ASH Cymru’n Dweud Bod Yn Rhaid I Gyflogwyr Yng Nghymru Wneud Mwy I Helpu Eu Staff I Roi’r Gorau I Smygu, Wrth Lansio Ymgyrch Fawr I Ostwng Cyfraddau Smygu Yng Nghymru
Rhaid i bob cyflogwr yng Nghymru hybu cymorth i roi’r gorau i smygu er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ostwng cyfraddau smygu o 23% i 16% erbyn 2020, yn ôl ASH Cymru.
Daw’r alwad wrth i ymgyrch newydd – Rhoi’r Gorau dros Gymru – gael ei lansio heddiw gan Action on Smoking and Health (ASH) yng Nghymru cyn gemau rygbi rhyngwladol yr hydref.
Bydd yr ymgyrch yn annog y 500,000 o smygwyr yng Nghymru i geisio rhoi’r gorau iddi a bydd yn galw am fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu yn y gweithle, yn ogystal â mwy o gymorth i roi’r gorau i smygu i grwpiau agored i niwed fel menywod beichiog a phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae bron chwarter pobl Cymru’n dal i smygu, gan gynnwys mwy na 30% o’r rhai sy’n gwneud gwaith arferol a gwaith llaw. Ychydig iawn o fusnesau yng Nghymru sy’n cynnig cymorth i roi’r gorau i smygu er bod smygu’n cael effaith ddifrifol ar gynhyrchiant trwy seibiannau smygu ac iechyd y gweithlu.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau lleihau cyfraddau smygu o’r ffigur cyfredol sef 23% i 16% erbyn 2020 – sy’n golygu 25,000 o bobl yn rhoi’r gorau iddi bob blwyddyn yng Nghymru – a hynny heb i neb arall ddechrau smygu.
Bydd yr ymgyrch, a fydd yn rhedeg am chwe mis, yn galw am:
- I bob gweithle yng Nghymru hybu cymorth hyblyg i roi’r gorau i smygu i’w weithwyr. Mae mwy na 30% o’r bobl sy’n gwneud gwaith arferol a gwaith llaw yn smygu ar hyn o bryd, canran lawer uwch na’r cyfartaledd cyffredinol.
- I’r holl fydwragedd ac ymwelwyr iechyd yng Nghymru gael eu haddysgu mewn smygu yn ystod beichiogrwydd a chael hyfforddiant ar ymyriadau byr fel rhan o’u hyfforddiant cyn-gofrestru. Ar hyn o bryd mae 16% o fenywod beichiog yng Nghymru’n smygu drwy gydol eu beichiogrwydd, sef y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig.
- I’r holl ddarparwyr gwasanaethau iechyd meddwl gael eu hyfforddi mewn cymorth i roi’r gorau i smygu. Mewn cyferbyniad â’r gostyngiad yn y cyfraddau smygu ymysg y boblogaeth gyffredinol yn yr ugain mlynedd diwethaf, ychydig o newid a fu yn y gyfradd smygu ymysg pobl ag anhwylderau meddyliol yn yr un cyfnod.
Dywedodd Elen de Lacy, Prif Weithredwr ASH Cymru:
“Os ydyn ni’n mynd i ostwng cyfraddau smygu yng Nghymru ac annog mwy o bobl i roi’r gorau iddi mae’n rhaid i ni fuddsoddi mewn gwasanaethau hyblyg a hygyrch i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn. Mae gan weithleoedd yng Nghymru ran hanfodol i’w chwarae wrth ddod â chyfraddau smygu i lawr. Gallan nhw fod yn lleoedd cefnogol i roi’r gorau iddi ond mae angen i gyflogwyr roi amser i’w staff wneud hynny. Hefyd mae angen i ni sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â grwpiau agored i niwed fel bydwragedd a darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu hyfforddi i gynghori smygwyr a’u cyfeirio at y gwasanaethau iawn.