Rydyn ni’n annog prifysgolion ledled Cymru i wneud eu campysau’n ddi-fwg er mwyn gwella iechyd y staff a’r myfyrwyr a lleihau sbwriel sy’n gysylltiedig â smygu.
Gwella iechyd y staff a’r myfyrwyr
Mae campysau prifysgolion ledled y wlad yn ganolfannau i bobl ifanc ddysgu a chymdeithasu ac yn darparu swyddi i filoedd o aelodau o staff. Trwy ein menter prifysgolion di-fwg rydym yn annog prifysgolion ledled Cymru i wneud eu campysau’n ddi-fwg. Bydd hyn yn gwella iechyd y staff a’r myfyrwyr ac yn lleihau sbwriel sy’n gysylltiedig â smygu.
Yn gyffredinol mae cyfraddau smygu’n gostwng yng Nghymru ond mae gwaith i’w wneud o hyd ymysg pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed:
Beth ydyn ni’n galw amdano?
Pam mynd yn ddi-fwg?
Ffyrdd iach o fyw
Bydd eich prifysgol yn bodloni meini prawf fframwaith Prifysgolion Iach (AU/AB) Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau, sydd ar fin ymddangos. Bydd yn iachach i bawb, a chaiff y staff a’r myfyrwyr eu cynorthwyo i fyw mewn ffordd iach.
Ysgogi ymgeisiau i roi’r gorau iddi
Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n smygu ar hyn o bryd yn cael eu hysgogi i roi’r gorau iddi a bydd llawer o rai eraill yn peidio â dechrau smygu o ganlyniad uniongyrchol i’r polisi di-fwg.
Sbwriel sigaréts
Bonion sigaréts yw’r math o sbwriel sy’n cael ei daflu fwyaf yn y byd, ac fe’u ceir ar 86% o strydoedd Cymru. Caiff cost glanhau gwastraff ledled campws y Brifysgol ei lleihau.
Beth am e-sigaréts?
Lle pob sefydliad yw penderfynu a fydd yn gwahardd neu’n caniatáu defnyddio e-sigaréts ar ei safle. Gall y 5 cwestiwn hyn eich helpu i benderfynu a fyddwch yn gwahardd neu’n caniatáu defnyddio e-sigaréts ar eich safle.
Sut i roi campysau di-fwg ar waith
Mae’r canllaw hwn wedi cael ei addasu o ganllaw tebyg gan ASH Australia a ddefnyddiwyd fel model ar gyfer canllawiau Canada a gwledydd eraill.
Mae’n cynnwys:
- Pam y dylem ni wneud campysau’n ddi-dybaco – a sut i’w wneud
- Ffeithiau am dybaco
- Elfennau polisi di-dybaco
- Buddion
- Canllaw cam wrth gam i ddatblygu a gweithredu polisi
- Enghreifftiau o bolisïau effeithiol
- Cwestiynau cyffredin a chwalu mythau
1Robinson S and Bugler C (2010). Smoking and drinking among adults, 2008. General Lifestyle Survey 2008. ONS.
2Office for National Statistics (2013). General Lifestyle Survey Overview: A report on the 2011 General Lifestyle Survey.