In Press Release Welsh
quit-support-swansea

Mae meddygon teulu a staff practisau ar draws Iechyd y Ddinas a’r Bae yn Abertawe yn cymryd rhan mewn prosiect peilot newydd sy’n cynnig profion anadl am ddim a chymorth i smygwyr i’w helpu i roi’r gorau iddi.

Mae oddeutu 20,000 o smygwyr yn byw yn ardaloedd Iechyd y Ddinas a’r Bae, ond dengys y ffigurau diweddaraf mai llai na 3% o’r rhain sy’n manteisio ar wasanaeth am ddim rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru, Helpa Fi i Stopio, pob blwyddyn.

Mae elusen rheoli tybaco ASH Cymru wedi creu’r prosiect newydd i helpu meddygon teulu a staff practisau i gynyddu nifer y rhai a hoffai roi’r gorau iddi sy’n cael y cymorth iawn a’r driniaeth amnewid nicotin iawn iddyn nhw.

Mae smygwyr sy’n cael cymorth gan wasanaethau arbenigol, er enghraifft trwy eu meddyg teulu neu fferyllfa leol, bedair gwaith yn fwy tebygol i roi’r gorau i smygu am byth na rhai sy’n ceisio gwneud hynny ar eu pen eu hunain.

Mewn partneriaeth â’r cwmni fferyllol Pfizer, mae ASH Cymru wedi darparu i 27 o feddygfeydd fonitorau anadl ‘mwg’: dyfeisiau llaw sy’n cymryd cwta eiliadau i ddangos i glaf lefel bresennol y carbon monocsid – mwg gwenwynig – yn ei gorff.

quit-support-for-swansea

Gan ddefnyddio system goleuadau traffig, gall cleifion weld faint o niwed maen nhw’n ei wneud i’w cyrff, gan weithredu fel ysgogydd nerthol i’w hannog i ystyried camau i roi’r gorau i’r arfer.

Dywedodd Dr Kirstie Truman, Meddyg Teulu Arweiniol i Glwstwr Iechyd y Bae: “Mae smygu’n cael effaith ddifrifol ar fywydau cynifer o’n cleifion, gan achosi canser, clefyd yr ysgyfaint a phroblemau â’r galon. Bydd cydweithio i gynorthwyo smygwyr i roi’r gorau iddi’n helpu i leihau nifer y bobl sy’n datblygu’r afiechydon angheuol hyn.

“Y gobaith yw y bydd caniatáu i gleifion weld lefel y carbon monocsid yn eu hysgyfaint yn eu hysgogi i ofyn am therapïau amnewid nicotin a rhoi’r gorau i smygu. Y peth gorau posibl i ysgyfaint unrhyw un yw rhoi’r gorau i smygu ac aros i ffwrdd oddi wrth smygwyr eraill o’u cwmpas. Nid yw rhoi’r gorau i smygu’n hawdd, ond mae cymorth a chyngor am ddim ar gael.”

Mae ymchwil yn dangos bod bron 70% o smygwyr eisiau rhoi’r gorau iddi ond gall dod o hyd i wybodaeth a chael y cyngor iawn fod yn rhan hanfodol o’r broses o roi’r gorau iddi.

Yn ddiweddar mae gwasanaeth pwrpasol Cymru i roi’r gorau i smygu, Helpa Fi i Stopio, wedi cynyddu’r dewisiadau sydd ar gael i smygwyr, ac mae’r rhan fwyaf o’r fferyllfeydd yn yr ardal yn cynnig cymorth un i un yn awr.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Mae’n ffaith syfrdanol y bydd bron hanner y smygwyr hirdymor yn marw o afiechyd sy’n gysylltiedig â smygu. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i leihau’r ystadegau arswydus o uchel hyn yn hanfodol.

“Rydym wrth ein bodd i gydweithio gyda chynifer o feddygon teulu ar draws Iechyd y Ddinas a’r Bae.  Bydd gwybodaeth yn ysgogi smygwyr i ofyn am y prawf CO am ddim i’w gweld ym mhob ystafell aros yn yr ardaloedd hyn yn awr. Rhaid inni roi i smygwyr bob cyfle, fel ymweliad â’r meddyg, i gael cyngor a chymorth a allai eu helpu i roi’r gorau iddi.”

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau ac os na chymerir unrhyw gamau ychwanegol, na chyrhaeddir y targed cenedlaethol sef 16% o oedolion yn smygu erbyn 2020. Yn hytrach, yn ôl ffigurau diweddar gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn 2025 y cyrhaeddir y targed o 16%.

Smygu yw prif achos canser ac achos ataliadwy mwyaf salwch a marwolaethau yng Nghymru, gan achosi mwy na 5,300 o farwolaethau pob blwyddyn. Mae 19% o oedolion Cymru’n smygu ar hyn o bryd, ond mae’r ffigur yn codi i 21% yn ardal Abertawe Bro Morgannwg – oddeutu 92,000 o smygwyr.

Mae gwasanaeth a gwefan Helpa Fi i Stopio yn cynnig cyngor wedi’i deilwra’n benodol i anghenion pobl a hoffai roi’r gorau iddi. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i helpmequit.wales

Os ydych chi’n byw yn ardaloedd Bae neu Ddinas Abertawe, chwiliwch am arwyddion yn ystafell aros eich meddygfa ynghylch sut y gallwch gael prawf CO am ddim heddiw.

Leave a Comment