PENAWDAU YSTADEGAU CYMRU
Ein nod yw i Gymru fod yn genedl ddi-fwg yn y pen draw, gan gyrraedd cyfradd smygu o 5% neu lai. 19% yw’r gyfradd ar hyn o bryd.
Y sefyllfa yng Nghymru
- Mae 19% o oedolion yng Nghymru’n smygu
- Dynion = 21% a menywod = 17%
- 5,388 o farwolaethau y gellir eu priodoli i smygu a 26,489 o dderbyniadau i ysbytai y gellir eu priodol i smygu bob blwyddyn
- Mae’r ganran smygwyr isaf, sef 13%, yn Sir Fynwy ac yng Nghastell-nedd Port Talbot mae’r ganran uchaf, sef 25%
- Ni fyddwn yn cyrraedd targed Cymru sef 16% o oedolion yn smygu erbyn 2020 os yw’r amcanestyniadau diweddaraf yn gywir. Yn lle hynny rhagwelir y byddwn yn ei gyrraedd yn 2025
Gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu
- O gofio holl wasanaethau rhoi’r gorau i smygu y GIG (gan gynnwys fferyllfeydd ‘Lefel 3’ a gwasanaethau mewnol sydd ar gael trwy ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu) dim ond 3.1% o smygwyr yng Nghymru a ddefnyddiodd wasanaethau’r GIG yn 2017/18. Mae hyn yn is na’r targed o 5% yng Nghynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco.
- Llwyddodd 43% o’r rheiny a gafodd gymorth i roi’r gorau iddi (dilysu ar ôl 4 wythnos)
Pobl Ifanc
- Roedd 40% o oedolion sy’n smygu yn smygu’n rheolaidd cyn eu bod yn 16 oed
- Mae 8%o fechgyn a 9% o ferched (15/16 oed) yn smygu’n rheolaidd
- Mae 30 o bobl ifanc yn dechrau smygu pob dydd yng Nghymru
- Ers y gwaharddiad ar smygu yn 2007, mae 15% yn llai o blant yn byw gyda rhiant sy’n smygu
- Mae plant mwy na 70% yn fwy tebygol o ddechrau smygu os yw un rhiant yn smygu, ac yn fwy na dwywaith mor debygol o ddechrau os mai’r fam yw’r rhiant hwnnw
- Mae mwg ail-law yn cynyddu risg plant bach o gael heintiau fel y ffliw, broncitis a niwmonia oddeutu 50%
Anghydraddoldebau
- 28% yw canran y bobl sy’n smygu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, o gymharu â 13% ymysg yr oedolion lleiaf difreintiedig
- Ers y gwaharddiad ar smygu dan do yn 2007, mae cyfraddau smygu wedi gostwng 5% ymysg y rhan fwyaf o ddosbarthiadau economaidd gymdeithasol. Ymysg y rheiny sy’n ddi-waith mae’r gyfradd wedi cynyddu 2%
- Y grwpiau ethnig sydd â’r cyfraddau smygwyr uchaf yw dynion Affro-Caribïaidd â 37% ac wedyn dynion Bangladeshi â 36%
- Mae cyfraddau smygu ymysg menywod o leiafrifoedd ethnig yn is
Iechyd Meddwl
- 36% yw’r gyfradd smygu ymysg pobl sydd ag afiechyd meddwlo gymharu ag 19% ymysg poblogaeth gyfan Cymru
- Dynion = 41%, menywod = 34%
Beichiogrwydd
- Mae canran y menywod beichiog sy’n smygu ar adeg eu hasesiad cychwynnol yn uwch i fenywod iau. Mae 30% o fenywod 24 oed neu iau yn smygu ar adeg eu hasesiad cychwynnol o gymharu ag 19% o fenywod 25-34 oed ac 16% o fenywod 35 oed a hŷn. (2017-18)
- Menywod iau na 24 oed yw’r ystod oedran sy’n fwyaf tebygol o smygu drwy gydol eu beichiogrwydd
- Bwrdd Iechyd Cwm Taf sydd â’r ganran uchaf o smygwyr beichiog, sef 24%. Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro sydd â’r ganran isaf, sef 14%
Mwg Ail-law
0
o heintiau neu glefydau ymysg plant
0
o ymgynghoriadau â meddygon teulu
0
o dderbyniadau i ysbytai
0
o achosion o syndrom marwolaeth sydyn babanod
- Mae 34% o oedolion nad ydynt yn smygu yn dod i gysylltiad â mwg ail-law yn rheolaidd
- Mae cysylltiad â mwg ail-law yn cynyddu risg canser yr ysgyfaint ymysg pobl nad ydynt yn smygu 20-30% a risg clefyd coronaidd y galon 25-35%
- Yn 2016/17, roedd 44% o bobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn dod i gysylltiad â mwg ail-law dan do ac yn yr awyr agored, o gymharu â 30% o bobl yn y cymunedau lleiaf difreintiedig.
