smoking, sports, fitness, wales

Ers y gwaharddiad yn 2007, mae smygu mewn cyfleusterau dan do, fel canolfannau hamdden ac arenâu chwaraeon dan do, wedi bod yn erbyn y gyfraith. Fodd bynnag, nid yw’r ddeddfwriaeth a ddaeth i rym yn 2007 yn cynnwys mannau awyr agored sy’n rhan o’r cyfleusterau hyn na mannau hamdden a chaeau chwarae lle mae plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru.

Rydym yn galw ar glybiau chwaraeon i hybu newid cadarnhaol yn eu cyfleusterau hwythau ac yn eu cymunedau er mwyn creu effaith ac ymwybyddiaeth barhaus.

Nod y prosiect hwn yw cysylltu atyniad naturiol pobl ifanc at weithgarwch corfforol a dylanwad timau chwaraeon yng Nghymru er mwyn hybu dewisiadau iach o ran ffordd o fyw. Rydym yn canolbwyntio ar hybu mannau di-fwg lle gall plant chwarae, cymdeithasu a datblygu.

Mae bron hanner plant Cymru’n cymryd rhan mewn gweithgarwch chwaraeon tair gwaith neu fwy pob wythnos, yn ôl ymchwil gan Chwaraeon Cymru. Dangosodd arolwg o fwy na 116,000 o blant ysgol Cymru fod dros hanner y bechgyn a thraean o’r merched yn cymryd rhan mewn chwaraeon.1

Pam Chwaraeon Di-fwg?

O ddewis, hoffai pobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon a’u mwynhau mewn amgylchedd glân, iach a di-fwg. Yn ddiweddar cynaliasom arolwg o 125 o blant, a dywedodd 99% ohonynt nad oeddent eisiau i oedolion smygu o’u cwmpas pan maent yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Hefyd, gofynasom i’r plant a oeddent yn meddwl bod smygu’n gyffredin neu’n anghyffredin yng Nghymru, a dywedodd 88% eu bod yn meddwl bod smygu’n gyffredin. Pan ofynnwyd pa ganran o bobl Cymru sy’n smygu, yr ateb ar gyfartaledd oedd mwy na hanner y boblogaeth, sef 56%.

Mae’r hyn mae plant a phobl ifanc yn ei weld o’u cwmpas a’r bobl “bwysig” yn eu bywydau yn dylanwadu’n fawr arnynt. Bydd sicrhau bod meysydd chwaraeon, canolfannau hamdden a chaeau chwarae’n ddi-fwg yn helpu i ddadnormaleiddio smygu a newid cred pobl ifanc bod smygu’n weithgarwch cyffredin.

 

Yn ddiweddar ymunodd ASH Cymru â’r Gweilch yn y Gymuned i lansio ein neges Chwaraeon Di-fwg yn eu gŵyl flynyddol o rygbi tag ar y traeth. Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mae Abertawe a daeth mwy na 300 o blant lleol iddo.

Roeddem eisiau gwybod beth oedd plant yn ei feddwl ynghylch pobl yn smygu o’u cwmpas a sut yr oedd yn gwneud iddynt deimlo. O’r rhai a holwyd, dywedodd 88% fod gweld oedolion yn smygu o’u cwmpas yn gwneud iddynt deimlo’n drist ac roedd 97% yn gwybod bod smygu’n gwneud pobl yn waeth am wneud chwaraeon.

Dywedodd Clive Oliver, Swyddog Cymunedol Ysgolion a Chlybiau’r Gweilch yn y Gymuned: “Dyw tybaco a chwaraeon ddim yn cyd-fynd â’i gilydd. Nod y Gweilch yn y Gymuned yw harneisio lles cymdeithasol a grymuso dewisiadau bywyd cadarnhaol. Yn ddiau mynd yn ddi-fwg yw un o’r negeseuon mwyaf iach y gall clwb chwaraeon ei rhannu gyda’i gymuned.

Cymerwch ran!

Os ydych chi’n ymwneud â thîm neu gyfleuster chwaraeon ac eisiau gwybod mwy am ein hymgyrch Chwaraeon Di-fwg, cysylltwch â Kimberley@ashwales.org.uk