In Press Release
e-cigarette

Mae grŵp gweithredu rheolaeth tybaco arweiniol Cymru, ASH Cymru, yn croeso canfyddiadau o adroddiad newydd ar gyfraddau a chyffredinolrwydd defnyddio e-sigaréts o fewn pobl ifanc.

Mae’r ymchwil diweddar yma – a chafodd ei rhyddhau ar y 9fed Chwefror gan Ganolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd y Cyhoedd, uned ‘DECIPHer’ – arolygu 32,476 disgyblion ysgol eilradd o ar draws Cymru gyfan.

Er fod yr ymchwil yn dangos cynydd yn nifer o bobl ifanc sy’n defnyddio e-sigaréts, mae’r adroddiad hefyd yn dangos nid yw e-sigaréts yn porth newydd i ysmygu.

Mae niferoedd o ysmygwyr rheolaidd, ifanc wedi bod yn cwympo blynedd ar flynedd efo cyfraddau nawr yn sefyll o amgylch 8% ar gyfer pobl 15 i 16 mlwydd oed yng Nghymru. O’r tystiolaeth a gasglwyd, nid yw’n edrych bod y cynydd yn nifer o bobl ifanc sy’n defnyddio e-sigaréts wedi arwain at gynydd yn nifer o bobl ifanc sy’n ysmygu.

E-sigaréts yw’r offer fwyaf poblogaidd o fewn oedolion sy’n edrych i roi’r gorau i smygu, a rydym yn annog unrhywun sy’n gaeth i dybaco i drio switsio i e-sigarét. Mae ASH Cymru yn gweld e-sigaréts fel cymorth i roi’r gorau i ysmygu yn unig ac ni fyddynt yn annog defnydd hamdden ohonynt, yn arbennig o fewn pobl ifanc a phobl sydd byth wedi ysmygu.

Rydym yn ymwybodol o ein gwaith gyda pobl ifanc fod nifer fawr ohonynt yn arbrofi gyda e-sigaréts a mae’n sefyllfa sydd yn angen arolygu. Ymchwil hyd yn hyn wedi awgrymu fod defnydd o e-sigaréts o fewn pobl sydd ddim neu byth wedi ysmygu yn isel iawn, canfyddiad sy’n cael ei cadarnhau gan yr arolwg a ffeindiodd ond 1 ym mhob 100 o bobl sydd ddim neu byth wedi ysmygu yn defnyddio e-sigarét yn rheolaidd.

Mae ASH Cymru wedi bod yn gweithio gyda ysmygwyr ifanc ar draws Cymru am y 5 mlynnedd diwethaf, yn helpu canoedd i roi’r gorau i ysmygu a rhai i fyth dechrau. Ers Ionawr 2016, mae mwy na 380 pobl ifanc yng Nghymru wedi gofyn am ein cymorth i helpu nhw rhoi’r gorau i ysmygu.

Dywedodd gweithiwr ieuenctid ASH Cymru, Andrew Foster: “Rydym wedi dod ar eu traws nifer o bobl ifanc sydd ddim yn smygu sigaréts ond yn defnyddio e-sigaréts oherwydd maent yn eu weld fel y trend mawr nesaf – mae nhw’n cael eu denu’n gyntaf gan yr anwedd maent yn gallu creu a’r blasau gwahanol. Mae pobl ifanc yn gweld nhw fel yr eitemau ‘fad’ newydd yn lle rhywbeth sy’n gysylltiedig â ysmygu. Rydym hefyd yn dechrau gweld e-sigaréts yn chwarae rôl efo gael eich derbyn i fewn i grŵpiau cymdeithasol traddodiadol o ysmygwyr, yn yr ystyr mae nhw’n gwrthrych angenrheidiol ar gyfer ysmygwyr hyd yn oed os nad ydyn nhw’n defnyddio’r dyfeis i roi’r gorau iddi.”

Mae ASH Cymru yn ymroddedig i adolygu’r tystiolaeth ac yn croeso fwy o ymchwil ar y defnydd o e-sigaréts a’u heffeithiau hir tymor. Mae ASH Cymru yn darparu cymorth a cyfeiriad sydd wedi ei yrru gan dystiolaeth i helpu lleihau’r cyffredinoldeb o ysmygu yng Nghymru.

Leave a Comment