Mae cyfreithiau newydd i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed tybaco wedi cael eu canmol fel cyflawniad o bwys ym maes iechyd y cyhoedd gan y grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco, ASH Cymru.
Pasiwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 16 Mai) ar ôl pleidlais derfynol gan Aelodau Cynulliad.
Bydd y cyfreithiau newydd yn cyfyngu ar smygu ar feysydd chwarae plant, tiroedd ysgolion a safleoedd ysbytai ac yn braenaru’r tir ar gyfer cofrestr o’r holl fanwerthwyr tybaco. Mae’r ddeddfwriaeth yn dilyn ymgyrch gan ASH Cymru a ddarbwyllodd bob awdurdod lleol yng Nghymru i weithredu gwaharddiadau gwirfoddol ar smygu ar eu meysydd chwarae i blant ac 11 cyngor i wahardd smygu wrth gatiau eu hysgolion cynradd.
Mae ymchwil yn dangos bod gweld pobl yn smygu o’u cwmpas yn cael dylanwad mawr ar bobl ifanc – mae’r rheiny sydd â rhiant sy’n smygu 70% yn fwy tebygol o ddechrau smygu. Mae mannau di-fwg hefyd yn amddiffyn rhag mwg ail-law ac ar yr un pryd yn ‘dadnormaleiddio’ yr arfer marwol. Mae bron hanner y smygwyr hirdymor yn dechrau smygu cyn gadael yr ysgol uwchradd ac ymysg plant sy’n rhoi cynnig ar smygu mae oddeutu traean yn troi’n smygwyr rheolaidd o fewn 3 blynedd.
Mae cefnogaeth fawr o hyd i wahardd smygu mewn mannau awyr agored cymunol fel y rhain – yn enwedig y rheiny sydd wedi’u creu’n benodol i blant. Dangosodd arolwg diweddar gan YouGov (2017):
fod 71% yn cytuno y dylid gwahardd smygu ar diroedd ysbytai
bod 61% yn cytuno â gwahardd smygu mewn mannau hamdden fel parciau a thraethau
bod mwyafrif llethol o 83% yn meddwl y dylid gwahardd smygu ar feysydd chwarae plant, gan gynnwys 56% o smygwyr
Un o’r mesurau rheoli mwyaf grymus yn y Bil yw creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws adnabod a monitro manwerthwyr – gan helpu i fynd i’r afael â phroblem gwerthu tybaco’n anghyfreithlon i bobl ifanc dan oed yng Nghymru.
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Mae hwn yn gyflawniad o bwys ym maes iechyd y cyhoedd ac mae’n newyddion gwych y bydd y genhedlaeth nesaf yng Nghymru’n cael y cyfle i dyfu i fyny mewn cymdeithas lle gallan nhw gael addysg, chwarae a chyfarfod â’u ffrindiau mewn amgylcheddau glân, di-fwg.
“Caethiwed plentyndod yw smygu ac mae llond ystafell ddosbarth o blant yn dechrau smygu bob dydd yng Nghymru. Mae’n hanfodol i fesurau rheoli tybaco fynd i’r afael â phroblem pobl ifanc yn smygu neu’n meddwl bod y dewis hwn gan oedolion yn weithgarwch pob dydd arferol. Mae’n hollbwysig inni osod esiamplau cadarnhaol lle bynnag y gallwn.
“Bydd y gofrestr manwerthwyr yn rhoi syniad clir i asiantaethau gorfodi ynghylch ble mae tybaco’n cael ei werthu a bydd y cyfyngiadau mwy yn helpu i leihau gwerthiant tybaco anghyfreithlon. Mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei werthu am brisiau arian poced gan werthwyr sydd heb falio dim am gyfyngiadau oed ac felly yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc gael gafael ar dybaco.”
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae gwahanol sefydliadau iechyd fel Cancer Research UK, Sefydliad Prydeinig y Galon ac ASH Cymru wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu tystiolaeth gadarn i gefnogi’r agweddau rheoli tybaco yn y Bil, a ddaw’n gyfraith ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.