Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymestyn ei gwaharddiad ar smygu i fannau yn yr awyr agored. Disgwylir i fannau di-fwg fod ar waith ar diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae erbyn haf 2019.
Bydd cryfhau’r cyfreithiau ynghylch smygu’n gyhoeddus yng Nghymru’n gam pellach i warchod pobl nad ydynt yn smygu rhag mwg ail-law a dadnormaleiddio smygu i blant a phobl ifanc.
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr y grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco, ASH Cymru: “Y cruglwyth hwn o ddeddfwriaeth ddi-fwg yw’r un pwysicaf mae Cymru wedi’i weld er iechyd ein cenedl ers y gwaharddiad ar smygu dan do yn 2007. Mae’r cyfreithiau hyn yn gyflawniad o bwys ym maes iechyd y cyhoedd a byddant yn codi proffil Cymru yn fwy byth fel arweinydd y Deyrnas Unedig ar fesurau rheoli tybaco.
“Mae llond ystafell ddosbarth o bobl ifanc yn dechrau smygu bob dydd yng Nghymru o hyd, felly mae’n hanfodol inni sicrhau nad yw plant yn ystyried smygu’n weithgarwch pob dydd arferol. Rhaid inni osod esiamplau cadarnhaol lle bynnag y gallwn.
“Bydd creu mannau di-fwg i bawb, ond yn arbennig lle mae plant a phobl ifanc yn chwarae ac yn dysgu, yn cael effaith ar eu harferion cysylltiedig ag iechyd yn y dyfodol. Gwyddom fod yr hyn mae pobl ifanc yn ei weld o’u cwmpas yn cael dylanwad mawr arnynt ac mae plant y mae un o’u rhieni’n smygu 70% yn fwy tebygol o ddechrau smygu eu hunain
“Mae cefnogaeth fawr yng Nghymru i wahardd smygu mewn mannau cymunol yn yr awyr agored – megis tiroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae. Dangosodd arolwg gan YouGov yn 2017 fod 71% yn cytuno y dylid gwahardd smygu ar diroedd ysbytai, bod 61% yn cytuno â gwahardd smygu mewn mannau hamdden megis parciau a thraethau, a bod canran lethol o 83% yn meddwl y dylid gwahardd smygu ar feysydd chwarae plant, gan gynnwys 56% o smygwyr.
“Rydyn ni, yn ogystal â sefydliadau fel Cancer Research UK a Sefydliad Prydeinig y Galon, wedi gweithio’n ddiflino dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddarparu tystiolaeth gref i gefnogi’r agweddau ar reoli tybaco a ddaw i rym yn yr haf y flwyddyn nesaf.”
Darllenwch mwy: ASH Cymru’n Croesawu Cyfreithiau Newydd sy’n Amddiffyn Plant Rhag Smygu (Mai 2017)