** Daw’r rhan fwyaf o’r postiad hwn o flog a ysgrifennwyd yn 2017 gan Brif Weithredwr ASH Scotland, Sheila Duffy, gydag ychwanegiadau perthnasol gan ASH Cymru.
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni rhwng 14 a 20 Mai. Ei thema yw mynd i’r afael â straen, sydd yn aml yn gysylltiedig â smygu.
Canfu arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl fod rhyw 74% o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi teimlo o dan gymaint o straen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf nes eu bod yn teimlo wedi’u gorlethu neu eu bod yn methu ag ymdopi1. Dylid llongyfarch y gwaith i godi ymwybyddiaeth o straen fel ffactor iechyd meddwl – mae wythnosau fel hyn yn annog unigolion i atal straen yn y lle cyntaf ac yn rhoi iddynt y wybodaeth i wneud hynny, ac yn ennyn sgyrsiau ynghylch sut i fynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol sy’n achosi lefelau straen mor uchel.
Yn 2016-17, roedd rhyw 36% o’r oedolion yng Nghymru sydd â salwch meddwl yn smygu2, o gymharu â 19% o’r boblogaeth gyffredinol3. Rhwng 2008 a 2015, ni newidiodd y ffigur hwn braidd dim yng Nghymru4; mae hyn yn peri pryder arbennig o’i gymharu â’r cyfraddau ar gyfer boblogaeth gyffredinol, sy’n gostwng. Mae pobl ag afiechyd meddwl yn smygu mwy na thraean o’r tybaco a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig5, a smygu yw’r peth sy’n cyfrannu mwyaf at y ffaith bod pobl â salwch meddwl yn marw rhwng 10 a 20 mlynedd yn gynt na’r boblogaeth gyffredinol6. Ond yn druenus, er bod llawer o bobl yn smygu i leddfu straen a symptomau salwch meddwl, mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw smygu’n helpu ac y gallai hyd yn oed niweidio gorbryder hirdymor a chanlyniadau iechyd meddwl.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni – gan gydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael â straen a dod o hyd i ffyrdd iach seiliedig ar dystiolaeth o fynd i’r afael ag ef – yn mynd at wraidd pam y mae iechyd meddwl mor bwysig i waith ASH Cymru i leihau’r niwed a’r anghydraddoldeb a achosir gan smygu.
“Efallai nad ni ein hunain sydd yn y sefyllfa orau i helpu i leihau’r pwysau a’r straen mewn bywyd sy’n cyfrannu at salwch meddwl. Fodd bynnag, mae gennym rywbeth pwysig i’w ddweud am smygu fel y mecanwaith ymdopi mae cynifer o bobl yn ei ddefnyddio’n awtomatig.
“Dwi ddim yn synnu o gwbl bod pobl yn ymestyn am sigarét ar adegau o angen. Mae delwedd gyhoeddus smygu wedi symud i ffwrdd o hudoliaeth a soffistigeiddrwydd oes aur Hollywood. Mae smygu’n dal yn amlwg yn y cyfryngau, ond erbyn hyn caiff ei defnyddio fel llaw fer i ddynodi rhywun mewn trallod sy’n sugno rhyddhad o welltyn tybaco.”
“Mae profiad personol yn atgyfnerthu’r ddelwedd hon yn aml. Beth bynnag yw’r cyfuniad cymhleth o anadlu dwfn, canolbwyntio, arfer cyfarwydd a lliniaru’r blys am nicotin, yr hyn sy’n aros yn y cof yw bod smygu wedi helpu i leddfu straen.”
“Yn olaf, mae’r ffaith ei bod mor anhygoel o hawdd cael gafael ar sigaréts. Chwe deg mlynedd ar ôl cael prawf bod smygu’n lladd, ac er yr holl sôn am gyfyngiadau caeth ar smygu gan lywodraethau, mae sigaréts ar gael ymhob man yn ein cymdeithas, yn cael eu gwerthu heb drwydded ym mhob siop gornel, garej ac uwchfarchnad am 35c yr un ar gyfartaledd. Dychmygwch fyd lle mae mecanweithiau ymdopi eraill, llai niweidiol, yr un mor weladwy ac ar gael yr un mor hawdd.”
Beth bynnag yw’r argraff ddechreuol, mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw smygu’n lleddfu afiechyd meddwl yn y tymor hir7, er i’r diwydiant tybaco barhau i hyrwyddo’r myth hwn8. Mae llawer o bapurau ymchwil yn nodi y gallai smygu hyd yn oed fod yn niweidiol i iechyd meddwl yn y tymor hir,9,10 yn ogystal ag i iechyd corfforol.
“Mae’n hawdd cael eich camarwain gan yr effeithiau tawelu ymddangosiadol, ond ni ddylai neb synnu nad yw uchafbwyntiau ac isafbwyntiau seicolegol blys am nicotin yn gwella lles meddyliol cyffredinol. Ac nid yw’r gost ariannol, na bod yn brin eich anadl neu mewn poen, yn cyfrannu at leihau pryder chwaith.”
“Y ffaith bod smygu’n cyfyngu ar effeithiolrwydd llawer o feddyginiaethau, gan arwain at gynnydd yn y dos a’r sgil effeithiau, oedd y prif bryder a fynegwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yr ymgynghorasom â nhw yn ddiweddar.”
Gwyddom yn awr fod rhoi’r gorau i smygu yn gysylltiedig â gwell iechyd meddwl11,12,13, yn enwedig os yw’n cael ei gefnogi gan driniaeth iechyd meddwl berthnasol. Mae’r rhan fwyaf o bobl â phroblemau iechyd meddwl sy’n smygu’n dweud eu bod nhw eisiau rhoi’r gorau iddi, felly oni ddylid cynnig cymorth i roi’r gorau i smygu i’r bobl hynny yr un mor hawdd a chyflym â meddyginiaethau seicotropig?
“Mae gennym waith i’w wneud i ymchwilio i’r mecanweithiau ymdopi eraill, llai niweidiol, a all helpu pobl i feithrin gwydnwch yn wyneb eu problemau, ac i ddatblygu’r mecanweithiau hynny. Efallai bod ioga neu ymwybyddiaeth ofalgar yn wych, ond dim ond os ydych chi’n berson sy’n ffafrio ioga neu ymwybyddiaeth ofalgar. I bobl eraill, efallai mai gwau, gemau cyfrifiadurol, e-sigarét, mynd am dro, Facebook neu ffonio ffrind fyddai’r ateb.”
“Mae sefyllfa pob unigolyn yn wahanol, bydd yr anghenion mae’n ceisio eu diwallu’n wahanol, a bydd y dewisiadau yn lle smygu a allai weithio iddo yn wahanol. Yr hyn a allai wneud gwahaniaeth yw sgwrs, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a’i anghenion a’r dulliau sydd ar gael iddo eu hystyried a rhoi cynnig arnyn nhw.”
“Mae’r math hwn o drafodaeth yn cymryd amser, ond mae’r sgiliau gan y staff cymorth eisoes. Smygu yw’r peth sy’n cyfrannu mwyaf at y ffaith bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn marw 10-20 mlynedd yn gynharach na’r boblogaeth gyffredinol. Siawns bod hyn yn haeddu trafodaeth?”
Darllenwch mwy: