Cynllun ‘CO’ Feddygon Teulu Abertawe

Mae meddygon teulu a staff practisau ar draws Iechyd y Ddinas a’r Bae yn Abertawe yn cymryd rhan mewn prosiect peilot newydd sy’n cynnig profion anadl am ddim a chymorth i smygwyr i’w helpu i roi’r gorau iddi.

Am y cynllun

Smygu yw achos ataliadwy mwyaf salwch a marwolaethau o hyd. Mae’n achosi mwy na 5,000 o farwolaethau yng Nghymru pob blwyddyn.

Mae smygwyr sy’n cael cymorth gan wasanaethau arbenigol, er enghraifft trwy eu meddyg teulu neu fferyllfa leol, bedair gwaith yn fwy tebygol i roi’r gorau i smygu am byth na rhai sy’n ceisio gwneud hynny ar eu pen eu hunain.

At hynny, o ddefnyddio cymhorthion ffarmacolegol bydd rhywun sy’n smygu hyd at 50% yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi. Ar hyn o bryd dim ond 2.6% o holl smygwyr Cymru sy’n manteisio ar wasanaeth di-dâl y GIG, Helpa Fi i Stopio, sydd islaw targed blynyddol Llywodraeth Cymru, sef 5%.

Sut mae’n gweithio

Mae ASH Cymru wedi creu’r prosiect newydd i helpu meddygon teulu a staff practisau i gynyddu nifer y bobl a hoffai roi’r gorau iddi sy’n cael y cymorth a therapi amnewid nicotin sy’n iawn iddynt. Mae smygwyr sy’n cael eu cynorthwyo gan wasanaethau arbenigol, megis eu meddyg teulu neu fferyllfa leol, pedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi’n barhaol na phobl sy’n ceisio gwneud ar eu pen eu hunain.

Mewn partneriaeth â’r cwmni fferyllol Pfizer, mae ASH Cymru wedi darparu i 27 o feddygfeydd fonitorau anadl ‘mwg’: dyfeisiau llaw sy’n cymryd cwta eiliadau i ddangos i glaf lefel bresennol y carbon monocsid – mwg gwenwynig – yn ei gorff.

Gan ddefnyddio system goleuadau traffig, gall cleifion weld faint o niwed maen nhw’n ei wneud i’w cyrff, gan weithredu fel ysgogydd nerthol i’w hannog i ystyried camau i roi’r gorau i’r arfer.

Ydych chi’n ysmygu yn ardaloedd Dinas neu Bae Abertawe?

Gallech gael prawf monitor CO am ddim trwy fynd at eich meddyg teulu neu fferyllfa leol.

Ydych chi eisiau help i roi’r gorau i ysmygu?

Diben y cynllun yw codi ymwybyddiaeth a chynyddu nifer yr atgyfeiriadau at wasanaeth di-dâl y GIG, Helpa Fi i Stopio. Mae gwasanaeth a gwefan Helpa Fi i Stopio yn cynnig cyngor wedi’i deilwra’n benodol i anghenion pobl a hoffai roi’r gorau iddi. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i helpmequit.wales

Meddygfeydd sy’n darparu’r cynllun

  • Kingsway Surgery
  • Greenhill Medical
  • Mayhill Surgery
  • Brunswick Surgery
  • Nicholl Street Surgery
  • St.Helen’s Medical
  • Cockett Surgery
  • St Thomas
  • Clayse Surgery
  • Hafod Surgery

  • Mumbles Medical
  • Uplands Surgery
  • Gower Medical Surgery
  • Sketty Surgery
  • Westcross Sugery
  • Kings Road Surgery
  • University Health Centre
  • Grove Medical Centre
  • Harbourside Surgery
  • St Davids Medical
  • Murton Surgery
  • Mumbles Medical Centre
  • Pennard Sugery
  • Killay Surgery

Lawrlwytho adnoddau