In Press Release Welsh
Smoking, Environment, plastic, David Attenborough

I nodi Diwrnod Dim Smygu mae ASH Cymru wedi comisiynu’r artist o Gymru, Nathan Wyburn, i greu portread o’r ymgyrchydd amgylcheddol Syr David Attenborough, portread sydd wedi’i wneud yn gyfan gwbl o fonion sigaréts a gasglwyd ar draethau yng Nghymru.

Nod y portread yw tynnu sylw at effaith bonion sigaréts ar yr amgylchedd a’r ffaith eu bod yn llygru ein moroedd a’n dyfrffyrdd â phlastig a gwenwynau.

Mae ASH Cymru a Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno i godi ymwybyddiaeth o’r difrod mae bonion sigaréts yn ei wneud i’r amgylchedd mewn ymgais i ddarbwyllo plant a phobl ifanc i beidio â dechrau smygu.

Caiff y portread ei ddadorchuddio ar draeth Ynys y Barri lle bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Ynys y Barri yn cymryd rhan mewn sesiwn casglu sbwriel wedi’i drefnu gan Cadwch Gymru’n Daclus, yr oedd ei staff wedi casglu’r bonion sigaréts ar gyfer y portread.

David Attenborough, cigarettes, plastic

Bonion sigaréts yw’r math o sbwriel sy’n cael ei daflu fwyaf yn y byd ac ar draws y Deyrnas Unedig yn unig, amcangyfrifir bod 122 o dunelli o sbwriel cysylltiedig â smygu’n cael eu taflu pob dydd. Yn 2018 cafwyd hyd i fonion sigaréts ar 80.3% o strydoedd Cymru, sy’n golygu mai hwn yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel yn y wlad.

Mae llawer o’r bonion sigaréts sy’n cael eu taflu ar y stryd yn syrthio i lawr draeniau ac yn y pen draw yn mynd i’r dyfrffyrdd a’r môr.

Yn groes i’r gred gyffredin, nid yw bonion sigaréts yn fioddiraddadwy. Mae plastig ynddyn nhw a gallan nhw aros yn yr amgylchedd am hyd at 15 mlynedd. Mewn hidlyddion sigaréts ceir cynhwysion cemegol niweidiol gan gynnwys arsenig, plwm a nicotin sy’n llygru ein dyfrffyrdd ac mae’r gwenwynau yng ngweddillion tybaco’n creu perygl i anifeiliaid sy’n eu llyncu.

Yn wir, bydd un bonyn sigarét sy’n cael ei adael i drwytho mewn dŵr am 96 awr yn gollwng digon o wenwynau i ladd hanner y pysgod dŵr hallt neu ddŵr croyw sy’n dod i gysylltiad ag ef.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Swyddog Gweithredol ASH Cymru: “Eleni rydyn ni eisiau defnyddio Diwrnod Dim Smygu fel cyfle i godi ymwybyddiaeth o effaith bonion sigaréts ar yr amgylchedd ac mae neges ddifrifol iawn y tu ôl i’r portread gan Nathan Wyburn.

“Trwy gyfres deledu’r BBC, Blue Planet, mae Syr David Attenborough wedi dangos yr effaith drychinebus mae plastig yn ei chael ar ein moroedd.

“Mae bonion sigaréts llawn plastig yn rhan o’r broblem honno ac yn chwarae rhan fawr wrth droi’r moroedd yn ‘gawl gwenwynig’ yng ngeiriau Syr David Attenborough.

“Mae gwarchod yr amgylchedd yn destun pryder yn enwedig ymysg pobl ifanc. Nid yw llawer o smygwyr yn gwybod am y difrod mae sigaréts yn ei wneud i’r blaned. Rydyn ni’n gobeithio y bydd gwneud pobl yn fwy ymwybodol o’r effaith yn rhoi ysgogiad ychwanegol iddyn nhw i roi’r gorau i’r arfer caethiwus iawn hwn.”

Canfu arolwg a gyflawnwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus y llynedd fod llai na hanner smygwyr yn gwybod bod plastig mewn sigaréts. Hefyd nid yw un ym mhob deg o smygwyr yn meddwl mai sbwriel yw bonion sigaréts ac mae 10% yn meddwl bod sigaréts yn fioddiraddadwy.

Meddai Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydyn ni eisiau chwalu’r mythau a’r camsyniadau ynghylch gwaredu bonion sigaréts. Oherwydd eu maint, nid yw llawer o bobl yn meddwl mai sbwriel yw bonion sigaréts nac am y difrod go iawn y gallan nhw ei achosi. ’Dydyn nhw ddim yn fioddiraddadwy ac maen nhw’n niweidiol i’n hiechyd, i fywyd gwyllt ac i’r amgylchedd.”

Ymholiadau: Diana Milne | Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus ] | diana@ashwales.org.uk | 02920 490621

Neu Beth Mahoney | Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu| Beth@ashwales.org.uk | 02920 490621|

Mae cyfweliadau ar gael. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion uchod.

Leave a Comment