In Press Release Welsh
stop-smoking

Mae smygwyr sy’n dathlu Ramadan yn cael eu hannog i gael cymorth a chyngor i roi’r gorau i smygu ar gyfer y mis sanctaidd sy’n dechrau heddiw (dydd Mawrth 15 Mai).

Digwyddiad blynyddol yn y calendr Islamaidd yw Ramadan ac mae’n fwyaf adnabyddus fel yr adeg pan fydd Mwslimiaid yn ymwrthod â bwyta, yfed a smygu rhwng y wawr a machlud haul.

Yn ystod yr ympryd, fel y’i gelwir, ni chaniateir i unrhyw beth gyrraedd y stumog yn ystod oriau golau dydd. Mae hyn yn ysgogi hunan-ataliaeth ac yn rhoi amser i fyfyrio, gan ddod â’r addolwyr yn agosach at eu Duw, Allah.

Rhoi’r gorau i smygu yw’r peth gorau y gall unrhyw un ei wneud i wella ei iechyd, o gofio bod 1 o bob 2 smygwr hirdymor yn marw o salwch sy’n gysylltiedig â smygu. Yng Nghymru, mae 19% o’r boblogaeth yn smygu ar hyn o bryd.

Mae Helpa Fi i Stopio yn wasanaeth am ddim gan y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnig cyngor un i un dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, neu gymorth grŵp  i unrhyw un sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu.  Gall hefyd argymell pa driniaethau amnewid nicotin, fel patsys neu gwm, sy’n fwyaf addas, a gall gyfeirio pobl sydd eisiau rhoi’r gorau iddi i gael help am ddim gan eu meddyg teulu neu fferyllfa.

Mae miloedd o bobl yn rhoi’r gorau i smygu gyda chymorth gwasanaethau’r GIG pob blwyddyn, ac mae astudiaethau’n dangos bod smygwyr hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo i roi’r gorau iddi os ydyn nhw’n defnyddio cyfuniad o feddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu a chymorth arbenigol, fel a gynigir gan Helpa Fi i Stopio.

stop smoking wales

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr yr elusen rheoli tybaco ASH Cymru:

“Mae Ramadan yn gyfle ardderchog i Fwslimiaid sy’n ystyried rhoi’r gorau i smygu gymryd y cam anodd hwnnw o’r diwedd.

“Mae unrhyw gyfnod di-fwg yn rhoi i’r corff – yn enwedig yr ysgyfaint a’r llif gwaed – yr amser i anadlu eto a chymryd i mewn yr aer glân mae ei hangen i ymadfer.”

“Yma yng Nghymru mae gennym ni wasanaeth cymorth i roi’r gorau i smygu sy’n hyblyg ac yn groesawgar, sef Helpa Fi i Stopio, ar ben arall llinell ffôn neu drwy glicio llygoden. Gall pobl sy’n rhoi gorau iddi hefyd fynd i’r fferyllfa leol neu siarad â’u meddyg teulu i ganfod y ffordd orau o roi’r gorau iddi yn eu sefyllfa nhw.” I gael cyngor wedi’i deilwra am ddim yn lleol, ewch i www.helpmequit.wales, anfonwch neges destun ‘HMQ’ at 80818 neu ffoniwch 08000 852 219.

Leave a Comment