Pa un a ydych chi’n fam feichiog neu’n weithiwr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda menywod beichiog sy’n smygu, mae gennym ni ddigonedd o wybodaeth ac adnoddau ichi eu lawrlwytho isod.
Rydym ni eisiau helpu mamau i wneud dewis iachach o ran ffordd o fyw a galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i gael sgyrsiau gyda menywod beichiog am smygu.
Sut mae smygu’n niweidio baban heb ei eni?
Rydych chi’n mewnanadlu dros 4,000 cemegion drwy bob sigaret.
Cemegion yn mynd o eich ysgyfaint i fewn i’ch llif gwaed.
Mae’r gwaed yn llifo i’r brych a’r llinyn bogail, yn syth i fewn i corff eich babi.
Mae’r mwg yn gallu parhau am lan at 15 munud yn y groth, cyfyngu’r cyflenwad ocsigen i’ch babi.
Mae ei calon bach yn gorfod curo galetach pob tro rydych chi’n smygu. Os ydych chi’n smygu bydd eich babi yn dioddef o dynnu’n ôl nicotin ar ôl genedigaeth, maent yn hollol dderbyniol arnoch.
Bydd hyn yn achosi mwy o straen ar gyfer eich babi, a fyddynt yn ffeindio yn galetach setlo i lawr ar ôl genedigaeth.
Heb anghofio’r berygl o farwolaeth yn y crud. Mae plentyn gyda mam sydd wedi smygu yn 25% mwy tebygol o farw yn y crud wedi gymharu â un sydd heb.
Nag yw fy straen o roi’r gorau iddi yn waeth na smygu i’r babi?
Na. Mae smygu yn llawer fwy niweidiol na straen. Gall blysiau rhwng sigarets achosi straen, ond tynnu’n ôl yw hyn. Byddai’r blysiau yma yn parhau am tua 3 munud. Curo’r blysiau yma trwy wneud bach o siopa am y babi neu sgwennu rhestr o enwau am y babi. Byddwch chi’n teimlo hynod o well ar ôl rhoi’r gorau iddi. Fel rhywun sydd ddim yn smygu mae eich lefelau straen yn îs, perffaith am pan ddaw’r babi!
Beth am dorri i lawr?
Mae torri i lawr yn dechreuad da, ond nid yw’n cael gwared o’r holl niwed i’ch babi. Mae smygu hyd yn oed cwpl o sigarets y diwrnod yn gallu achosi pwysau geni isel a phroblemau iechyd arall. Trwy rhoi’r gorau iddi yn gyfan gwbl mor gynt ac y gallwch chi rydych chi’n sicrhau canlyniadau iechyd well ar gyfer y ddau ohonoch.
Mae fy mhartner yn smygu a ddyllwn nhw rhoi’r gorau iddi?
Yn sicr. Mwg ail-law yn gallu achosi niwed i chi a’ch babi, yn cynddu’r risg o gamesgoriad, genedigaeth gynamserol, pwysau geni isel, namau geni, marwolaeth yn y crud a phroblemau gall effeithio eich plentyn am fywyd fel fogfa ac alergeddau. Os yw’r ddau ohonych chi’n smygu, rhoi’r gorau iddi gyda’ch gilydd, byddwch chi’n cryfach fel tîm!
Stori Samantha
“Roeddwn i’n smygu rhwng 10 ac 20 sigarét y dydd ac roeddwn i’n gwybod bod rhaid i fi roi’r gorau iddi ond doeddwn i ddim yn gallu ei gwneud ar fy mhen fy hun. Roedd yr help ges i gan fy mydwraig Julie yn wych. Daeth hi i’r tŷ a helpodd fi drwyddi. Dywedodd wrthyf i y bydden ni’n pennu dyddiad i roi’r gorau iddi a helpodd fi i baratoi drwy’r wythnos am y diwrnod hwnnw. Ces i anadlydd a phatsis ac o fewn dau ddiwrnod roeddwn i wedi rhoi’r gorau iddi a dwi ddim wedi smygu ers hynny ond mae hi’n dal i ffonio i ofyn sut mae pethau’n mynd gyda fi.
Roedd y darlleniadau ar y monitor carbon deuocsid yn codi ofn arnaf i oherwydd yr hyn oedd yn mynd drwodd i’r babi – 18 oedd y darlleniad cynt ond nawr mae i lawr i 2. Allaf i ddim hyd yn oed goddef aroglau mwg erbyn hyn! “Dwi’n pwyso ar fenywod beichiog eraill i roi cynnig arni, ond maen nhw angen cymorth a rhywun i’w helpu drwyddi.”
Eich Bydwraig, Ymwelydd Iechyd, Meddyg Teulu neu Fferyllfa Leol
Y lle gorau i ddechrau. Byddwn nhw’n cael yr holl atebion, cynnig cymorth bendigedig a rhoi’r cyngor cywir ar Therapïau Amnewid Nicotin (TAN)
Ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol sy’n chwilio am adnoddau ychwanegol?
Mae ein pecyn gwybodaeth yn llawn atebion i amrywiaeth o gwestiynau a allai gael eu gofyn, a hefyd cyfeirio a chamau nesaf.
Mae gennym ni hefyd amrywiaeth o ddeunyddiau y gellir eu defnyddio mewn ystafelloedd aros, yn ystod ymgynghoriadau ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Taflen wybodaeth smygu yn ystod beichiogrwydd
Graffigwaith ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
Neu os hoffech inni anfon y deunyddiau hyn atoch chi trwy’r post, mae croeso ichi gysylltu â kimberley@ashwales.org.uk