Mae cerddi a ddarluniau pryfoclyd o ddisgyblion Ysgol Gynradd ym Mhen-y-bont wedi cael eu cyhoeddi mewn llyfr-mini ar ôl Cystadleuaeth Cymru gyfan ar ysmygu.
Roedd bron pob un o blant Ysgol Gynradd RC St Robert yn Aberkenfig, Pen-y-bont, yn cymryd rhan yn cystadleuaeth i greu cerdd neu poster ar gyfer sut maent yn teimlo am smygu tu fewn i’r cartref.
Mewn cyfanswm roedd 804 mynediad o 14 ysgol gynradd ar draws Cymru, efo’r 100 gorau yn cyrraedd y rhestr fer a’r llyfr. O’r 100 mynediad gorau wnaeth cyrraedd y llyfr-mini, daeth 28 o Ysgol Gynradd RC St Robert.
Crëwyd y llyfr a’r cystadleuaeth gan ASH Cymru, y sefydliad arweiniol yng Nghymru sy’n gweithio tuag at Gymru di-fwg. Eu hymgyrch diweddaraf, ‘Cartrefi Di-fwg’, yn anelu at codi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n cael ei achosi i blant, aelodau o’r teulu a hyd yn oed anifeiliaid anwes gan smygu tu fewn i’r cartref.
Dywedodd Adele Pember, Swyddog Marchnata a Dylunio Creadigol ASH Cymru, “Rydym wedi llethu efo’r nifer o fynediadau derbynon ni ar gyfer y cystadleuaeth yma. Dros 22% o blant yn cael eu hamlygu i fwg ail-law yn yr amgylchedd teuluol a dyna yw’r rheswm pam mae’r ymgyrch yma a gwaith caled y plant yn mor pwysig. Ein targed yw i godi ymwybyddiaeth o fewn teuluoedd ac amddiffyn bobl ifanc rhag niwed.”
Dywedodd Claire Jones, Cydlynydd Ysgolion Iach ar gyfer Ysgol Gynradd RC St Robert, “Rydym yn mor falch o ba mor llwyddiannus oedd ein plant efo’r cystadleuaeth ASH Cymru. Roeddwn ni’n awyddus i gymryd rhan er mwyn parhau efo’r gwaith mae St Robert yn gwneud tuag at fod yn ysgol iach. Cymerodd ein plant yr amser i ystyried yr effaith o smygu yn y cartref a’r goblygiadau mae’n gallu cael ar yr holl teulu. Roeddwn ni’n gobeithio fod y plant yn cymryd y negeseuon yma cartref i annog eu rhieni i feddwl am y canlyniadau mae smygu yn gallu cael ar gyfer pob aelod o’r teulu.”
Parhaodd Claire Jones, “Roedd y plant yn wrth eu boddau efo canlyniadau’r cystadleuaeth ac yn mor balch i gael eu gwaith wedi cyhoeddi.”
Bydd ASH Cymru yn rhedeg cystadleuaeth cerddi a chelf arall o fis Medi i gyd-daro efo’u hymgyrch nesaf, o amgylch gatiau ysgol di-fwg. I gymryd rhan ac ar gyfer mwy o wybodaeth, cysylltwch ASH Cymru.