SMYGU A BEICHIOGRWYDD

Mae smygu yn ystod beichiogrwydd yn creu risg niwed sylweddol i iechyd y fam a’r baban.

Datganiad Safbwynt

Mae angen inni sicrhau bod menywod beichiog sy’n smygu yn cael rhaglenni penodol rhoi’r gorau iddi ac atal sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion, yn cael ymyriadau atgyfeirio priodol, bydwragedd sydd wedi’u hyfforddi mewn rhoi’r gorau i dybaco, a mynediad i wasanaethau a chynhyrchion rhoi’r gorau iddi sy’n effeithiol ac yn deg, i’w cynorthwyo i roi’r gorau iddi er budd eu hiechyd ac iechyd eu plentyn.

Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn treialu nifer o fentrau i ymgysylltu’n fwy effeithiol gyda smygwyr beichiog, mae’n dal i fod yn wir bod diffyg darpariaeth gwasanaethau systematig ledled Cymru ar hyn o bryd i gynorthwyo smygwyr beichiog i roi’r gorau iddi.

Mae 11,864 o fabanod heb eu geni yng Nghymru yn agored i niwed gan dybaco pob blwyddyn

Mae carbon monocsid (CO) yn lleihau maint yr ocsigen i’r brych ac yn achosi niwed i’r baban

Bydd 16% o smygwyr beichiog yng Nghymru yn parhau i smygu drwy gydol eu beichiogrwydd

Mae smygu’n achosi problemau tymor byr a thymor hir

Ar dudalen ein hymgyrch Babi a Fi Di-fwg mae llawer o gymorth a gwybodaeth i fenywod beichiog

Ymchwil

Bob tro mae mam yn smygu sigarét, mae’n anadlu i mewn carbon monocsid (CO) sy’n lleihau maint yr ocsigen i’r brych ac yn achosi niwed i’r baban1.

Mae smygu’n achosi problemau tymor byr a thymor hir, o enedigaeth cyn pryd i risg uwch camesgoriad, genedigaeth farw neu farwolaeth sydyn babanod2.

ckf23wdweae82id
PROBLEMAU TYMOR BYR PROBLEMAU TYMOR HIR
Genedigaeth cyn pryd Anawsterau dysgu e.e. Awtistiaeth
Torri’r bilen cyn pryd Gorfywiogrwydd
Brych blaen Problemau â’r clustiau, y trwyn a’r gwddf
Tor-frych Gordewdra
Bach am oed y ffetws Diabetes
Genedigaeth farw Beichiogrwydd ectopig
Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod

Menywod sy’n smygu adeg yr asesiad beichiogrwydd cychwynnol (10 wythnos), fesul Bwrdd Iechyd

Yn 2017 creodd Llywodraeth Cymru set ddata newydd, Ystadegau Mamolaeth Cymru,  sy’n cyflwyno data ar ganran y menywod oedd yn smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol (10 wythnos).

Mae’r ystadegau isod ar gyfer 2015 i 2016 a 18.4% yw cyfartaledd Cymru gyfan.

BWRDD IECHYD %  SY’N SMYGU YN YSTOD BEICHIOGRWYDD
Abertawe Bro-Morganwg 17.5%
Aneurin Bevan 20%
Betsi Cadwaladr 18.6%
Caerdydd a’r Fro 14.6%
Cwm Taf 24%
Hywel Dda 16.1%
Powys  18%
img_2373lq

Er bod menywod yn fwy tebygol o geisio rhoi’r gorau i smygu pan maen nhw’n feichiog3, mae ymchwil yn dangos bod 16% o fenywod Cymru sy’n smygu yn dal i wneud hynny drwy gydol eu beichiogrwydd.4

Roedd yr ymchwil – o 2010 ac ar hyn o bryd yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael ar smygu drwy gydol beichiogrwydd – hefyd yn dangos bod 11,864 o fabanod heb eu geni yng Nghymru yn agored i niwed gan dybaco pob blwyddyn.

Ymchwil ehangach

% o famau, fesul gwlad, oedd yn smygu yn ystod beichiogrwydd

2005

Y Deyrnas Unedig 17%
Lloegr 17%
Yr Alban 20%
Gogledd Iwerddon 18%
Cymru 22%

2010

Y Deyrnas Unedig 12%
Lloegr 12%
Yr Alban 13%
Gogledd Iwerddon 15%
Cymru 16%

% were smokers but gave up during pregnancy

2005

Y Deyrnas Unedig 48%
Lloegr 49%
Yr Alban 44%
Gogledd Iwerddon 43%
Cymru 41%

2010

Y Deyrnas Unedig 54%
Lloegr 55%
Yr Alban 52%
Gogledd Iwerddon 47%
Cymru 50%

Cysylltiad â mwg ail-law: cyn ac ar ôl genedigaeth

Gall rhai menywod ddod i gysylltiad â mwg ail-law trwy ffrind neu aelod o’r teulu. Gall hyn achosi risgiau sylweddol i iechyd ar ôl i blentyn gael ei eni gan gynnwys problemau resbiradol fel asthma, namau geni fel gwefus hollt a phroblemau clyw fel clust ludiog.

Mae mwg ail-law mewn man caeedig fel y cartref neu gar yn arbennig o niweidiol i blant iau sy’n methu dianc o’r amgylchedd myglyd.

Nod prosiect Models of Access to Maternal Smoking Cessation Support (MAMSS), a gynhaliwyd yng Nghymru, oedd gwerthuso pa mor dda roedd rhaglenni rhoi’r gorau i smygu’n cael eu cyflenwi i fenywod beichiog. Nod y cynllun oedd codi cyfran y menywod beichiog sy’n manteisio ar wasanaethau rhoi’r gorau i smygu5.