In Press Release Welsh

Mae Action on Smoking and Health yng Nghymru (ASH Cymru) wedi croesawu’r cyhoeddiad gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y bydd sigaréts electronig a werthir yn y Deyrnas Unedig yn cael eu rheoleiddio gan yr Asiantaeth.

Dywedodd Prif Weithredwr Action on Smoking and Health yng Nghymru Elen de Lacy, “Rydyn ni’n croesawu penderfyniad yr Asiantaeth i reoleiddio sigaréts electronig gan ei bod yn hanfodol i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn effeithlon. Bydd eu trwyddedu’n caniatáu i oedolion sy’n smygu barhau i’w cael i’w helpu i smygu llai neu roi’r gorau i smygu tybaco, ond bydd yn sicrhau na ellir eu marchnata i blant neu bobl nad ydyn nhw’n smygu.”

Datganiad yr Asiantaeth i’r wasg:http://www.mhra.gov.uk/NewsCentre/CON288102

I gael mwy o wybodaeth am sigaréts electronig, ymweld at y dudalen pwnc yma.

Leave a Comment