Mae ymchwil wedi dangos bod unigolion sydd â salwch meddwl oddeutu dwywaith mor debygol o smygu ag unigolion eraill nad ydynt yn dioddef o broblemau iechyd meddwl 3. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu, ynghyd â chyfradd smygu uwch ymysg pobl sydd â salwch meddwl, fod unigolion o’r fath hefyd yn smygu nifer fwy o sigaréts 4.
Mae’n anodd iawn cadarnhau perthynas achosol rhwng smygu ac iechyd meddwl oherwydd mae llawer o bobl yn dechrau smygu cyn iddynt gael diagnosis o salwch meddwl. Hyd yma ni fu modd canfod a yw smygu’n cynyddu risg datblygu anhwylder meddwl neu a yw bod ag anhwylder meddwl yn cynyddu risg smygu. Mae’n bosibl bod pobl sydd ag anhwylderau iechyd meddwl yn gweld smygu fel ffordd o ymdopi â rhai o sgil-effeithiau eu salwch meddwl.
Yn y gorffennol nid oedd gweithwyr iechyd meddwl yn ystyried bod hybu rhoi’r gorau i smygu yn flaenoriaeth, er gwaethaf y canlyniadau y gall smygu eu cael i iechyd corfforol claf. Felly datblygodd ‘diwylliant o smygu’ o gwmpas llawer o leoliadau iechyd meddwl, ac ni chafodd smygu ei herio gan y staff am amrywiaeth fawr o resymau. Serch hynny, gwyddom fod smygwyr sydd ag anhwylderau meddwl yr un mor debygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi ag yw pobl sydd hebddynt.