Chwaraeon Di-fwg
Gwyddom fod plant yn dynwared ymddygiad. Mae plentyn dau draean yn fwy tebygol o ddechrau smygu os oes ganddo riant sy’n smygu. Pan fydd plant yn gweld oedolion yn tanio sigarét mewn lleoliadau bob dydd fel meysydd pêl-droed, maen nhw’n dod i weld smygu’n ddewis normal o ran ffordd o fyw, yn hytrach na chaethiwed angheuol, sef yr hyn ydyw mewn gwirionedd.
Pam Chwaraeon Di-fwg?
O ddewis, hoffai pobl ifanc gymryd rhan a mwynhau chwaraeon mewn amgylchedd glân, iach, di-fwg. Mewn arolwg, dywedodd 99% o’r 125 o blant a holwyd nad oeddent eisiau gweld oedolion yn smygu o’u cwmpas pan oeddent yn gwneud chwaraeon.
Gofynasom i’r plant hefyd a oeddent yn meddwl bod smygu yn gyffredin neu’n anghyffredin yng Nghymru. Dywedodd 88% ohonynt ei fod yn gyffredin. Pan ofynnwyd iddynt ba ganran o bobl Cymru sy’n smygu, yr ateb cyfartalog oedd dros hanner y boblogaeth, 56%, o gymharu â’r ffigur go iawn sef 18%.
Mae’r hyn mae plant a phobl ifanc yn ei weld o’u cwmpas a’r bobl “bwysig” yn eu bywydau yn cael dylanwad mawr arnynt. Er mwyn sicrhau y bydd llai o blant yn dechrau smygu, mae angen inni ddadnormaleiddio smygu a newid canfyddiadau pobl ifanc bod smygu’n weithgaredd cyffredin.
FAW & FAW TRUST
Prosiect Peilot
Yn 2019, lansiodd ASH Cymru ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gynllun peilot i wahardd smygu yng ngemau pêl-droed iau Cynghrair Pêl-droed y Rhondda a’r Cyffiniau ac yng ngemau iau Cynghrair Menywod a Merched De Cymru. Rhoddwyd adnoddau di-fwg i’r clybiau, ynghyd â negeseuon i’w hanfon ar eu sianelau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Llwyddiant Cenedlaethol
Yn 2020, yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, penderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyflwyno polisi dim smygu ar gyfer holl gemau pêl-droed llai bob ochr yng Nghymru. Bydd y polisi newydd yn gwahardd smygu ar ystlysau gemau pêl-droed plant 5-11 oed yng Nghymru o fis Medi 2020 ymlaen, gemau plant 5-12 oed o fis Medi 2021 a phlant 5-13 oed o 2022 ymlaen.
Lansiodd ASH Cymru a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru y polisi’n swyddogol ar ddydd Mawrth 29 Medi 2020, i nodi Diwrnod y Byd ar gyfer y Galon. Hwn yw’r cam cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig a chafodd gefnogaeth eang gan sefydliadau ac unigolion gan gynnwys UEFA, Healthy Stadia, Sefydliad Prydeinig y Galon, Aelodau’r Senedd ac enwogion y byd pêl-droed.
Cymerwch ran!
Os ydych chi’n rhan o sefydliad neu dîm chwaraeon ac eisiau gwybod mwy am ein hymgyrch Chwaraeon Di-fwg, cysylltwch â Kimberley@ashwales.org.uk