smoking and mental health

Yng Nghymru mae 36% o’r oedolion sydd â chyflwr iechyd meddwl yn smygu, o gymharu â 19% o’r boblogaeth oedolion gyfan yng Nghymru. Ledled y Deyrnas Unedig mae pobl â salwch meddwl yn smygu mwy na thraean o’r holl dybaco a gaiff ei smygu yn y Deyrnas Unedig, a smygu yw’r peth sy’n cyfrannu mwyaf at y ffaith bod pobl â salwch meddwl yn marw rhwng 10 a 20 mlynedd yn gynt na’r boblogaeth gyffredinol.

Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw smygu’n cynnal iechyd meddwl da, a bod rhoi’r gorau i smygu’n gysylltiedig â gwelliannau mewn cyflyrau fel iselder, straen a gorbryder.

brain-graphcwelsh

Mae llawer o smygwyr yn defnyddio sigaréts i leddfu straen, ac nid ydynt yn gwybod am y niwed y gallai eu harfer fod yn ei wneud i’w hiechyd meddwl a’u lles. Mae’r gamgred gyffredin bod smygu’n cynorthwyo ag ymlacio yn aml yn atal smygwyr rhag llwyddo i roi’r gorau iddi.

Pan fo pobl yn dweud bod smygu’n eu tawelu, mae hyn o ganlyniad i’r nicotin a gaiff ei ryddhau i’r ymennydd wrth smygu, sy’n achosi i dopamin gael ei ryddhau, adwaith cemegol sy’n arwain at deimladau o dawelwch a gwobrwyo. Dim ond am gyfnod byr mae’r teimlad hwn o wobrwyo’n para, fodd bynnag, gan fod lefelau dopamin yn gostwng yn gyflym, gan arwain at symptomau diddyfnu sy’n gallu gwneud symptomau gorbryder, straen ac iselder yn waeth.

Mae 0 % o leiaf
o’r holl dybaco a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl
Mae 0 % a mwy
o’r bobl sydd â diagnosis o sgitsoffrenia yn smygu tybaco
Mae ychydig o dan 0 %
o’r bobl sy’n cael episod cyntaf o seicosis yn smygwyr

Cyfraddau smygu ac iechyd meddwl

Mae ymchwil wedi dangos bod unigolion sydd â salwch meddwl oddeutu dwywaith mor debygol o smygu ag unigolion eraill nad ydynt yn dioddef o broblemau iechyd meddwl 3. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu, ynghyd â chyfradd smygu uwch ymysg pobl sydd â salwch meddwl, fod unigolion o’r fath hefyd yn smygu nifer fwy o sigaréts 4.

Mae’n anodd iawn cadarnhau perthynas achosol rhwng smygu ac iechyd meddwl oherwydd mae llawer o bobl yn dechrau smygu cyn iddynt gael diagnosis o salwch meddwl. Hyd yma ni fu modd canfod a yw smygu’n cynyddu risg datblygu anhwylder meddwl neu a yw bod ag anhwylder meddwl yn cynyddu risg smygu. Mae’n bosibl bod pobl sydd ag anhwylderau iechyd meddwl yn gweld smygu fel ffordd o ymdopi â rhai o sgil-effeithiau eu salwch meddwl.

Yn y gorffennol nid oedd gweithwyr iechyd meddwl yn ystyried bod hybu rhoi’r gorau i smygu yn flaenoriaeth, er gwaethaf y canlyniadau y gall smygu eu cael i iechyd corfforol claf. Felly datblygodd ‘diwylliant o smygu’ o gwmpas llawer o leoliadau iechyd meddwl, ac ni chafodd smygu ei herio gan y staff am amrywiaeth fawr o resymau. Serch hynny, gwyddom fod smygwyr sydd ag anhwylderau meddwl yr un mor debygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi ag yw pobl sydd hebddynt.

Wales Statistics

Gender Smoking population % Those with mental health problems smoking  %
Men 20 41
Women 17 34
All 19 36

Deddfwriaeth ar smygu mewn unedau iechyd meddwl yng Nghymru

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae unedau iechyd meddwl sy’n darparu llety preswyl i gleifion wedi’u hesemptio o Reoliadau Mangreoedd Di-fwg (Cymru) 2007. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i unedau iechyd meddwl sy’n darparu llety preswyl i gleifion yn Lloegr orfodi polisïau di-fwg, ac yn ôl arolwg gan YouGov yn 2015 a gomisiynwyd gennym ni, mae 61% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi cyfraith debyg yng Nghymru.

 

Rydym yn galw ar bob sefydliad iechyd  meddwl yng Nghymru i fabwysiadu polisi di-fwg gan ein bod yn credu y byddai hyn yn hybu ffordd o fyw iachach ymysg y staff a’r cleifion.

Deddfwriaeth arfaethedig

Mae deddfwriaeth wedi cael ei chynnig ar gyfer haf 2019 a fyddai’n cyflwyno terfyn amser 18-mis ar y caniatâd i ddynodi ystafell ar gyfer smygu mewn unedau iechyd meddwl. Byddai’r terfyn amser yn caniatáu i reolwyr weithio tuag at waredu cyfleusterau smygu dan do a dynodi mannau yn yr awyr agored yn lle hynny. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu smygu y tu allan i ysbytai iechyd meddwl er bod gwaharddiadau gwirfoddol gan rai.

ASH Scotland - Mental health, nicotine replacement therapy and smoking cessation services

ASH Scotland - How smoking causes stress

Further Reading

1The Office for National Statistics Psychiatric Morbidity report (download). 2001

2Lifetime Impacts: Childhood and Adolescent Mental Health, Understanding the Lifetime Impacts, Mental Health Foundation. 2005

3Lasser K, Boyd JW, Woolhandler S, Himmelstein DU, McCormick D, Bor DH. Smoking and mental illness: a population-based prevalence study. JAMA. 2000;284(20):2606-2610

4Lawrence D, Mitrou F Zubrick SR. Smoking and mental illness: results from population surveys in Australia and the United States. BMC Public Health 2009; 9:285