Ni yw’r prif sefydliad sy’n gweithio dros

Gymru ddi-fwg.

Smygu yw achos ataliadwy mwyaf afiechyd a marwolaethau yng Nghymru o hyd.

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yw sicrhau Cymru ddi-fwg – a ddiffinnir fel dim ond 5% yn dal i smygu – trwy ymdrechu i gael polisi cadarn ar reoli tybaco ac ymgyrchoedd beiddgar ar draws Cymru.

Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o effeithiau smygu ar iechyd a’i effeithiau cymdeithasol ac economaidd trwy weithio gyda chymunedau, pobl ifanc a phartneriaid ledled Cymru.

Rydym yn gweithio ar brosiectau, ymgyrchoedd a pholisïau er mwyn sicrhau bod y problemau iechyd sy’n gysylltiedig â smygu a defnyddio tybaco yn cael eu lleihau a’u dileu yn y pen draw.

Rydym yn brofiadol ac yn wybodus am faterion yn ymwneud â rheoli tybaco a smygu ac rydyn ni’n hapus i rannu ein profiad gydag eraill – cysylltwch â ni i ddysgu mwy!

Beth rydym yn ei wneud

Cyfathrebu

Rydym yn cyfleu’r materion sy’n ymwneud â smygu a defnyddio tybaco yng Nghymru

Rhwydwaith

Rydym yn meithrin rhwydweithiau effeithiol o bartïon â buddiant sy’n gweithio ym maes rheoli tybaco yng Nghymru

Ymgyrchoedd

Rydyn ni’n creu ac yn cefnogi ymgyrchoedd dros fesurau iechyd cyhoeddus a fydd yn amddiffyn ein gwahanol gymunedau rhag y niwed mae smygu’n ei achosi

Cefnogaeth

Rydyn ni’n rhoi cefnogaeth gynhwysfawr i sefydliadau sy’n rhedeg prosiectau ac ymgyrchoedd cysylltiedig â smygu, fel gatiau ysgol a thraethau di-fwg

Eiriolaeth

Rydym yn darparu cymorth ac eiriolaeth i unigolion a phrosiectau ym maes rheoli tybaco, ac i’r rheiny nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ym mholisïau neu arferion iechyd cyhoeddus

Ymchwil

Rydyn ni’n datblygu ymchwil ac yn llunio polisïau, prosiectau ac ymgyrchoedd i hyrwyddo Cymru fel cenedl ddi-fwg

Darganfyddwch fwy

Adroddiadau blynyddol