Heddiw (dydd Mercher 14 Mawrth) yw’r 35ain Diwrnod Dim Smygu, sy’n herio smygwyr i roi’r gorau iddi am 24 awr.
Mae’r diwrnod blynyddol, pan mae oddeutu 700,000 o bobl yn ceisio rhoi’r gorau iddi ar draws y Deyrnas Unedig, yn annog smygwyr i roi’r gorau i smygu am ddiwrnod yn y gobaith y byddan nhw’n teimlo’n barod i roi’r gorau iddi am byth yn y pen draw.
Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae 19% o oedolion a 9% o bobl ifanc 15/16 oed yn smygu’n rheolaidd. Dangosodd arolwg diweddar y byddai 64% o smygwyr yn hoffi rhoi’r gorau iddi, fod 44% wedi rhoi cynnig ar stopio a bod 7% o bobl yn defnyddio e-sigarét ar hyn o bryd.
Yn aml mae peidio â gwybod beth i’w ddisgwyl wrth roi’r gorau i smygu yn gwneud i bobl a hoffai stopio betruso. Dyma yw diben Diwrnod Dim Smygu, sy’n rhoi syniad i smygwyr o’r hyn y gallan nhw ei ddisgwyl pan maen nhw’n rhoi’r gorau iddi yn y diwedd. Mae dewis dyddiad penodol i roi’r gorau iddi, fel Diwrnod Dim Smygu, hefyd yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o aros yn ddi-fwg, gan eu bod yn barod yn feddyliol am yr her.
Mae’r grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco ASH Wales Cymru wedi creu llinell amser sy’n edrych ar yr hyn sy’n digwydd i’r corff yn ystod 24 awr Diwrnod Dim Smygu.
- 20 munud: Ymhen dim ond 20 munud ar ôl y sigarét olaf mae’r corff yn dechrau ymadfer. Mae nicotin, y sylwedd caethiwus mewn tybaco, yn symbylydd sy’n rhoi ‘hwb’ i’r corff, ond dim ond munudau mae hyn yn para. Yn fuan ar ôl y pwff olaf o fwg, mae cyfradd curiad y galon a phwysedd y gwaed yn mynd yn ôl i lawr i’r lefel normal.
- 8 awr: Hon yw’r adeg anodd pan mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymestyn am sigarét arall. Mae effeithiau diddyfnu’n gryf wrth i nicotin adael y llif gwaed ac wrth i’r awydd ddechrau cynyddu. Un awgrym da yw dod o hyd i rywbeth i gadw’r meddwl a’r dwylo’n brysur – chwarae gyda beiro a dechrau gwneud croesair!
- 12 awr: Mae lefelau ocsigen yn mynd yn ôl i normal wrth i fwg gwenwynig adael y gwaed a’r corff. Y mwg yw’r elfen farwol o smygu, ac mae’n achosi i 1 o bob 2 o smygwyr hirdymor farw o’r arfer caethiwus.
- 24 awr: Mae lefelau gorbryder a ‘straen’ ar eu huchaf. Nid straen go iawn yw’r teimlad o straen sy’n gysylltiedig â rhoi’r gorau i smygu – mae’n un o arwyddion diddyfnu. Nid yw’n wir fod smygu’n lleddfu straen – y cwbl mae’n ei wneud yw porthi awydd. Yn wir, mae ymchwil yn dangos bod pobl nad ydyn nhw’n smygu a phobl sydd wedi rhoi’r gorau iddi yn teimlo llai o straen na smygwyr.
Mae rhoi’r gorau i smygu’n sicrhau buddion enfawr yn y tymor hir, hefyd. Mae bod yn ddi-fwg am 10 mlynedd yn golygu bod risg canser yr ysgyfaint rhywun oedd yn arfer smygu, un o’r bygythiadau mwyaf tebygol i’w einioes, yn gostwng i hanner y risg sydd gan smygwr. Mae’n newyddion gwych i’r galon hefyd; ar ôl bod yn ddi-fwg am 10 mlynedd mae’r siawns o gael trawiad ar y galon yr un peth â rhywun sydd erioed wedi smygu.
Dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Suzanne Cass: “Mae Diwrnod Dim Smygu’n gyfle gwych i smygwyr roi cynnig ar roi’r gorau iddi a gobeithio y bydd yn eu hysgogi i ffarwelio â thybaco am byth. Gan fod miloedd o bobl eraill yn cymryd rhan yn y diwrnod, gall pobl a hoffai roi’r gorau iddi gael eu sicrhau nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain ac mae llawer o gymorth penigamp ar gael, fel Helpa Fi i Stopio, i roi cymhelliad iddyn nhw drwy gydol y dydd.
“Mae mwy na 5,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o glefydau ataliadwy a achosir gan smygu. Mae pob digwyddiad fel Diwrnod Dim Smygu neu Stoptober sy’n helpu i fynd i’r afael â’r ystadegyn ysgytwol hwn yn hanfodol bwysig ac mae’n rhaid eu cefnogi ledled Cymru.”
Mae’r GIG yn cynnig gwasanaeth am ddim ar gyfer rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru o’r enw Helpa Fi i Stopio. Mae smygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o aros yn ddi-fwg gyda chymorth nag os ydynt yn ceisio rhoi’r gorau iddi ar eu pen eu hunain. I gael cyngor lleol, wedi’i deilwra am ddim ewch i www.helpmequit.wales, tecstiwch ‘HMQ’ i 80818 neu ffoniwch 08000 852 219.