Mae un o benaethiaid tai blaenllaw Cymru wedi cael ei ethol yn gadeirydd newydd yr elusen weithredu ar reoli tybaco ASH Cymru.
Mae Scott Sanders, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Tai Linc-Cymru, wedi cael ei benodi gan yr Ymddiriedolwyr gan gydnabod ei sgiliau arwain ardderchog a’r uchelgais mae’n ei rannu i wella ansawdd bywydau ar draws Cymru.
Mae un ym mhob pum oedolyn yng Nghymru’n dal i smygu ac mae smygu’n lladd mwy na 5,000 o bobl yng Nghymru pob blwyddyn. Mae’r bobl fwyaf difreintiedig a bregus yn ein cymunedau’n fwy tebygol o smygu ac o ddioddef effaith smygu goddefol.
Daw Mr Sanders ag 20 mlynedd o brofiad busnes yn y sectorau tai a gofal cymdeithasol i’r rôl ac mae’n dweud na fu’r cysylltiad rhwng tai ac iechyd erioed yn gliriach: “Mae tai fforddiadwy’n chwarae rhan bwysig wrth ddarparu amgylcheddau diogel y gall pobl adeiladu eu bywydau ohonynt, ond mae’n mynd ymhellach na hynny, gan fod yn rhaid i bopeth a wnawn gyfrannu at iechyd, llesiant a ffyniant pobl.
“Bydd cyflawni hyn yn helpu i leihau’r anghydraddoldeb sy’n bodoli mewn cymunedau ac yn lleihau’r cydberthyniad rhwng statws economaidd gymdeithasol a chyfraddau smygu.”
Nodwyd mai smygu yw un o’r prif achosion dros y bwlch rhwng cyfraddau marwolaethau yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ein gwlad.
Dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Suzanne Cass: “Mae’r sector tai yng Nghymru eisoes wedi cymryd camau cadarnhaol i wella iechyd pobl fregus. Mae ASH Cymru wrth ei bodd i fod â ffigur amlwg yn y maes hwn i helpu i lywio ein huchelgeisiau a’n llwybr strategol.”
Mae Mr Sanders yn frwdfrydig dros y rhan y gall y sector tai fforddiadwy ei chwarae wrth helpu i wella iechyd a llesiant tenantiaid ac mae’n credu bod lleihau cyfraddau smygu’n allweddol.
Ychwanegodd Mr Sanders: “Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliadau clir ar gyfer gwell llesiant a symudiad o ‘drin i atal’ yn ei strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’.
“Caiff hyn ei ategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sydd â’r nod o gael cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor gwneud penderfyniadau a buddsoddi, atal problemau a mabwysiadu agwedd fwy cydgysylltiedig.
“Fel Cadeirydd rwy’n awyddus i gefnogi’r enw da mae Suzanne wedi’i greu i fod yn ddewis bartner a pharhau i fod yn adnabyddus am greu’r math iawn o sgwrs, gan ddylanwadu’n sylweddol ar yr agenda a darparu eiriolaeth i’r bobl hynny nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol.”
Ymysg ei gyflawniadau, cyn cymryd drosodd fel Prif Swyddog Gweithredu Linc-Cymru, cynorthwyodd Mr Sanders â’r gwaith o uno Ymddiriedolaeth Tai Casnewydd a Grŵp Seren i greu Derwen Cymru, cymdeithas tai arbenigol sydd wedi ymroi i wella bywydau pobl hŷn.
Cred Mr Sanders fod meithrin partneriaethau llwyddiannus rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector yn allweddol er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd: “Mae’r 20 a rhagor o flynyddoedd rwyf wedi’u treulio’n gweithio yn y sector tai fforddiadwy wedi rhoi imi gyfle i ymwneud â datrysiadau a gwasanaethau tai sy’n manteisio ar y buddion llawer mwy sy’n codi pan fo tai, gofal cymdeithasol ac iechyd yn cydweithio. Mae darparu datrysiadau trawsbynciol yn rhan o’m bywyd gweithio pob dydd.”
Aeth Mr Sanders ymlaen i ddweud, er bod camau i leihau cyfraddau smygu yng Nghymru’n galonogol, mae llawer o waith i’w wneud eto: “Mae’r camau sydd wedi’u cymryd yng Nghymru i weithredu rheoli tybaco’n gadarnhaol ac wedi sicrhau gwelliannau mewn canlyniadau iechyd i’r rheiny sy’n rhoi’r gorau iddi neu’n lleihau’r nicotin maen nhw’n ei gymryd i mewn a hefyd wedi helpu’r rheiny mae mwg ail-law yn effeithio arnyn nhw.
“Er gwaethaf y gwelliannau, amcangyfrifir mai cost smygu i’r GIG yng Nghymru’n benodol yw oddeutu £302 miliwn y flwyddyn, ond gallai fod cymaint â £436.6 miliwn y flwyddyn. Mae ffordd hir i fynd o hyd i godi ymwybyddiaeth pobl a’u cynorthwyo i wneud penderfyniadau cadarnhaol.”
Mae’r amcanestyniadau diweddaraf yn dangos ei bod yn annhebygol y bydd y targed cenedlaethol, sef cyfradd smygu o 16% yng Nghymru erbyn 2020, yn cael ei gyrraedd tan 2025. Mae angen cymorth a gweithredu ychwanegol i leihau cyfraddau smygu a nifer y bobl sy’n dechrau smygu.