Mae’r elusen iechyd cyhoeddus Action on Smoking and Health yng Nghymru wedi croesawu’r gyfraith newydd sy’n dod i rym heddiw’n gwahardd arddangos tybaco mewn archfarchnadoedd a siopau mawr eraill yng Nghymru.
O ddydd Llun Rhagfyr 3ydd ymlaen ni fydd siopau mawr yn cael arddangos sigaréts a chynhyrchion tybaco eraill. Hefyd ni fydd unrhyw frandio na logos ar restrau prisiau tybaco.
Bydd y gyfraith yn cael ei hymestyn i siopau llai, gan gynnwys siopau tybaco arbenigol, ym mis Ebrill 2015.
Mae arddangosiadau sigaréts mewn mannau gwerthu wedi bod yn un o’r ffyrdd mae cwmnïau tybaco wedi gallu hysbysebu eu cynhyrchion.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Elen de Lacy:
“Heddiw cymerir cam arwyddocaol ymlaen wrth wneud tybaco’n llai hygyrch, ac yn llai gweladwy, i blant a phobl ifanc. Mae dadnormaleiddio tybaco mewn lleoliadau pob dydd yn hanfodol er mwyn i ni gael gobaith o leihau nifer y bobl ifanc sy’n dechrau smygu.
“Mae arddangosiadau mewn mannau gwerthu wedi bod yn ffordd ddylanwadol iawn o hysbysebu sydd wedi cael effaith fawr ar ymwybyddiaeth pobl ifanc o gynhyrchion tybaco, ac maen nhw hefyd yn gallu arwain at brynu byrbwyll ymysg pobl ifanc a chyn-smygwyr.
“Dangosodd ymchwil ar ôl i arddangosiadau mewn mannau gwerthu gael eu gwahardd yn Iwerddon fod cydymffurfiaeth yn dda ymysg siopau, bod pobl ifanc wedi dod yn llai hyderus y bydden nhw’n gallu prynu sigaréts o siopau ac nad oedden nhw’n gallu cofio brandiau cystal, gyda gostyngiad o 80% i 22% ar ôl gweithredu’r gwaharddiad.”
Yn Lloegr, gwaharddwyd arddangosiadau mewn mannau gwerthu mewn siopau mawr ym mis Ebrill 2012 a byddant yn cael eu gwahardd mewn siopau llai hefyd o fis Ebrill 2015 ymlaen. Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn mynd ar ôl gwaharddiad ar arddangosiadau mewn mannau gwerthu.