Mae cynigion gan sefydliad iechyd blaenllaw yn galw am i denantiaid newydd tai cymdeithasol lofnodi cytundeb i beidio â smygu y tu mewn i’w cartrefi wedi cael eu cefnogi gan y grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco, ASH Cymru.
Mae Llywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd, yr Athro John Middleton, wedi dweud bod yna ddadl wirioneddol dros ddarparu tai di-fwg lle mae plant dan sylw. O dan y cynlluniau newydd byddid yn gofyn i denantiaid newydd yn unig ymrwymo i’r gwaharddiad gwirfoddol.
Byddai hyn yn dilyn cynllun yn yr Unol Daleithiau lle bydd yn rhaid i asiantaethau tai cyhoeddus wneud eu tai’n ddi-fwg erbyn y flwyddyn nesaf.
Y cartref, o hyd, yw’r amgylchedd lle mae cysylltiad â mwg ail-law’n debyg o fod ar ei uchaf, yn enwedig i blant. Yn 2014, dywedodd 22% o blant 10-11 oed eu bod yn byw ar aelwydydd lle’r oedd o leiaf un rhiant yn smygu yn y cartref.
Tai cymdeithasol sy’n gartrefi i 17% o’r holl aelwydydd yn y Deyrnas Unedig ac mae llawer o asiantaethau eisoes yn mynd ati i annog preswylwyr i smygu y tu allan, i ffwrdd o blant. Fodd bynnag, mae effeithiau smygu goddefol yn dal i arwain at 9,500 o dderbyniadau i ysbytai a 300,000 o ymweliadau â meddygon teulu i blant bob blwyddyn, felly mae ASH Cymru’n credu bod angen gwneud mwy.
Dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Suzanne Cass: “Yma mae cymorth yn allweddol. Gwyddom fod 68% o smygwyr eisiau rhoi’r gorau iddi ac mai smygu yw’r prif ffactor sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae angen cynllun gweithredu ar draws y wlad i annog landlordiaid cymdeithasol i ddatblygu strategaethau i hybu byw’n iachach yn benodol ynghylch smygu. Hefyd mae angen inni sicrhau bod gennyn ni wasanaethau rhoi’r gorau i smygu digonol i gynorthwyo’r rheiny sydd eisiau rhoi’r gorau iddi.”
Mae 80% o fwg sigaréts yn anweladwy a gall hongian o gwmpas am 4 awr – felly ychydig iawn, iawn o wahaniaeth mae agor drws neu ffenestr, smygu mewn un ystafell neu smygu pan nad yw pobl o gwmpas yn ei wneud i fwg dan do.
Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n tyfu i fyny lle mae un rhiant neu fwy yn smygu deirgwaith yn fwy tebygol o ddechrau smygu yn ddiweddarach yn eu bywydau. Mae gan blant sy’n anadlu mwg ail-law fwy o risg o asthma, peswch ac annwyd, yn ogystal â marwolaeth yn y crud, llid yr ymennydd a heintiau yn y glust.
Y mis diwethaf lansiodd GIG Cymru ei wasanaeth rhoi’r gorau i smygu newydd, Helpa Fi i Stopio, sy’n cynnig cyngor wedi’i deilwra, am ddim ar roi’r gorau i smygu, yn ogystal â grwpiau wyneb yn wyneb a gwybodaeth am therapïau amnewid nicotin fel gwm, patsys a sigaréts electronig.