BETH AM E-SIGARÉTS?
Y peth pwysicaf i’ch iechyd yw rhoi’r gorau i ddefnyddio tybaco.
Y ffeithiau
Mae e-sigaréts 95% yn llai niweidiol na smygu tybaco. Ond beth mae hynny’n ei olygu? Dywedwch eich bod yn smygu sigarét oedd 100% yn niweidiol. Pe baech chi’n defnyddio e-sigarét yn ei lle, dim ond 5% o’r niwed hwnnw y byddech yn ei gael. Fodd bynnag, mae hyn yn wir dim ond os ydych chi’n rhoi’r gorau i smygu tybaco’n llwyr ac yn peidio â smygu sigaréts yn ogystal ag e-sigaréts.
Beth yw e-sigarét?
Fel arfer dim ond ychydig o gynhwysion sydd yn yr anwedd hwn:
Propylen, glycol a glyserin – a ddefnyddir yn aml fel ychwanegion bwyd
Dŵr
Nicotin – cemegyn caethiwus, fel caffein
Blasau – mae’r rhain yn amrywio yn ôl dewis y defnyddiwr
Mae llawer o fathau gwahanol o e-sigaréts ac e-hylif i ddewis ohonynt ac i ddechrau gall fod yn fater o arbrofi er mwyn dod o hyd i’r un sy’n gweithio orau i chi. Ceir gwahanol gryfderau o e-hylif; er enghraifft, os ydych chi’n smygwr trwm, dylech ddechrau gyda chrynodiad uwch o nicotin er mwyn rheoli’r ysfa. Bydd staff y rhan fwyaf o siopau sy’n gwerthu e-hylif yn hapus i siarad â chi am yr ‘mg’ a’r blas mwyaf addas i chi.
Mae angen i’r e-sigarét ddarparu dos digon mawr o nicotin i’ch helpu i dorri’r arfer.
Poeni am ddefnyddio e-sigarét? Mae’r atebion gennym ni
Mae pryderon wedi cael eu codi am e-sigaréts, yn enwedig defnydd hirdymor ohonynt a niwed i eraill sy’n anadlu’r anwedd i mewn. Mae’r ymchwil fwyaf diweddar yn dangos mai ychydig iawn o risg sydd o anwedd ail-law a bod fepio, yn y tymor hir, yn llawer gwell na pharhau i smygu.
Mae ychydig o fwganod wedi cael eu codi yn y newyddion am ‘ysgyfaint popcorn’. Dywedodd Cancer Research UK, sydd wedi gwneud llawer o waith wrth ymchwilio i e-sigaréts: “Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi dangos bod e-sigaréts yn achosi’r clefyd a elwir ysgyfaint popcorn. Mae’r cemegyn y credir ei fod yn gyfrifol am y clefyd hwn wedi cael ei wahardd rhag ei ddefnyddio mewn e-hylifau yn Ewrop.”
Siarad â ni!
Oes gennych chi gwestiwn am e-sigaréts, neu unrhyw beth arall sy’n ymwneud â rhoi’r gorau i smygu?
Ymunwch â ni ar Facebook a chewch siarad â’n tîm trwy negeseuon uniongyrchol facebook.com/smokefreewales