- Mae cyfraddau smygu yn y cartref wedi gostwng o 80% i 46% ac yng nghartrefi pobl eraill o 36% i 20% ers y gwaharddiad ar smygu yn 2007
- Roedd 10% yn llai o dderbyniadau i ysbytai oedd yn gysylltiedig ag asthma ymysg plant dim ond blwyddyn ar ôl i waharddiadau ar smygu gael eu cyflwyno, a chododd y ganran i 17% tair blynedd wedi hynny
Economi
£ 0
miliwn
Cost economaidd smygu ar draws Cymru pob blwyddyn
£ 0
miliwn
Cost smygu i GIG Cymru yn benodol pob blwyddyn
£ 0
miliwn
Cost smygu i fusnesau Cymru yn benodol pob blwyddyn
- 20 y dydd = £56 yr wythnos, £243 y mis, £2920 y flwyddyn
- 10 y dydd = £120 y mis, £1460 y flwyddyn
- Gallai 28% – mwy na 500,000 – gael eu codi o dlodi pe baen nhw’n rhoi’r gorau i smygu
- Mae 7 miliwn o aelwydydd sydd â smygwr arnynt mewn tlodi
- Mae 65% o bobl Cymru, gan gynnwys 24% o smygwyr, yn cefnogi cynyddu trethi ar sigaréts a thybaco
Tybaco Anghyfreithlon
- Mae 45% o smygwyr yng Nghymru wedi cael cynnig prynu tybaco anghyfreithlon
- Digwyddodd 52% o’r pryniannau mewn cyfeiriad preifat
- Mae 59% o’r rheiny sy’n prynu tybaco anghyfreithlon yn ei brynu o leiaf unwaith y mis
- Digwyddodd 45% o’r pryniannau mewn tafarn neu glwb
- £4 yw’r pris cyfartalog a delir am becyn o 20 o sigaréts anghyfreithlon
- Mae 70% o brynwyr yn cytuno’n gryf ei fod yn caniatáu iddyn nhw smygu pan na allan nhw ei fforddio
- Mae 45% yn ei ystyried yn broblem bwysig sy’n effeithio ar y gymuned leol
Mannau Di-fwg
- Mae 71% yn cytuno y dylid gwahardd smygu ar diroedd ysbytai
- Mae 61% yn cytuno â gwahardd smygu mewn mannau hamdden cymunol fel parciau a thraethau
- Mae 83% yn cytuno y dylid gwahardd smygu mewn meysydd chwarae i blant yn yr awyr agored
- Mae rhywun yn marw oherwydd tân a achoswyd gan sigarét pob 3 diwrnod yn y Deyrnas Unedig
- Mae 163 o danau mewn cartrefi yng Nghymru’n cael eu hachosi gan ddeunyddiau smygu pob blwyddyn
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd fydd â’r campws cwbl ddi-fwg cyntaf ym Mhrydain ar ôl iddi roi gwaharddiad ar waith ar bob un o’i champysau o fis Medi 2019 ymlaen
Cynhyrchion Nicotin
Deddfwriaeth
- Bydd meysydd chwarae i blant, tiroedd ysgolion a thiroedd ysbytai yn ddi-fwg o haf 2019 ymlaen
- Mae tri thraeth di-fwg yn y Deyrnas Unedig, pob un ohonyn nhw yng Nghymru: dau yn Abertawe ac un yn Sir Benfro
- Daeth pecynnau plaen yn orfodol dan y gyfraith ym mis Mai 2016
- Daeth smygu mewn ceir pan fo rhywun o dan 18 oed yn bresennol yn anghyfreithlon ym mis Hydref 2015
- Daeth gwaharddiad ar arddangos tybaco mewn mannau gwerthu i rym ym mis Rhagfyr 2012 i siopau mawr ac ym mis Ebrill 2015 i siopau llai
- Daeth y gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig i rym yng Nghymru ym mis Ebrill 2007, ychydig o fisoedd cyn Lloegr
- Ers y gwaharddiad ar smygu yn 2007, mae cyfraddau smygu ymysg y cyhoedd wedi gostwng 6%
- Mae cyfraddau wedi gostwng 6% ymysg bechgyn yn eu harddegau ac 14% ymysg merched yn eu harddegau ers y ddeddfwriaeth yn 2007