Bydd cynlluniau Prifysgol Metropolitan Caerdydd i fod y brifysgol ddi-fwg gyntaf yng Nghymru yn cael eu lansio’n swyddogol gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Rebecca Evans, heddiw (dydd Mercher, 20 Medi).
Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r elusen rheoli tybaco ASH Cymru, bydd y brifysgol yn gwahardd smygu ar eu holl gampysau ac yn ei neuaddau preswyl ac Undebau Myfyrwyr erbyn 2019.
Bydd aelodau o’r staff a myfyrwyr yn cael cefnogaeth lawn i roi’r gorau i smygu a bydd cynhyrchion tybaco’n cael eu symud ymaith o siopau’r Undeb Myfyrwyr ac yn eu lle bydd cynhyrchion amgen fel sigaréts electronig a phatsis nicotin.
Mae’r seremoni torri rhuban heddiw yn Ffair y Glas ar gampws y brifysgol yng Nghyncoed yn nodi dechrau cynllun gweithredu dwy flynedd a fydd yn gosod y safon i brifysgolion ar draws Cymru.
Cynhaliodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd arolygon i agweddau at wneud y tiroedd yn gwbl ddi-fwg a chanfu nad oedd gan y staff unrhyw wrthwynebiad i’r cynlluniau a dywedodd myfyrwyr na fyddai’n cael effaith negyddol ar eu dewis i ddod i’r brifysgol.
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Rebecca Evans: “Mae hwn yn ganlyniad gwych i weithio partneriaethol gan ASH Cymru a staff a myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd i hybu ac amddiffyn iechyd a lles ei chymuned. Mae hwn yn gam pwysig ar gyfer Cymru i greu amgylchedd di-fwg iachach a mwy diogel i’n pobl ifanc.”
Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor (Academaidd) Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Sushila Chang: “Mae’r Brifysgol wrth ei bodd i fod y gyntaf yng Nghymru i ymrwymo i gampysau di-fwg. Mae wir yn gam cadarnhaol iawn a fydd yn caniatáu i’n holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr fwynhau ein mannau awyr agored.
“Rydyn ni wedi ymrwymo o fod yn brifysgol iach ac yn falch iawn o feddu ar Safon Iechyd Gorfforaethol Aur Llywodraeth Cymru ers 2011.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio gydag ASH Cymru dros y ddwy flynedd nesaf. Gyda help yr elusen a’n cymorth ar y safle rydyn ni’n credu y gallwn gynorthwyo myfyrwyr ac aelodau o’r staff sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu wneud hynny ac aros yn ddi-fwg am oes.”
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Suzanne Cass: “Wrth i nifer y smygwyr ostwng o’r naill flwyddyn i’r llall, mae’n bwysig inni greu mannau di-fwg y gall pawb eu mwynhau. Mae cynlluniau Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn flaengar ac yn gwbl unol â datblygiadau ym marn y cyhoedd.
“Fel yn achos unrhyw brosiect o’r fath, mae cymorth yn hollbwysig ac mae’n galondid gweld bod staff y brifysgol wedi siarad mewn modd mor gadarnhaol am gael y cyfle i fynd i sesiynau rhoi’r gorau i smygu yn ystod oriau gwaith.”
Dywedodd yr Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ashley Gould: “Mae rhyw 8 o bob 10 o smygwyr hirdymor yn dechrau cyn eu bod yn 25 oed, ac mae 7 o bob 10 eisiau rhoi’r gorau iddi, ond yn ei chael yn anodd iawn. Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy’n ddi-fwg yn helpu i bwysleisio nad smygu yw’r norm. Os yw aelodau o’r staff neu fyfyrwyr yn smygu, y ffordd orau o roi’r gorau iddi yw gyda chymorth gan y GIG – ewch i www.helpmequit.wales, tecstiwch HMQ i 80818, neu ffoniwch 0800 085 2219.”
Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ddau gampws addysgu a safle neuaddau preswyl, lle bydd y gwaharddiad yn cael ei weithredu’n llwyr o ddechrau’r flwyddyn academaidd ym mis Medi 2019.