Pecynnau plaen / safonedig
Erbyn hyn mae’n angenrheidiol i’r holl gynhyrchion tybaco sy’n cael eu cynhyrchu a’u gwerthu yn y Deyrnas Unedig fod yn ‘blaen’.
Pam pecynnau safonedig?
Bydd tybaco’n lladd 1 ym mhob 2 o’i ddefnyddwyr hirdymor a bydd y rhan fwyaf o’r rhain wedi dechrau eu caethiwed pan oeddent yn blant. Yn aml mae pobl ifanc yn teimlo cysylltiad cryf â brandiau ac maent yn ymwybodol iawn o frandiau. Felly wrth fynd â brandio i ffwrdd o sigaréts, mae’r diwydiant tybaco’n colli’r ffordd honno o dargedu darpar smygwyr.
Mae buddion eraill pecynnau plaen yn cynnwys:
- Lleihau apêl smygu i bobl ifanc
- Lleihau’r twyll ynghylch pa mor niweidiol yw sigaréts
- Cryfhau effaith rhybuddion iechyd cignoeth
Y Stori
O’r 20fed o Mai 2016 roedd y gyfreithiau ynglyn â phecynnau tybaco yn newid. O’r dyddiad yna roedd rhaid i’r holl cynnyrch tybaco a weithgynhyrchir i werthu yn y DU cydymffurfio efo’r cyfreithiau newydd. Mae yna cyfnod trosiannol o un flwyddyn ar gyfer y gwerthu trwyddo o hen stoc ac o fis Mai 2017 bydd rhaid i’r holl cynnyrch tybaco sydd ar werth yn y DU cydymffurfio efo’r rheoliadau.
O dan y rheoliadau pecynnu a labelu newydd nid yw sigarets a thybaco yn gallu cael eu gwerthu yn pecynnau llachar i apelio, ond yn pecynnau gwyrdd salw. Ar wyneb a chefn y pecynnau mae na lluniau graffeg mawr i uwcholeuo’r effeithiau iechyd o ysmygu a mae rhaid i rybuddion iechyd ymddangos ar dop o bob pecyn.
Mae’r rheolau newydd ynglyn â phecynnau wedi eu cynnwys yn dau set o reoliadau:
Pecynnau “Plaen” Safonedig
Pecynnau safonedig neu “plaen” yw pecynnau tybaco efo’r nodweddion deniadol wedi tynnu i ffwrdd. Ym mis Mawrth 2015 wnaeth aelodau seneddol pleidleisio yn fwyafrif llethol o blaid cyflwyno rheoliadau i safoni’r ymddangosiad o’r holl pecynnau tybaco yn y DU. Gan gynnwys:
Cyfarwyddeb Cynnyrch Tybaco
Mae’r Cyfarwyddeb Cynnyrch Tybaco yn berthnasol i’r holl cynnyrch tybaco sy’n cael ei weithgynhyrchi a gwerthu o fewn wladwriaethau aelodau’r UE. O ran pecynnau tybaco mae’r CCT sydd wedi ei addasu yn:
Barn y cyhoedd
Mae cefnogaeth helaeth ymysg y cyhoedd i dybaco gael ei werthu mewn pecynnau safonol plaen. Dangosodd arolwg gan YouGov a gynhaliwyd ym mis Chwefror / mis Mawrth 2017 fod 65% o oedolion yng Nghymru’n cefnogi ei gwneud yn ofynnol i dybaco gael ei werthu mewn pecynnau safonol plaen gydag enw’r cynnyrch mewn llythrennau safonol.
Gwrthwynebiad i becynnau safonol
Mae’r diwydiant tybaco wedi ymgyrchu’n helaeth ond aflwyddiannus yn erbyn y cyflwyniad o becynnau safonol. Mae cynrychiolwyr y diwydiant wedi gwneud amryw o honiadau, gan gynnwys dyfynnu tystiolaeth ffug neu amheus i Aelodau Seneddol a’r cyhoedd. Mae rhai o honiadau’r diwydiant, a’r ffeithiau, a ddefnyddiodd yn yr ymgyrch yn cynnwys:
Awgrym gan y diwydiant yw hwn y byddai iawndal yn daladwy i gwmnïau tybaco mewn perthynas â cholli gwerthiant. Pe bai’r Llywodraeth wedi cael cyngor cyfreithiol y byddai llawer iawn o iawndal yn daladwy, buasai’n rhaid ei gynnwys yn yr Asesiad o Effaith y bil, ond nid felly y bu. Beth bynnag, mae buddion cyffredinol pecynnau safonol oddeutu £30 biliwn, sydd felly’n fwy nag unrhyw iawndal.
