Mae’r ymgyrch hon yn rhan o’n menter ehangach o’r enw ‘Mannau Di-fwg’, sydd hefyd yn cynnwys ymgyrchu i gael traethau di-fwg ac i gael mannau eraill, lle mae pobl ifanc yn chwarae ac yn cael ymarfer corff, yn ddi-fwg
Pam meysydd chwarae?
Y stori hyd yma
Ers 2012, rydyn ni wedi ymgyrchu i gael yr awdurdodau lleol i gyd yng Nghymru i gyflwyno polisiau di-fwg yn meysydd chwarae eu blant i sicrhau yr ydyn nhw’n cael eu amddiffyn o’r niwed o fwg ail-law.
Ers mis Mawrth 2016, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi rhoi ar waith gwaharddiadau gwirfoddol yn eu meysydd chwarae lleol. Erbyn hyn mae meysydd chwarae di-fwg gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Ers hynny mae’r ymgyrch wedi grymuso plant ledled Cymru, o gynghorau ieuenctid i ysgolion, i hawlio eu mannau nhw yn ôl. Mae pobl ifanc wedi datblygu eu hymgyrchoedd eu hunain ac wedi lledaenu’r neges yn eu cymunedau lleol.
Y Dyfodol
Ym mis Gorffennaf 2017, pasiwyd Deddf Iechyd y Cyhoedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y Ddeddf mae mesur i wahardd smygu ar feysydd chwarae cyhoeddus yng Nghymru, gan ei gwneud yn anghyfreithlon smygu mewn man sydd wedi ei dylunio neu ei haddasu ar gyfer defnyddio un neu ragor o eitemau o gyfarpar maes chwarae gan blant. Ar gyfer meysydd chwarae â ffiniau sydd wedi eu marcio’n glir, mae smygu wedi’i wahardd yn yr ardal gyfan o fewn y ffiniau hynny. Ar gyfer meysydd chwarae nad oes ganddynt ffiniau ffisegol, ni chaniateir smygu o fewn 5 metr i unrhyw eitem o gyfarpar maes chwarae. Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch gweithredu’r mesurau a geir yn y Ddeddf, felly mae’n debyg mai yn 2019 neu 2020 y bydd y mesurau hyn yn cael eu gweithredu’n llawn.
Case Studies
Ynys Môn
Lansiodd Cyngor Ynys Môn fenter ddi-fwg weledigaethol yn 2013 trwy wahardd smygu ar feysydd chwarae, yn ogystal ag ar diroedd canolfannau hamdden a’r tu allan i ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi mynd ymhellach na chynghorau eraill yng Nghymru trwy ymgorffori polisi di-fwg nid yn unig ar feysydd chwarae ond mewn canolfannau hamdden yn ogystal ag ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd y mannau hyn lle mae pobl ifanc yn ymgynnull bellach yn llefydd mwy diogel o ganlyniad i’r penderfyniad hwn, heb fwg ail-law a sbwriel sigaréts. Mae’r cyhoedd wedi helpu i orfodi’r gwaharddiad, a’r gobaith yw y bydd yn meithrin newid i agweddau tuag at smygu o gwmpas pobl ifanc.
Caerffili
Mae’r fforwm ieuenctid Caerffili, sy’n cynnwys 16 o bobl ifanc o bob rhan o’r fwrdeistref, wedi cynllunio, rheoli a chyflawni ymgyrchoedd i warchod ei barciau trwy brwdfrydedd a’r penderfyniad i wneud gwahaniaeth i’w hardal.
Dechreua hanes y mudiad yng nghynhadledd flynyddol y fforwm ieuenctid ym mis Hydref 2011, lle cododd y bobl ifanc faterion y teimlent eu bod yn bwysig yng Nghaerffili. Yna pleidleisiodd pobl ifanc o bob rhan o’r fwrdeistref ar y materion pwysicaf o’r gynhadledd hon. Ar ôl hyn, cynhaliodd fforwm ieuenctid Caerffili brosiect blwyddyn i fynd i’r afael â fandaliaeth mewn parciau. Nod prosiect Gwarchod Ein Parciau oedd codi ymwybyddiaeth am broblemau sy’n effeithio ar barciau Caerffili gan gynnwys smygu a sbwriel, yn ogystal â chynllun i wneud pob maes chwarae ym Mwrdeistref Sirol Caerffili’n ddi-fwg.
Sir Ddinbych
Maes chwarae Cae Ddol yn Rhuthun fydd y maes chwarae di-fwg swyddogol cyntaf yn y sir. Mae’r fenter, a lansiwyd ar Ddiwrnod Dim Smygu (Mawrth 13eg 2013), wedi cael ei datblygu gan Gyngor Sir Ddinbych a phartneriaid sy’n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.
Yn ystod y broses, a gymerodd chwe mis, gwahoddwyd ysgolion cynradd ac uwchradd a chlybiau ieuenctid lleol i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio arwydd di-fwg newydd. Cafwyd mwy na 340 o gynigion yn y gystadleuaeth. Yr enillydd oedd Ceri o Ysgol Pen Barras a bydd ei dyluniad yn cael ei arddangos ym mhob un o’r 85 o feysydd chwarae sydd dan ofal yr awdurdod lleol.