Mae arolwg diweddar sy’n edrych ar iechyd pobl yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 1% mewn cyfraddau smygu, lawr i 19%, wedi gymharu â llynedd.
Mae’r Arolwg blynyddol Iechyd Cymru 2015 yn dangos fod 19% o oedolion ar gyfartaledd nawr yn smygu, wedi gymharu â 20% yn 2014. Roedd cyfraddau smygu at y lefelau uchaf o fewn y grŵp oedran 25-34 at 27% a roedd dynion yn lot fwy tebygol o smygu (21%) na menywod (18%).
Am y tro cyntaf roedd y defnydd o e-sigarets yn cael ei cynnwys yn yr arolwg, yn dangos bod 6% o ymatebwyr yn defnyddio e-sigaret yn presennol, sy’n cyfateb i 140,000 o’r poblogaeth Cymru. Mae hyn yn cydfynd efo canfyddiadau o arolwg dros y DU cyfan a wnaeth nodi fod 2.8 miliwn o Brydeinwyr (6%) yn fapio ar hyn o bryd.
Wnaeth yr arolwg dangos fod cyfraddau smygu yn ardaloedd amddifadus yn lot fwy uchel na llefydd cefnog. Mae 29% o’r pobl sy’n cael eu ystyried fel y ‘mwyaf difreintiedig’ yn smygu, wedi cymharu â 11% o fewn pobl sy’n ‘lleiaf difreintiedig’. Hefyd, mae cyfraddau smygu yn yr ardaloedd fwyaf difreintiedig wedi aros yn statig tra gwelodd gostyngiad o 2% yn yr ardaloedd mwyaf cefnog.
Er engraifft, mae cyfraddau smygu yn Sir Ceredigion a Sir Benfro mor isel â 16%, wrth i 26% o drigolion Blaenau Gwent yn smygu.
Dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Suzanne Cass,
“Mae’n braf i weld cyfraddau smygu gostwng yn raddol gan 1% pob blwyddyn am y 3 mlynedd diwethaf ar ôl aros yn statig rhwng 2007 a 2012, yn gostwng gan 1% dros yr holl 6 mlynedd. Heb amheuaeth mae na cysylltiad i’r cynnydd o e-sigarets efo nhw sy’n eisiau rhoi’r gorau i dybaco neu lleihau’r niwed.”
“Mae’n glir o’r arolwg yma fod angen mwy o gynnydd. Y gwahaniaeth amlwg yn cyfraddau smygu rhwng y ‘gyfoethogion’ a’r ‘anghyfoethogion’ yn destun i roi dan sylw. Mae’n hanfodol bod y cymunedau hyn yn cael eu cynnwys ac yn cael eu cefnogi ar bob cam o’u taith i fynd di-fwg. Mae angen cyngor arnynt sydd wedi’i deilwra ac, yn hollbwysig, cefnogaeth benodol i weddu i’w hamgylchiadau.”
- Mae’r arolwg blynyddol gynhaliwyd gan y Llywodraeth Cymraeg yn edrych ar statws iechyd, afiechyd, ffordd o fyw, defnydd o’r gwasanaeth iechyd a iechyd plant ac yn dadansoddi data o fwy na 13,000 o ymatebwyr.· Ffeindiwch canlyniadau’r arolwg yma
Holiadau: Emily Cole | Swyddog CC a Chyfarthrebu Digidol | 02920 490621