SMYGU AC ANGHYDRADDOLDEBAU
Mae defnyddio tybaco yn un o’r prif ffactorau sy’n ysgogi a chyfrannu at anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru ac o ganlyniad mae’n un o’r prif resymau pam y mae Cymru’n cael trafferth i sicrhau poblogaeth iach.
Mae cyfraddau smygu ymysg gwrywod mewn rhai lleiafrifoedd ethnig, gwrywod yn fwy cyffredinol, ac unigolion sy’n ddifreintiedig yn economaidd gymdeithasol, yn sylweddol uwch o gymharu â chyfartaledd y boblogaeth. Mae’r cyfraddau smygu uwch hyn yn un o’r prif ffactorau y tu ôl i ganlyniadau iechyd gwaeth i’r rhan fwyaf o’r is-grwpiau hyn. Mae rhai o’r anghydraddoldebau hyn yn barhaus, er enghraifft, nid yw’r bwlch rhwng y gyfradd smygu ymysg y mwyaf difreintiedig o gymharu â’r lleiaf difreintiedig wedi gostwng islaw 18% yn y deng mlynedd diwethaf, er bod anghydraddoldeb o ran cyfraddau smygu rhwng y rhywiau wedi bod yn gostwng yn y blynyddoedd diwethaf.
Rhywedd
Mae data a gasglwyd ym Mhrydain ers 1974 wedi dangos bod cyfradd y gwrywod sy’n smygu yn uwch yn gyson na’r gyfradd ymysg benywod. Fodd bynnag, ers 1990 mae’r bwlch rhwng y rhywiau wedi lleihau’n sylweddol, wrth i’r gyfradd smygu gyffredinol ar draws y rhywiau ostwng. Yn 1974, roedd 51% o ddynion a 41% o fenywod yn smygu ym Mhrydain, o gymharu ag 20% o ddynion a 17% o fenywod oedd yn smygu ym Mhrydain yn 2014. Ar hyn o bryd mae 20% o ddynion a 17% o fenywod yn smygu yng Nghymru (ffigurau 2016/2017)2.
D.S. Ers 2000 mae’r data wedi cael eu pwysoli. Ers 2012 daw’r ffigurau o’r Opinions & Lifestyle Survey 3; deuai’r data blaenorol o’r General Household Survey / General Lifestyle Survey4.
% | Dynion | Menywod | Pawb |
---|---|---|---|
1974 | 51 | 41 | 45 |
1978 | 45 | 37 | 40 |
1982 | 38 | 33 | 35 |
1986 | 35 | 31 | 33 |
1990 | 31 | 29 | 30 |
1994 | 28 | 26 | 27 |
1998 | 28 | 26 | 27 |
2002 | 27 | 25 | 26 |
2006 | 23 | 21 | 22 |
2010 | 21 | 20 | 22 |
2013 | 22 | 17 | 19 |
2014 | 20 | 17 | 19 |
Anghydraddoldebau iechyd yn ôl statws economaidd gymdeithasol
Mae cyfraddau smygu ymysg y boblogaeth lai cefnog yn sylweddol uwch na’r rhai ymysg y boblogaeth fwy cefnog. Mae llawer o dystiolaeth o’r cysylltiad rhwng statws economaidd gymdeithasol a chyfraddau smygu. Yng Nghymru yn 2016/2017 cofnodwyd mai 9% oedd canran yr oedolion o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru oedd yn smygwyr, o gymharu â 28% ymysg yr oedolion mwyaf difreintiedig ym mhoblogaeth Cymru. 18% oedd y gwahaniaeth rhwng cyfraddau smygu yn y ddegradd fwyaf difreintiedig a’r ddegradd leiaf difreintiedig yn 2005/06, sef yr un peth â’r ffigur ar gyfer 2015/16[1], gan olygu bod anghydraddoldeb mewn cyfraddau smygu yn ôl lefel amddifadedd wedi aros yn ddigyfnewid dros y deng mlynedd diwethaf.
Nid yw cymhariaeth uniongyrchol rhwng y data ar gyfer 2015/16 a chyn hynny a’r ffigur ar gyfer 2016/17 a’r blynyddoedd dilynol yn bosibl, o gofio y bu newid yn yr arolwg a ddefnyddiwyd i greu’r ffigurau hyn, o Arolwg Iechyd Cymru i Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Gellir gweld y cysylltiad rhwng tlodi a defnyddio a phrynu tybaco o’r ffaith bod canran uwch o incwm smygwr tlawd yn cael ei gwario ar dybaco. Gall teulu ifanc neu riant sengl gael enillion ariannol sylweddol trwy roi’r gorau i smygu.
Mae ymchwil ASH yn dangos bod 1.7 miliwn o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig sydd â smygwr arno mewn tlodi ar hyn o bryd, ond gallai rhyw 28% (dros hanner miliwn) gael eu codi o dlodi pe baen nhw’n rhoi’r gorau i smygu. Mae hyn yn golygu y gallai 365,000 yn llai o blant fod yn byw islaw’r ffin tlodi.
Mae’n bwysig nodi’r problemau mae smygwyr mewn poblogaethau llai cyfoethog yn eu hwynebu, fel:
Y gred bod smygu’n fwy cyffredin ymysg y boblogaeth gyffredinol nag y mae mewn gwirionedd, gan ei gwneud yn fwy derbyniol yn gymdeithasol i smygwyr llai cyfoethog barhau i smygu a chan roi llai o anogaeth iddyn nhw roi’r gorau iddi. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o ymddieithrio o raglenni rhoi’r gorau i smygu 7
Mae’r oedran mae rhywun yn dechrau smygu yn y boblogaeth dlotach yn llawer is na’r rheiny sy’n fwy cefnog. Po hiraf mae rhywun wedi bod yn gaeth i nicotin, anoddaf yw hi iddo roi’r gorau iddi
Mae’n fwy tebygol o ddefnyddio smygu fel ffordd o ymdopi ag amgylchiadau anodd mewn bywyd, er enghraifft straen, beichiogrwydd, diweithdra, colli swydd a phroblemau iechyd meddwl.
1 ASH (2011). Tobacco and ethnic minorities
2 Welsh Government (2017). National Survey for Wales 2016/17
3 2014 Opinions and Lifestyle Survey. Office for National Statistics, Feb 2016
4 2011 General Lifestyle Survey. Office for National Statistics, March 2013. PSA Delivery Agreement 18: Promote better health and well-being for all. The Treasury, Oct 2007 (pdf)
5 Assuming a price per pack of 20 of £6.70 (the cost of 20 Sterling cigarettes, the most popular UK brand, in a supermarket). In practice, many smokers will be spending more, for example the price of 20 Marlboro in a supermarket is currently around £9.60. Average daily consumption of cigarettes in England is now about 11 a day. Statistics on smoking: England, 2016. The Health and Social Care Information Centre, May 2016
6 Average weekly earnings Office for National Statistics. Release date 15 February 2017
7 NCSCT (2013). Stop Smoking Services and Health Inequalities. Briefing: 10
8 Partnership Action on Tobacco and Health (PATH) (2010). Stop-smoking service provision for Lesbian, Gay, Bisexual and Transgender (LGBT) communities in Scotland