In Press Release

Roedd dydd Sul 2 Ebrill 2017 yn ddyddiad nodedig yn hanes rheoli tybaco – roedd yn nodi 10 mlynedd ers i’r ddeddfwriaeth arloesol yn gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig ddod i rym ledled Cymru.

Mae’r gwaharddiad, a fu’n destun dadlau brwd, wedi helpu i ostwng yn sylweddol gyfraddau smygu ymysg oedolion ac ieuenctid fel ei gilydd, ac wedi achub miloedd rhag niwed cynnyrch sy’n lladd 1 o bob 2 o’i ddefnyddwyr hirdymor.

smoking-ban

Yn 2007, roedd 24% o’r oedolion yng Nghymru’n smygu. 19% yw’r lefel erbyn hyn, felly mae 94,000 yn llai o bobl yn smygu. Mae’r ystadegau’n well fyth ymysg pobl ifanc yn eu harddegau; mae cyfraddau smygu wedi gostwng 6% ymysg bechgyn a 14% ymysg merched.

Mae newid diwylliannol mawr wedi digwydd dros y degawd diwethaf. Mae gostyngiad enfawr yn nifer y bobl sy’n smygu gartref, o 80% i 46% ers i’r gwaharddiad ddod i rym, yn awgrymu bod mwy o ymwybyddiaeth o beryglon mwg ail-law, yn enwedig o gwmpas plant a theuluoedd.

Dywedodd Suzanne Cass, prif weithredwr ASH Cymru, yr elusen sy’n ymgyrchu dros reoli tybaco: “Mae’r gwaharddiad ar smygu wedi arwain at y gwelliant mwyaf cadarnhaol yn iechyd y genedl ers degawdau. Ni ddylid tanbrisio arwyddocâd y ddeddfwriaeth hon. Mae miloedd yn fwy o blant yn byw mewn cartrefi di-fwg erbyn hyn, ac mae cannoedd o filoedd o bobl heb orfod wynebu effeithiau marwol smygu goddefol.”

Mae yna dystiolaeth glir nad yw smygwyr yn teimlo mor gyfforddus bellach wrth smygu o gwmpas pobl eraill – mae nifer y bobl sy’n smygu yn eu cartrefi eu hunain wedi haneru, bron, ers i’r gwaharddiad ddod i rym. Mae’n wych gweld bod y neges am beryglon smygu, yn enwedig o gwmpas plant, yn cael sylw.”

smoking-ban

Mae yna dystiolaeth glir nad yw smygwyr yn teimlo mor gyfforddus bellach wrth smygu o gwmpas pobl eraill – mae nifer y bobl sy’n smygu yn eu cartrefi eu hunain wedi haneru, bron, ers i’r gwaharddiad ddod i rym. Mae’n wych gweld bod y neges am beryglon smygu, yn enwedig o gwmpas plant, yn cael sylw.”

Cafodd y bygythiad cudd o fwg ail-law, yn enwedig i weithwyr yn y diwydiant hamdden fel tafarnau a chlybiau, ei roi fel un o’r prif resymau dros gyflwyno’r gwaharddiad ar smygu dan do. Dywed Sefydliad Iechyd y Byd fod mwy nag 80% o fwg sigaréts yn amhosibl ei weld a’i arogleuo, ac nad oes lefel ddiogel o gysylltiad â mwg ail-law.

Mae cefnogaeth gadarn o hyd i’r gwaharddiad ar smygu yng Nghymru; mae 81% o bobl yn cefnogi’r ddeddfwriaeth ddi-fwg. Mae’n nodedig bod tri chwarter y bobl sy’n smygu o blaid y gwaharddiad.

Er gwaethaf y camau breision ymlaen, mae ASH Cymru’n credu bod mwy o newidiadau i’w gwneud o hyd. Aeth Suzanne ymlaen; “Mae cyfraddau smygu wedi gostwng i’r rhan fwyaf o’r boblogaeth ac eithrio ymysg pobl ddi-waith, lle maen nhw wedi codi o 41% i 43%. Mae hyn yn dangos nad ydi’r neges ar roi’r gorau i smygu’n taro deuddeg gyda’r bobl ‘anodd eu cyrraedd’ hyn, ac mae’r bwlch o ran anghydraddoldebau iechyd rhwng y rhai sydd â digon a’r rhai sydd heb ddim yng Nghymru’n cynyddu.”

Mae cyfreithiau sylweddol a gwaharddiadau gwirfoddol wedi dod i rym yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth ddi-fwg…

2007

  • 24% o bobl yng Nghymru’n smygu
  • Codi’r terfyn oed i brynu tybaco o 16 i 18

2012

  • Rhaid cuddio sigaréts o’r golwg ym mhob archfarchnad fawr
  • Gwahardd peiriannau gwerthu sigaréts yng Nghymru

2015

  • Daw’n anghyfreithlon smygu mewn car pan fo person ifanc yn bresennol
  • Gwahardd gwerthu sigaréts electronig i bobl iau na 18 oed

2016

  • Y traethau cyntaf yng Nghymru, Caswell Bay a Little Haven, yn dod yn ddi-fwg
  • Rhaid i’r holl sigaréts sy’n cael eu gwneud o 2016 ymlaen fod mewn pecynnau ‘plaen’ gwyrdd-frown di-liw
  • Pob maes chwarae i blant yng Nghymru’n dod yn fannau di-fwg yn wirfoddol

2017

  • 19% o bobl yng Nghymru’n smygu
  • Llywodraeth Cymru’n bwriadu deddfu i wahardd smygu ar diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae i blant
  • 11 awdurdod lleol yng Nghymru’n gwneud gatiau eu hysgolion cynradd yn fannau ‘dim smygu’ yn wirfoddol
  • Pecynnau o 10 sigarét heb fod ar werth mwyach
smoking-ban

Leave a Comment