Gwelir cyfraddau smygu sylweddol uwch ymysg pobl ag anhwylder iechyd meddwl o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae ymchwil wedi dangos bod unigolion sydd â salwch meddwl oddeutu dwywaith mor debygol o smygu ag unigolion eraill3. Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2015, lle mae ymatebwyr â salwch meddwl yn cael eu diffinio fel pobl sy’n dweud eu bod yn cael eu trin ar hyn o bryd am iselder, gorbryder neu ‘salwch meddwl arall’, 33% yw’r cyfradd smygu ymysg oedolion â salwch meddwl. Mae hyn yn cymharu â chyfradd smygu o 19% a gofnodwyd ymysg yr holl boblogaeth oedolion yng Nghymru. Yn gyson â’r patrwm a welir yn y boblogaeth gyffredinol, mae gan wrywod sydd â salwch meddwl gyfradd smygu uwch nag sydd gan fenywod (36% yn erbyn 31%), ond mae’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau’n amlycach ymysg y rheiny sydd â salwch meddwl.
Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu, ynghyd â chyfradd smygu uwch ymysg pobl sydd â salwch meddwl, fod unigolion o’r fath hefyd yn smygu nifer fwy o sigaréts4.
Mae’n anodd iawn cadarnhau perthynas achosol rhwng smygu ac iechyd meddwl oherwydd mae llawer o bobl yn dechrau smygu cyn iddynt gael diagnosis o salwch meddwl. Hyd yma ni fu modd canfod a yw smygu’n cynyddu risg datblygu anhwylder meddwl neu a yw bod ag anhwylder meddwl yn cynyddu risg smygu. Mae’n bosibl bod pobl sydd ag anhwylderau meddwl yn gweld smygu fel ffordd o ymdopi â rhai o sgil-effeithiau eu salwch meddwl.