodi plant
  • Y cysylltiad rhwng defnyddio tybaco ac iechyd meddwl
  • Sicrhau y gall grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau heb unrhyw gynrychiolaeth o gwbl gael gwasanaethau hybu iechyd a thriniaeth
  • Mynd i’r afael ag ymddygiadau risg lluosog ymysg pobl ifanc

Pam ymuno?

Mae aelodau’r Rhwydwaith yn cael cyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi sydd o fudd i’w datblygiad personol a phroffesiynol

Mae’r Rhwydwaith yn galluogi’r aelodau i helpu i leihau’r niwed a achosir gan dybaco yng Nghymru trwy ddarparu gwybodaeth ar gyfer, a dylanwadu ar, ddatblygu a gweithredu polisïau

Gallwch gael ein e-gylchlythyr misol. Rydyn ni’n annog aelodau i gyfrannu barn a materion o bwys i’r cylchlythyr.

Gallwch gael cymorth a chyfarwyddyd mewn meysydd gwaith sydd o ddiddordeb cyffredin. Gallwn helpu i gyfuno adnoddau a rhannu arferion gorau.

pwy all ymuno?

Mae’r rhwydwaith yn agored i unigolion ac nid yw’n cynrychioli sefydliadau. Mae croeso i aelodau o lawer o sefydliadau a sectorau, gan gynnwys y byd academaidd, y gymuned rheoli tybaco, addysg, llywodraeth, gofal iechyd, byd diwydiant, llywodraeth leol, y cyfryngau, y GIG, iechyd y cyhoedd, a’r sectorau preifat a gwirfoddol.

Mae yna fuddion enfawr i ymaelodi â’r Rhwydwaith, ac, yn hollbwysig yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae aelodaeth am ddim. Bydd y Rhwydwaith yn bodoli i gynorthwyo’r aelodau trwy ddarparu a gwella’r gallu i gael gwybodaeth, a thrwy ddarparu fforwm i rannu gwybodaeth ac arferion da, gan alluogi’r aelodau i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Sut i ymuno

I ymaelodi â Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru neu am mwy o wybodaeth, e-bost: enquiries@ashwales.org.uk

Digwyddiadau blaenorol