Mae ystadegau iechyd newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 29 Mehefin) yn dangos bod canran y smygwyr yng Nghymru yn is nag erioed o’r blaen, sef 19%, gyda gostyngiad sylweddol yn yr ardaloedd mwyaf cefnog.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru – a elwid gynt Arolwg Iechyd Cymru – yn arolwg blynyddol o iechyd a lles mwy na 10,000 o breswylwyr.*
Rhagorwyd ar darged Llywodraeth Cymru, sef cyfradd smygu o 20% erbyn 2016, ond mae anghydraddoldebau iechyd rhwng y bobl leiaf difreintiedig a mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cynyddu.
9% yw’r gyfradd smygu ymysg y bobl ‘leiaf difreintiedig’, o gymharu â 28% ymysg y bobl ‘fwyaf difreintiedig’ – sef 19% o wahaniaeth, 1% yn fwy na’r llynedd. Mae’r gwahaniaeth rhwng awdurdodau lleol hefyd yn enfawr; 14% yw’r gyfradd smygu isaf, yng Nghaerdydd, Ceredigion a Sir Fynwy, ond 25% yw’r gyfradd uchaf, yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae’r arolwg hefyd yn dangos y byddai 64% o’r holl smygwyr yn hoffi rhoi’r gorau iddi a bod 44% wedi ceisio gwneud. Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Wales Cymru: “Diolch i ddeng mlynedd o bolisïau blaengar ar reoli tybaco, mae mwy nag 80% o boblogaeth Cymru’n ddi-fwg erbyn hyn, sy’n newyddion gwych.
“Fodd bynnag, mae’n peri pryder gweld y bwlch o ran anghydraddoldeb iechyd rhwng y rhai sydd â digon a’r rhai sydd heb ddim yn lledu. Mae angen inni fynd ati’n benodol i dargedu’r grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’ hynny lle mae lefelau smygu yn dal i fod yn uchel a theilwra gwasanaethau, negeseuon ac ymgyrchoedd i gefnogi a chynnwys y grwpiau hyn nad ydym wedi eu cyrraedd eto.
“Mae’r targed nesaf, sef 16% erbyn 2020, yn uchelgeisiol ac mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau y byddwn yn cyrraedd y garreg filltir nesaf hon.
Mae canlyniadau eraill yn dangos bod 7% o bobl yn defnyddio sigaréts electronig, sef dyfeisiau ac ynddynt nicotin, ar hyn o bryd, a bod y rhan fwyaf o’r rhain yn smygwyr sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi.
“Rydyn ni’n hapus i weld bod mwyfwy o bobl yn cymryd camau fel defnyddio sigarét electronig i symud i ffwrdd o sigaréts marwol. Mae ymchwil yn dangos bod y dyfeisiau hyn 95% yn fwy diogel na sigaréts traddodiadol ac rydyn ni’n cefnogi’n llwyr eu defnyddio i ddiddyfnu pobl o dybaco, sy’n lladd un o bob dau o’i ddefnyddwyr hirdymor,” meddai Suzanne Cass.
Mae’r arolwg yn dangos nad yw 44% o’r holl ddefnyddwyr sigaréts electronig yn smygu mwyach ac mai dim ond 1% o ddefnyddwyr oedd wedi rhoi cynnig ar sigarét electronig cyn rhoi cynnig ar dybaco.
Mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn dod ychydig o fisoedd ar ôl i wasanaeth rhoi’r gorau i smygu newydd, Helpa Fi i Stopio, gael ei lansio ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth newydd a’i wefan yn cynnig cyngor wedi’i deilwra’n benodol i anghenion pobl sydd eisiau rhoi’r gorau iddi. I gael gwybod mwy ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i helpmequit.wales
*Mae’r cyfraddau smygu hyn wedi’u seilio ar 1 flwyddyn o ddata yn unig ac felly mae meintiau’r samplau i rai o’r awdurdodau lleol yn eithaf bach. Mae’n bosibl bod hyn yn effeithio ar gywirdeb rhai o’r ffigurau a gofnodwyd. At hynny, am y tro cyntaf mae’r ffigurau smygu hyn ar gyfer 2016/17 wedi cael eu cynhyrchu fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Yn y blynyddoedd blaenorol cafodd y ffigurau smygu eu cynhyrchu o Arolwg Iechyd Cymru. O gofio’r newid ym methodoleg yr arolwg, nid oes modd cymharu cyfraddau smygu 2016/17 â’r rhai a gofnodwyd yn y blynyddoedd blaenorol.