Heddiw yw’r ugeinfed Diwrnod Asthma’r Byd blynyddol, a gynhelir pob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o asthma ledled y byd.
Trefnir Diwrnod Asthma’r Byd Wedi pob blwyddyn gan Fenter Fyd-eang Asthma (GINA) a’r thema eleni yw “BYTH YN RHY GYNNAR, BYTH YN RHY HWYR. Mae wastad yr amser iawn i fynd i’r afael â chlefyd llwybr anadlu.” Mae’r thema’n alwad ar gleifion a darparwyr gofal iechyd i weithredu, ac mae’n pwysleisio dewis yr unigolyn; mae hyn yn bwysig oherwydd y ffaith nad oes gwellhad i asthma, fel cyflwr iechyd, ond y gellir ei reoli trwy gyflwyno ychydig o newidiadau i ffordd o fyw.
Mae’r cysylltiad rhwng smygu ac asthma a’i effaith yn amlwg pan gofiwn fod 28% o’r holl farwolaethau o asthma yn y Deyrnas Unedig yn digwydd o ganlyniad i smygu neu ddod i gysylltiad â mwg ail-law. Mae ymchwil yn dangos bod mwg tybaco yn niweidio’r cilia yn yr ysgyfaint, sef y blew mân sy’n sgubo i ffwrdd llidwyr fel llwch, mwg a phaill. Hefyd mae mwg tybaco yn cynnwys mwy na 4,000 o gemegolion, gan gynnwys carbon monocsid. Y carbon monocsid sy’n ei gwneud yn anoddach i ocsigen gylchredeg o gwmpas y corff.
Ers 2007, mae smygu wedi’i wahardd gan y gyfraith mewn mannau cyhoeddus dan do. Fodd bynnag, gall pobl nad ydynt yn smygu ddod i gysylltiad o hyd â mwg ail-law yn y cartref, mewn gweithleoedd awyr agored, mewn cerbydau preifat neu mewn lleoliadau cymdeithasol awyr agored. Mae ymchwil wedi dangos bod dioddefwyr asthma yn wynebu’r risg mwyaf pan fônt yn dod i gysylltiad â mwg ail-law mewn mannau bach caeedig, fel ystafelloedd gwely, ystafelloedd byw a cheir, oherwydd y crynodiad uchel o lygryddion gwenwynig mewn un man. Ar hyn o bryd mae ASH Cymru’n rhedeg nifer o ymgyrchoedd i gyfyngu ar y niwed a achosir a’r goblygiadau iechyd sy’n codi o ganlyniad i fwg ail-law, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr effaith ar y genhedlaeth nesaf. Rhai o’r ymgyrchoedd sy’n mynd i’r afael â’r broblem hon yw Cartrefi Di-fwg, Gatiau Ysgol Di-fwg a Thraethau Di-fwg.
Mae astudiaethau wedi dangos bod plant yn arbennig o agored i niwed gan fwg ail-law, gan eu bod yn anadlu’n gyflymach ac yn mewnanadlu mwy o lygryddion am bob pwys o bwysau eu cyrff. Mae babanod a phlant hefyd yn tynnu mwy o fwg i’w hysgyfaint gan eu bod yn dal i dyfu ac nid yw eu systemau imiwnedd wedi datblygu’n llawn. Mae Asthma UK yn rhybuddio rhieni bod plant bach sy’n dod i gysylltiad â mwg ail-law yn debygol o gael heintiau anadlol a gwichian, ac yn fwy tebygol o ddatblygu asthma yn ddiweddarach yn eu bywydau. Mae ymgyrch Babi a Finnau’n Ddi-fwg ASH Cymru yn ymgyrch dargededig i leihau nifer y menywod sy’n smygu yn ystod beichiogrwydd. Yn ôl adroddiad gan Goleg Brenhinol y Meddygon, bydd smygu cyn-geni’n cynyddu’r risg y bydd plentyn yn datblygu asthma yn ystod dwy flynedd gyntaf ei oes 90%.
Yn unol â’r ymgyrch, nid yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i roi’r gorau i smygu, pa un er eich mwyn eich hun neu er mwyn eich plant. Mae help a chymorth ar gael am ddim gan y GIG trwy Helpa fi i Stopio neu drwy ffonio 0800 085 2219.