Smygu a phobl ifanc

Mae 207,000 o bobl ifanc yn dechrau smygu yn y Deyrnas Unedig bob blwyddynac yng Nghymru mae hynny’n cyfateb i lond ystafell ddosbarth o blant bob dydd (30 pobl ifanc). Pobl ifanc yw prif darged y diwydiant tybaco gan mai nhw yw’r unig rai a all gymryd lle ei gwsmeriaid ffyddlon sy’n marw.

Datganiad safbwynt

Ein nod yw lleihau cyfradd smygu ymysg pobl ifanc a gweithio i sicrhau bod ysgolion, meysydd chwarae a chyfleusterau hamdden yn ddi-fwg er mwyn atal effaith mwg ail-law ar genedlaethau’r dyfodol. Mae ymchwil wedi canfod bod plant sy’n dod i gysylltiad â smygu’n sylweddol mwy tebygol o ddechrau smygu eu hunain1.

Bydd cryfhau’r cyfreithiau ynghylch smygu’n gyhoeddus yng Nghymru yn amddiffyn pobl nad ydynt yn smygu rhag mwg ail-law ac yn dadnormaleiddio smygu i blant a phobl ifanc.

Crynodeb

Dangoswyd bod smygu yn ifanc iawn yn cael effaith ddifrifol ar iechyd yn y tymor hir. Po ifancaf mae rhywun yn dechrau smygu, mwyaf mae’r niwed yn debygol o fod. Yn aml pobl sy’n dechrau smygu’n gynharach yw’r rhai sy’n smygu drymaf yn hwyrach yn eu bywydau. Nhw hefyd yw’r grŵp sy’n debygol o fod yn fwyaf dibynnol ac sydd â’r tebygrwydd lleiaf o roi’r gorau iddi4. Mae ymchwil yn dangos po gynharaf mae plant yn dechrau smygu’n rheolaidd a pharhau â’r arfer fel oedolion, mwyaf yw’r risg o ddatblygu canser yr ysgyfaint neu glefyd y galon, sydd yn aml yn arwain at farwolaeth gynnar3.

Mae plant sydd â dau riant sy’n smygu deirgwaith yn fwy tebygol o ddechrau smygu. Canfuwyd hefyd bod plant sydd ag un rhiant sy’n smygu 70% yn fwy tebygol o ddechrau smygu. Gwyddys hefyd bod dau draean o’r smygwyr sy’n oedolion yn awr wedi dechrau smygu cyn eu bod yn 18 oed4.4.

img_1673

Y sefyllfa yng Nghymru

Mae data a gyhoeddwyd yn 2015 yn yr arolwg ar Ymddygiadau Iechyd Plant Oedran Ysgol6  , a seiliwyd ar ffigurau 2013/14, yn dangos fod y cyfraddau smygu ymysg pobl ifanc 15 ac 16 oed yng  Nghymru yn is nag erioed o’r blaen; 8% o fechgyn a 9% o ferched sy’n smygu’n rheolaidd.5

66%

yn dechrau smygu’n rheolaidd cyn 18 oed

40%

yn dechrau smygu’n rheolaidd cyn 16 oed

73%

wedi rhoi cynnig ar e-sigarét

Ymwybyddiaeth a defnydd o e-sigaréts a phobl ifanc

Bob blwyddyn mae ASH Cymru’n cynnal arolwg sy’n ymchwilio i’r ymwybyddiaeth/defnydd o e-sigaréts ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad e-sigaréts 2016 ym mis Mai 2016. Ymatebion oddi wrth 838 o bobl ifanc 18 oed ac iau oedd sail y canlyniadau.

Dangosodd y canfyddiadau fod ymwybyddiaeth o e-sigaréts yn uchel iawn ymysg y bobl ifanc a holwyd. Dywedodd ychydig mwy na 90% o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod beth oedd e-sigarét cyn cwblhau’r arolwg. Roedd amrywiaeth o wahanol ffynonellau’n cyfrannu at yr ymwybyddiaeth hon, gan gynnwys, yn benodol, defnydd gan ddieithriad/ffrindiau, hysbysebion mewn siopau, a hefyd y cyfryngau/cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd.

Deddfwriaeth

Cyhoeddwyd ym mis Mai 2018 mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymestyn ei gwaharddiad ar smygu i fannau yn yr awyr agored. Disgwylir i fannau di-fwg fod ar waith ar diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae erbyn haf 2019. Mae gwahanol sefydliadau iechyd fel Cancer Research UK, Sefydliad Prydeinig y Galon ac ASH Cymru wedi gweithio’n ddiflino dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddarparu tystiolaeth gref i gefnogi’r cyfreithiau hyn.

Gan edrych at y dyfodol, un o’r mesurau rheoli mwyaf grymus a nodir yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yw’r bwriad i greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i fanwerthwyr gael eu hadnabod a’u monitro – gan helpu i fynd i’r afael â phroblem gwerthu tybaco’n anghyfreithlon i bobl ifanc dan oed yng Nghymru.

1Hopkinson, NS., Lester-George, A., Ormiston-Smith, N., Cox, A. & Arnott, D. Child uptake of smoking by area across the UK. Thorax 2013. doi:10.1136/thoraxjnl-2013-204379

2Robinson S and Bugler C (2010). Smoking and drinking among adults, 2008. General Lifestyle Survey 2008. ONS.

3Office for National Statistics (2013). General Lifestyle Survey Overview: A report on the 2011 General Lifestyle Survey.

4Royal College of Physicians. Passive smoking and children. London. 2010

5British Medical Association. Breaking the cycle of children’s exposure to tobacco smoke. London. 2007

The Journal of Physiology. Nicotine and the adolescent brain. 2015

7Short- and Long-Term Consequences of Nicotine Exposure during Adolescence for Prefrontal Cortex Neuronal Network Function. 2012

8Welsh Government (2011). Health Behaviour in School-aged Children: initial findings from the 2009/10 survey in Wales.

9Welsh Government (2015). 2013/14 Health Behaviour in School-aged Children (HBSC) Wales: key findings

10Collation of results from My Local Health Service – accessed 14/01/2015

11Sussman S, Ping S, Dent C. A meta-analysis of teen cigarette smoking cessation. Health Psychol. 2006;25(5):549–57

12Müller-Riemenschneider F, Bockelbrink A, Reinhold T, Rasch A, Greiner W, Willich SN. Long-term effectiveness of behavioural interventions to prevent smoking among children and youth. Tobacco Control. 2008;17:301-2