Er y ceir tystiolaeth yn Asesiad Effaith y Llywodraeth sy’n dangos bod siopau papurau’n debygol o gael llai o elw o dybaco, mae’r Asesiad hefyd yn ei gwneud yn glir y bydd yr arian na chaiff ei wario ar dybaco’n cael ei ailddosbarthu i rannau eraill o’r economi. Bydd busnesau bach fel siopau papurau’n cael rhywfaint o’r budd hwn, a fydd yn fwy na’r elw o dybaco a gollir.
Standardised “Plain” Packaging
Mae CThEM wedi dod i’r casgliad na welwyd unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu y bydd pecynnau safonol yn cael effaith ar faint cyffredinol y farchnad tybaco anghyfreithlon. Nid yw honiadau bod y fasnach tybaco anghyfreithlon wedi cynyddu yn Awstralia yn cael eu cefnogi gan ddata oddi wrth Lywodraeth Awstralia 2. Mae’r unig adroddiadau sy’n dangos cynnydd wedi cael eu hariannu gan y diwydiant tybaco, ac nid ydynt wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid.
Mae data o Awstralia wedi cael eu camddyfynnu gan y diwydiant tybaco mewn ymgais i gefnogi’r honiad hwn. Nid yw’r data a ddefnyddiwyd yn cynnwys digon o bobl o dan 18 oed i’r ffigurau fod yn ddibynadwy.
Nid yw hyn yn wir, a gellir prynu gorchuddion cost effeithiol am gyn lleied â £120.
Astudiaeth achos: Awstralia
Awstralia oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno pecynnau tybaco safonol ym mis Rhagfyr 2012 ac erbyn hyn caiff tybaco ei werthu mewn pecynnau fel yr un ar y dde. Mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y cyfraddau smygu.
- Yr unig frandio yw enw’r cynnyrch mewn ffont a lliw safonol
- Mae’r pecyn a’r cynnwys o siâp, maint a lliw safonol
- Mae’r rhybuddion iechyd ar y blaen a’r cefn yn fwy o faint
- Mae’r marciau diogelwch wedi aros
Canfu adolygiad diweddar gan Grŵp Cochrane1 a edrychodd ar effaith dyluniad pecynnau tybaco ar y defnydd o dybaco bod smygu wedi gostwng 0.5% hyd at flwyddyn ar ôl i’r polisi pecynnau safonol gael ei gyflwyno yn Awstralia. Dywed yr awduron y byddai hyn yn golygu 300,000 yn llai o smygwyr yn y Deyrnas Unedig pe bai’r polisi’n cael effaith gyfatebol yma.
Mae gwledydd eraill o gwmpas y byd hefyd wrthi’n cyflwyno pecynnau tybaco safonol. Yn Ffrainc, mae’n ofynnol i’r holl becynnau sydd ar werth fod mewn fformat safonol ers 1 Ionawr 2017. Mae’n rhaid i’r holl gynhyrchion tybaco sy’n cael eu cynhyrchu i’w manwerthu yn Iwerddon fod mewn pecynnau safonol o 30 Medi 2017 ymlaen. Bydd unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu a’u rhoi ar y farchnad cyn y dyddiad hwnnw nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion newydd yn cael aros ar y farchnad tan 30 Medi 2018.
Pwy all fy helpu i roi’r gorau i smygu?
Cymorth wedi’i deilwra
Mae Helpa fi i stopio yn wasanaeth di-dâl newydd gan y GIG yng Nghymru. Bydd yn eich helpu i ddewis y ffordd orau o roi’r gorau iddi, boed cymorth dros y ffôn, cyfarfodydd un i un neu grŵp neu’r fferyllfa leol. Gall hefyd argymell pa bethau amnewid nicotin, fel patsys neu gwm, sydd orau i chi.
Ewch i: http://www.helpmequit.wales/cy/
Ffôn: 0800 085 2219 – Tecstiwch: HMQ i 80818
1 McNeill A, Gravely S, Hitchman SC, Bauld L (2017) Hammond D, Hartmann-Boyce J. Tobacco packaging design for reducing tobacco use. Cochrane Database of Systematic Reviews; Issue 4.
2 Scollo M, Zacher M, Coomber K and Wakefield M (2015) Use of illicit tobacco following introduction of standardised packaging of tobacco products in Australia: results from a national cross-sectional survey. Tobacco Control Journal; 24:ii76-ii81
3 White V, Williams T & Wakefield M. (2015) Has the introduction of plain packaging with larger graphic health warnings changed adolescents’ perceptions of cigarette packs and brands? Tobacco Control Journal; 24:ii42-ii49