In Press Release Welsh

Mae bron hanner y smygwyr yng Nghymru wedi cael cynnig prynu tybaco anghyfreithlon ac mae 15% o’r holl dybaco a werthir yng Nghymru’n anghyfreithlon, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan ASH Cymru. Mae gan Gymru un o’r marchnadoedd mwyaf mewn tybaco anghyfreithlon o’i chymharu â phob un o ranbarthau Lloegr.

Mae ASH Cymru wedi comisiynu’r arolwg cyntaf erioed ar raddfa a maint y farchnad tybaco anghyfreithlon yng Nghymru. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod chwarter y smygwyr yng Nghymru’n prynu tybaco anghyfreithlon a bod bron 60% ohonynt yn ei brynu o leiaf unwaith y mis.

Mae tybaco anghyfreithlon yn cynnwys brandiau tramor sy’n cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer y farchnad ddu; sigaréts a thybaco sy’n cael eu smyglo o wledydd â threthi is, a sigaréts ffug. Yn aml mae’n cael ei werthu o dan y cownter mewn siopau a bariau, mewn tai preifat ac mewn arwerthiannau cist car. Mae’r sigaréts sy’n cael eu gwerthu ar y farchnad ddu yn llawer rhatach na sigaréts cyfreithlon, gan ei wneud yn haws i blant ddechrau smygu. Mae’r bobl sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon yn aml yn gysylltiedig â gwerthu nwyddau anghyfreithlon eraill fel cyffuriau ac alcohol, felly mae prynu tybaco anghyfreithlon yn helpu i gefnogi trosedd cyfundrefnol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, “Smygu yw un o brif achosion marwolaethau cynnar ac rydyn ni’n rhoi ar waith amrywiaeth gynhwysfawr o fesurau i leihau’r niwed mae tybaco’n ei achosi. Mae’r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn tanseilio ein hymdrechion i reoli’r defnydd o dybaco ac i helpu pobl i roi’r gorau i smygu.”

“Mae’n bwysig i ni gynorthwyo mwy o bobl i roi’r gorau i smygu. Mae Stoptober yn gyfle gwych i smygwyr fod yn rhan o’r her a rhoi’r gorau iddi.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd – Mark Drakeford

“Mae’n syfrdanol bod gan Gymru farchnad mor fawr mewn tybaco anghyfreithlon. Mae angen buddsoddi arian ac mae angen strategaeth gynhwysfawr i fynd i’r afael â’r broblem. Roedd gan Ogledd-ddwyrain Lloegr farchnad fawr mewn tybaco anghyfreithlon hefyd, ond mae buddsoddi arian ac ymgyrch drefnedig, gyda nifer o bartneriaid yn cydweithio, wedi dod â’r ganran i lawr i 9% o 15% yn 2009.”

Elen de Lacy, Prif Weithredwr ASH Cymru

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gydag asiantaethau gorfodi a phartneriaid eraill i gael effaith gadarnhaol ar y defnydd o dybaco anghyfreithlon a’r agweddau ato a welir yng nghanlyniadau’r arolwg sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.”

Steve Hay, Rheolwr Rhaglen Tybaco Anghyfreithlon ASH Cymru

Bydd ASH Cymru’n lansio’r adroddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar 17eg Medi cyn ei gynhadledd ryngwladol o’r enw ‘Tackling Health Inequalities through Tobacco Control’.

Nodiadau

  • NEMS Market Research a wnaeth yr arolwg gyda 2,547 o gyfweliadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
  • O’r farchnad tybaco rhad yng Nghymru y daw 19% o’r tybaco a ddefnyddir; mae 15% yn dybaco anghyfreithlon a 4% yn dybaco di-doll.
  • Mae bron hanner (45%) y smygwyr wedi cael cynnig prynu tybaco anghyfreithlon.
  • Mae chwarter y smygwyr yn prynu tybaco anghyfreithlon ac ar gyfartaledd mae hyn yn 42% o’r holl dybaco maent yn ei ddefnyddio.
  • Ble mae pobl yn prynu tybaco anghyfreithlon:
    • Cyfeiriad preifat – 52%
    • Tafarn/clwb – 45%
    • Siopau – 19%
    • Ar y stryd – 16%
  • Mae 59% yn prynu tybaco anghyfreithlon o leiaf unwaith y mis a dim ond 9% sy’n ei brynu unwaith y flwyddyn.
  • £4 yw pris cyfartalog 20 sigarét anghyfreithlon.
  • Mae 53% yn cytuno’n gryf bod tybaco anghyfreithlon yn dod â throsedd i’w cymuned ac mae 43% yn cytuno’n gryf ei fod yn annog gangiau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Mae 70% o’r prynwyr yn cytuno’n gryf bod tybaco anghyfreithlon yn ei wneud yn bosibl iddynt smygu pan na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall.
  • Unig dasg ASH Cymru yw mynd i’r afael â’r iechyd gwael a achosir gan ddefnyddio tybaco, ac yn hynny o beth mae’n sefydliad gwirfoddol unigryw yng Nghymru. Ein prif nod yw sicrhau bod y problemau iechyd sy’n gysylltiedig â defnyddio tybaco yn cael eu lleihau a’u dileu yn y pen draw.

Leave a Comment